xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1769 (Cy.196)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

15 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym

1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 135 a 145(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005

2.—(1Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(2) rhodder “gyrraedd y cyfryw safonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cymeradwyo” yn lle'r geiriau “gwblhau unrhyw gwrs hyfforddiant y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gymeradwyo”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 drwy newid y diffiniad o “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn rheoliad 3(2) o'r rheoliadau hynny. Bydd gofynion y “Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru” yn newid o gwblhau cwrs hyfforddiant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni safonau penodol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(1)

2002 p.32; diwygiwyd adran 135 gan Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158) a diwygiwyd adran 145 gan Atodlen 14 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 135 a 145 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2005/1227 (Cy.85) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2811 (Cy.238)) a Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S 2010/1142 (Cy.101)).