Search Legislation

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r Rheoliadau yn gymwys i gig dofednod a ddisgrifir ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl, ac eithrio cig dofednod a ddisgrifir ym mhwynt I(2) o'r Rhan honno o'r Atodiad hwnnw i'r Rheoliad hwnnw.

(4Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflenwi meintiau bach o gig dofednod yn uniongyrchol gan gynhyrchydd sydd â'i gynnyrch blynyddol yn llai na 10,000 o adar pan fo'r cig—

(a)yn dod o ddofednod a gigyddir ar fferm y cynhyrchydd; a

(b)yn cael ei gyflenwi i—

(i)y defnyddiwr olaf; neu

(ii)sefydliad manwerthu lleol sy'n cyflenwi cig o'r fath yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf fel cig ffres.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sy'n arfer swyddogaeth a roddwyd iddo gan reoliad 9;

  • mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl;

  • ystyr “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”) yw darpariaeth o'r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad y Comisiwn a bennir yng ngholofn 1 o Ran 1 neu 2 o Atodlen 1, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o Ran 1 neu 2 o'r Atodlen honno;

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw le, gan gynnwys y lleoedd y mae'n ofynnol eu harchwilio o dan Erthygl 12(5)(a) i (d) o Reoliad y Comisiwn, ac unrhyw gerbyd, ôl-gerbyd, stondin neu adeiledd symudol;

  • ystyr “y Rheoliad CMO Sengl” (“Single CMO Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (y Rheoliad CMO Sengl);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer cig dofednod, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “swyddog” (“officer”)—

    (a)

    mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw; a

    (b)

    mewn perthynas â chorff anghorfforedig, yw unrhyw aelod o'i gorff llywodraethu neu brif weithredwr, rheolwr neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd ag awdurdod ysgrifenedig gan awdurdod gorfodi i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

  • mae “torri” (“contravene”) yn cynnwys methiant i gydymffurfio, ac mae “toriad” (“contravention”) i'w ddehongli yn unol â hynny, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl yn gyfeiriad at Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(3Mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliad CMO Sengl neu yn Rheoliad y Comisiwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad Ewropeaidd y'u defnyddir ynddo.

Tramgwyddau

3.  Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw'n torri darpariaeth o Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ati yng ngholofn 1 o Atodlen 2, fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

Gofyniad tymheredd ar gyfer cig dofednod ffres

4.—(1Rhaid i gig dofednod, a dorrir ac a drinnir mewn mangreoedd o'r math a grybwyllir ym mharagraff (2) ac a gaiff ei farchnata yn y mangreoedd hynny fel cig dofednod ffres, gael ei gadw yn y mangreoedd hynny ar dymheredd nad yw'n is na — 2ºC nac yn uwch nag 8ºC(1).

(2Y mathau o fangreoedd yw—

(a)siopau manwerthu; a

(b)mangreoedd cyfagos i fannau gwerthu,

lle gwneir y torri a'r trin at yr unig ddiben o gyflenwi yn y fan a'r lle yn uniongyrchol i'r defnyddiwr.

Cofrestru fel sy'n ofynnol gan Erthygl 12 o Reoliad y Comisiwn

5.—(1Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys at y diben o gofrestru lladd-dai a chynhyrchwyr fel sy'n ofynnol gan Erthygl 12 o Reoliad y Comisiwn.

(2Caiff unrhyw berson sy'n dymuno gweithredu fel—

(a)lladd-dy; neu

(b)cynhyrchydd,

a awdurdodwyd i ddefnyddio'r termau a bennir yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru, heb oedi'n afresymol, hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen o'r materion a bennir ym mharagraff (4).

(4Y materion penodedig yw—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;

(b)y rhesymau dros unrhyw wrthod cofrestriad; ac

(c)yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 6, mewn unrhyw achos pan wrthodir cofrestriad.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu diddymu cofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cynhyrchydd, neu, yn ôl fel y digwydd, y person sy'n cynnal busnes y lladd-dy dan sylw, o'r materion a bennir ym mharagraff (6).

(6Y materion penodedig yw—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i ddiddymu'r cofrestriad;

(b)y dyddiad y bydd y diddymiad yn cael effaith;

(c)y rhesymau am y diddymu; ac

(ch)yr hawl i apelio, a roddir gan reoliad 6.

Apelau yn erbyn penderfyniadau cofrestru

6.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad a bennir ym mharagraff (2) apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Y penderfyniadau yw—

(a)gwrthod cofrestriad, neu

(b)diddymu cofrestriad.

(3Mae'r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(2) yn gymwys i'r achosion.

(4Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn penderfyniad a bennir ym mharagraff (2) yw 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad.

(5Ni fydd diddymu cofrestriad fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) yn cael effaith hyd nes bo'r amser a ganiateir i apelio yn erbyn y penderfyniad wedi dod i ben, neu, os cyflwynir apêl, hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol neu hyd nes tynnir yr apêl yn ôl.

Pwerau llys ynadon mewn apêl

7.  Mewn apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru fel a grybwyllir yn rheoliad 6(2), caiff y llys ynadon naill ai wrthdroi'r penderfyniad neu gadarnhau'r penderfyniad.

Gwiriadau cynhwysiad dŵr

8.—(1Ac eithrio pan gyflawnir gwiriad cynhwysiad dŵr, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 16(1), (2), (3) neu (4) neu 20(2), (3) a (4) o Reoliad y Comisiwn, gan yr Asiantaeth, rhaid i wiriad o'r fath gael ei wneud gan weithredwr busnes bwyd y lladd-dy neu'r ffatri dorri dan sylw.

(2Ac eithrio pan wneir y gwiriad cynhwysiad dŵr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gan yr Asiantaeth, rhaid gwneud gwiriad o'r fath—

(a)ar gost gweithredwr y busnes bwyd; a

(b)o dan gyfrifoldeb yr Asiantaeth ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr Asiantaeth.

(3Mae Atodlen 3 yn cael effaith mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth am wiriadau cynhwysiad dŵr a gyflawnir gan yr Asiantaeth.

(4Yn y rheoliad hwn mae i “gweithredwr busnes bwyd” (“food business operator”) yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3(3) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Gorfodi

9.—(1Rhaid i'r Asiantaeth orfodi'r darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd mewn lladd-dai a ffatrïoedd torri.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i awdurdod bwyd orfodi—

(a)y darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd yn ei ardal (ac eithrio mewn lladd-dai a ffatrïoedd torri); a

(b)rheoliad 4.

(3Rhaid i awdurdod iechyd porthladd orfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ddosbarth mewn perthynas â chig dofednod a fewnforir o drydedd wlad.

(4Rhaid i'r gofynion cadw cofnodion yn Erthygl 12(2) a (4) o Reoliad y Comisiwn gael eu gorfodi gan Weinidogion Cymru.

(5Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw, a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.

Dyletswydd i roi cymorth a darparu gwybodaeth

10.  Rhaid i bob awdurdod gorfodi roi i unrhyw awdurdod gorfodi arall unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod hwnnw at y diben o gynorthwyo'r awdurdod hwnnw i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad

11.—(1Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat) ar unrhyw adeg resymol at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y swyddog awdurdodedig fynd â'r canlynol gydag ef—

(a)unrhyw bersonau eraill sy'n angenrheidiol ym marn y swyddog awdurdodedig; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

(3Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraff (1) neu (2) ac eithrio ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen a ddilyswyd yn briodol i ddangos awdurdod y swyddog.

(4Nid oes hawl i fynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir fel tŷ annedd preifat onid eir i mewn iddi yn unol â gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn

(5Os yw ynad heddwch, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd o dan lw, wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6), caiff yr ynad lofnodi gwarant sy'n caniatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(6Y materion yw—

(a)bod sail resymol dros gredu bod Amod A neu B wedi ei fodloni; a

(b)bod Amod C, CH, D neu DD wedi ei fodloni.

(7Amod A yw fod eitemau yn y fangre o'r math a grybwyllir yn rheoliad 12(1)(a) neu ddogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 12(1)(ch) a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth o dorri'r Rheoliadau hyn.

(8Amod B yw fod toriad o'r Rheoliadau hyn wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd yn y fangre honno.

(9Amod C yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod a'r meddiannydd wedi ei hysbysu (naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen) y gellir gwneud cais am warant.

(10Amod CH yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a phe hysbysid y meddiannydd y gellid gwneud cais am warant o dan y rheoliad hwn, gallai hynny danseilio'r diben o fynd i mewn.

(11Amod D yw fod y fangre heb feddiannydd, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros iddo ddychwelyd danseilio'r diben o fynd i mewn.

(12Amod DD yw fod y fangre'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat.

(13Mae gwarant a roddir o dan baragraff (5)—

(a)yn ddilys am un mis, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir y warant; a

(b)rhaid dangos y warant i'w harchwilio gan y person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn feddiannydd y fangre, neu'r person sy'n gofalu amdani.

(14Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb feddiannydd, neu sydd â'i meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog ddod yno.

Pwerau swyddog awdurdodedig

12.—(1Caiff swyddog awdurdodedig (“S”) sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 11—

(a)archwilio'r fangre, ac unrhyw offer, peiriannau neu gyfarpar sydd yn y fangre honno, ac unrhyw rai o'r eitemau canlynol a ddarganfyddir yn y fangre honno—

(i)unrhyw gig y mae gan S sail resymol dros gredu ei fod yn gig dofednod (gan gynnwys syrth ac unrhyw ddeunydd pacio y canfyddir y cig ynddynt);

(ii)unrhyw gynhwysydd gwag;

(iii)unrhyw label;

(iv)unrhyw ddeunydd pacio; a

(v)unrhyw ddofednod byw;

(b)chwilio'r fangre;

(c)cynnal unrhyw ymholiadau, archwiliadau neu brofion;

(ch)sicrhau mynediad i unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) sy'n ymwneud â materion o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, eu harchwilio a'u copïo, a'u symud oddi yno i alluogi eu copïo;

(d)sicrhau mynediad i, ac archwilio a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddyfais storio electronig neu gyfarpar cysylltiedig (“offer cyfrifiadurol”), a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu gofnodion a grybwyllir yn is-baragraff (ch) gan gynnwys data mewn perthynas â ffeiliau a ddilëwyd a logiau gweithgarwch; ac at y diben hwnnw, caiff S ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n gofalu am yr offer cyfrifiadurol, neu rywfodd arall yn ymwneud â'u gweithredu, yn rhoi i S pa bynnag gymorth (gan gynnwys darparu cyfrineiriau) ag a fynnir yn rhesymol gan S, ac yn ystod y gwiriadau, caiff S adfer data a gedwir yn yr offer cyfrifiadurol; ac

(dd)pan gedwir dogfen neu gofnod a grybwyllir yn is-baragraff (ch) drwy gyfrwng gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu ei gludo ymaith.

(2Caiff S roi cyfarwyddyd i berson sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r eitemau neu'r mangreoedd a grybwyllir isod, bod rhaid gadael y canlynol heb ymyrryd â hwy cyhyd ag y bo'n angenrheidiol yn rhesymol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad—

(a)unrhyw un neu ragor o'r eitemau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (v); a

(b)unrhyw fangre y darganfyddir unrhyw rai o'r eitemau hynny arni neu ynddi.

(3Pan fo S yn rhoi cyfarwyddyd i berson o dan baragraff (2) rhaid cadw'r eitemau hynny sy'n destun y cyfarwyddyd yn y fangre honno ar gost y person hwnnw.

(4Caiff S ymafael mewn, a chadw, unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) neu ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch) os oes rheswm ganddo i gredu y gallai fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

(5Caiff S ymafael mewn unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) fel un sy'n agored i'w dinistrio, os yw S o'r farn yn rhesymol ei bod yn torri unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn.

(6Caiff S ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol at y diben o gopïo dogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(ch), a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw offer cyfrifiadurol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu'r cofnodion hynny (ac wrth wneud hynny caiff adfer data), ar yr amod y dychwelir yr offer cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelir yn yr offer.

(7Os na all S symud ymaith eitem neu offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddi neu ynddynt o dan baragraff (4), (5) neu (6) ar unwaith, caiff—

(a)marcio'r eitem neu offer mewn unrhyw ffordd y tybia'n briodol; a

(b)rhoi i'r person sy'n ymddangos iddo ei fod â gofal o'r eitem neu offer cyfrifiadurol hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 12(7)”) sy'n—

(i)nodi manylion adnabod yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol;

(ii)ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn ymyrryd â'r eitem neu'r offer cyfrifiadurol hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S; a

(iii)gwahardd symud yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol o'r fangre lle ei darganfuwyd neu eu darganfuwyd, hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S.

(8Pan fo S, yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn, wedi gwirio swp o gig dofednod ac wedi ei fodloni nad yw'r swp yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 1 neu 7 o Reoliad y Comisiwn, caiff S roi cyfarwyddyd i unrhyw berson sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r swp neu'r fangre i beidio â marchnata neu fewnforio'r swp hwnnw hyd nes dangosir prawf i'r awdurdod gorfodi bod y swp wedi ei wneud i gydymffurfio â'r gofynion hynny.

(9Caiff S roi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan S mewn perthynas â swp o gig dofednod y mae paragraff (10) yn gymwys iddo—

(a)i atal marchnata'r swp o fewn yr Undeb Ewropeaidd hyd nes bo'r deunydd pacio wedi ei farcio, dan oruchwyliaeth, yn y modd a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 16(6) o Reoliad y Comisiwn; neu

(b)i sicrhau yr allforir y swp i drydedd wlad.

(10Mae'r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)swp o ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym yr ystyrir, yn dilyn gwrth-ddadansoddiad, nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn;

(b)swp a fewnforiwyd o ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym, y canfyddir nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn;

(c)swp o doriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym yr ystyrir, yn dilyn gwrth-ddadansoddiad, nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn; ac

(ch)swp a fewnforiwyd o doriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym, y canfyddir nad yw'n cydymffurfio ag Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn.

(11Rhaid i S beidio ag arfer unrhyw bŵer o dan y rheoliad hwn, neu roi cyfarwyddyd o dan y rheoliad hwn, ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo, dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod.

(12Caiff S gynnal archwiliad ar gais aelod-wladwriaeth arall neu ar gais y Comisiwn Ewropeaidd.

(13Yn y rheoliad hwn, mae i “dofednod byw” (“live poultry”) yr ystyr a roddir i “live poultry” yn Rhan XX o Atodiad I i'r Rheoliad CMO Sengl.

Gweithdrefn ar gyfer ymafael

13.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig (“S”) ddilyn y gweithdrefnau a bennir yn y rheoliad hwn os yw'n ymafael mewn unrhyw beth o dan reoliad 12(4), (5) neu (6).

(2Rhaid i S roi i'r person y mae'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre yr ymafaelir yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ynddi (“y fangre”), hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan—

(a)beth yr ymafaelodd S ynddo;

(b)pa bryd yr ymafaelodd S ynddo;

(c)ar ba sail yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer; ac

(ch)i ba gyfeiriad ac yn ystod pa gyfnod y gellir anfon hawliad am ddychwelyd yr eitem neu'r offer.

(3Ond os yw'r fangre heb feddiannydd neu os yw'n ymddangos i S nad oes neb â gofal o'r fangre, rhaid i S osod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre sy'n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2).

(4Caiff person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig (gan gynnwys credydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem neu'r offer) hysbysu S ynglŷn ag unrhyw hawliad na ddylid bod wedi ymafael yn yr eitem, dogfen neu gofnod, neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, gan ddatgan yn llawn y sail dros wneud yr hawliad.

(5Rhaid anfon yr hawliad i'r cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad ymafael, o fewn 14 diwrnod o'r ymafaeliad, sy'n cychwyn ar y diwrnod yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol.

(6Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(4), caiff yr awdurdod gorfodi gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial.

(7Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(4), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn 7 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu

(b)cadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial, ond rhaid iddo hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad.

(8Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5), caiff yr awdurdod gorfodi—

(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio; neu

(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre honno, o fewn 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio, yn datgan bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw a'r rheswm pam y mae'n cael ei chadw; neu

(b)dinistrio'r eitem ymafaeledig o fewn 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio o 14 diwrnod, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio, o fewn 14 diwrnod ar ôl ei dinistrio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod); neu

(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre honno, o fewn 14 diwrnod o ddinistrio'r eitem, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod) yn datgan bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio.

(9Ym mharagraff (8) ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n gwybod enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person hwnnw, neu (os gŵyr yr awdurdod gorfodi enwau mwy nag un person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig) pob un o'r personau hynny; neu

(b)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person sy'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod â gofal o'r fangre.

(10Yn achos unrhyw eitem a ddinistrir o dan baragraff (8)(b), caiff yr awdurdod gorfodi adennill y costau canlynol fel dyled oddi ar unrhyw berson a oedd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn union cyn ei dinistrio (ar wahân i gredydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem)—

(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r storfa lle'i cedwir;

(b)costau storio'r eitem am hyd at 14 diwrnod;

(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;

(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a

(d)costau dinistrio'r eitem.

(11Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn saith diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad;

(b)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu

(c)o fewn 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, cychwyn achos (“achos rheoliad 13(11)(c)”) mewn llys ynadon, i geisio gorchymyn i'w awdurdodi i ddinistrio'r eitem.

(12Mewn achos rheoliad 13(11)(c) caiff y llys ynadon—

(a)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig;

(b)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r eitem at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, am gyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny; neu

(c)ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n dychwelyd yr eitem at yr hawlydd, a gosod terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.

(13Os yw llys ynadon, mewn achos rheoliad 13(11)(c) yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig, caiff y llys hefyd orchymyn bod yr hawlydd (ond nid hawlydd sydd yn gredydwr â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem) yn talu pa rai bynnag a bennir gan y llys o'r costau a restrir ym mharagraff (10).

(14Os nad yw person sydd â buddiant perchnogol mewn eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 12(5) yn bwriadu gwneud hawliad o dan baragraff (4), caiff y person hwnnw hysbysu'r awdurdod gorfodi o hynny mewn ysgrifen, a chaiff yr awdurdod gorfodi (ond nid oes rhaid iddo) weithredu mewn un o'r ffyrdd a bennir ym mharagraff (8) heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben, ar ôl cael—

(a)cadarnhad ysgrifenedig gan y person hwnnw nad oes gan neb arall fuddiant perchnogol yn yr eitem honno (neu fod pob un sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn fodlon i'r awdurdod gorfodi weithredu heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben); a

(b)indemniad ysgrifenedig gan y person hwnnw rhag unrhyw hawliad a wneir gan berson arall sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem, a allai godi o ganlyniad i weithredu gan yr awdurdod gorfodi heb aros i'r cyfnod hawlio o 14 diwrnod ddod i ben.

(15Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 14 diwrnod yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddo o dan reoliad 12(6), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr offer cyfrifiadurol ymafaeledig o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, neu, os yw'n fyrrach, o fewn gweddill y cyfnod hwyaf o 14 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 12(6); neu

(b)cychwyn achos mewn llys ynadon o fewn saith diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, onid oes saith diwrnod neu lai yn weddill cyn i'r cyfnod hwyaf o 14 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 12(6) ddod i ben, am orchymyn yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig yn hwy na'r cyfnod o 14 diwrnod a bennir yn rheoliad 12(6).

(16Os yw llys ynadon, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddo o dan reoliad 12(6), yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol yr ymafaelwyd ynddo, caiff y llys osod amodau ynglŷn ag ar ba sail y caniateir parhau i gadw'r offer, gan gynnwys pennu terfyn amser pan fydd rhaid dychwelyd yr offer.

(17Mae'r weithdrefn mewn llys ynadon o dan y rheoliad hwn ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(5) yn gymwys i'r achosion.

Hysbysiadau cydymffurfio

14.—(1Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod unrhyw berson yn torri, neu wedi torri—

(a)darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd; neu

(b)rheoliad 4,

caiff y swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”), ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n cymryd pa bynnag gamau (neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini), o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan y swyddog awdurdodedig, i sicrhau nad yw'r toriad yn parhau neu'n digwydd drachefn.

(2Rhaid i hysbysiad cydymffurfio—

(a)datgan y sail dros yr hyn y mae'r swyddog awdurdodedig yn ei gredu;

(b)pennu'r mater sy'n gyfystyr â thoriad o'r Rheoliadau hyn;

(c)pennu'r gweithgareddau y mae'n rhaid iddynt beidio, neu'r camau y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(ch)datgan o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i weithgaredd beidio, neu y mae'n rhaid cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini;

(d)datgan yr hawl, a roddir gan reoliad 15, i apelio i lys ynadon; a

(dd)datgan y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o'r fath.

(3Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio yn dramgwydd.

Apelau yn erbyn hysbysiadau cydymffurfio

15.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad cydymffurfio apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw i lys ynadon.

(2Mae'r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.

(3Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio yw 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad cydymffurfio.

(4Caiff llys ynadon atal hysbysiad cydymffurfio dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth.

Pwerau llys ynadon mewn apêl

16.  Mewn apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys ynadon naill ai ddiddymu'r hysbysiad cydymffurfio neu gadarnhau'r hysbysiad gydag addasiad neu heb addasiad.

Cyhoeddusrwydd

17.—(1Caiff awdurdod gorfodi, ym mha bynnag fodd yr ystyria'n briodol, roi cyhoeddusrwydd i achosion pan ddinistrir eitemau yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 12(5).

(2Caiff awdurdod gorfodi, ym mha bynnag fodd yr ystyria'n briodol, roi cyhoeddusrwydd i achosion pan roddir hysbysiadau cydymffurfio gan yr awdurdod.

(3Ond rhaid i awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiad cydymffurfio a roddir ganddo—

(a)hyd nes bo'r amser ar gyfer apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio wedi mynd heibio;

(b)yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw apêl yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio ar droed; neu

(c)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio wedi llwyddo.

Rhwystro

18.  Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i swyddog awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdano neu amdani ar gyfer cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan reoliad 12(2), (8) neu (9);

(ch)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â hysbysiad rheoliad 12(7);

(d)yn fwriadol yn rhoi i swyddog awdurdodedig unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol; neu

(dd)heb esgus rhesymol, yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Tramgwyddau troseddol: cosb

19.  Mae Person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 3, 14(3) neu 18, yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Estyn y cyfnod ar gyfer dwyn erlyniadau

20.—(1Caniateir cychwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos i sylw'r erlynydd.

(2Ond ni chaniateir cychwyn achos o'r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni'r tramgwydd.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac y nodir arni'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth i sylw'r erlynydd, sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn achos, yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a

(b)rhaid barnu bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yr honnir iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol etc.

21.—(1Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod, a pherson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mewn perthynas â swyddogaethau'r aelod o reoli, fel y mae'n gymwys i swyddog corff corfforaethol.

(3Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth anghorfforedig) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff anghorfforedig) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(4Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r partner neu'r person (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “tramgwydd” (“offence”) yw tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

Gweithred neu ddiffyg gweithred gan drydydd person

22.  Pan fo cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gan un person (“A”) yn ganlyniad gweithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall (“B”), mae B hefyd yn cyflawni'r tramgwydd, a cheir cyhuddo B o'r tramgwydd a'i gollfarnu amdano yn rhinwedd y rheoliad hwn, pa un a ddygir achos yn erbyn A ai peidio.

Amddiffyniadau

23.—(1Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn os yw'r person hwnnw'n profi ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd.

(2Ni chaiff A ddibynnu ar amddiffyniad sy'n cynnwys honiad bod cyflawni'r tramgwydd i'w briodoli i weithred neu ddiffyg gweithred gan B oni fydd—

(a)A, saith diwrnod o leiaf cyn y gwrandawiad, wedi rhoi i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd ym meddiant A ar y pryd, ar gyfer adnabod, neu gynorthwyo i adnabod, B; neu

(b)y llys yn rhoi caniatâd i A.

Rhoi hysbysiadau

24.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi i'r person hwnnw drwy—

(a)ei ddanfon at y person hwnnw;

(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person hwnnw;

(c)ei anfon at y person hwnnw drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw; neu

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (9), ei anfon at y person hwnnw drwy gyfathrebiad electronig.

(2Ceir rhoi'r hysbysiad i gorff corfforaethol drwy ei roi i swyddog o'r corff hwnnw.

(3Ceir rhoi'r hysbysiad i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, partneriaeth Albanaidd neu bartneriaeth anghorfforedig drwy ei roi i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy'n ei reoli.

(4Ceir rhoi'r hysbysiad i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei roi i swyddog o'r corff anghorfforedig.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(6) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy'r post) yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff;

(b)yn achos partneriaeth anghorfforedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth neu'r corff;

(c)yn achos person y rhoddir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), (3) neu (4), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol, y bartneriaeth neu'r corff anghorfforaethol arall dan sylw; ac

(ch)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy'n hysbys ar gyfer y person dan sylw.

(6At ddibenion paragraff (5), mae'r cyfeiriadau at y “brif swyddfa” mewn perthynas â chwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, partneriaeth sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall sydd â'i brif swyddfa y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys, ym mhob achos, cyfeiriad at brif swyddfa'r corff hwnnw o fewn y Deyrnas Unedig (os oes un).

(7Mae paragraff (8) yn gymwys os yw'r person y bwriedir rhoi hysbysiad iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad, o fewn y Deyrnas Unedig (“y cyfeiriad penodedig”), ac eithrio cyfeiriad priodol y person hwnnw (fel y'i penderfynir o dan baragraff (5)), fel y cyfeiriad lle bydd y person hwnnw, neu rywun arall ar ran y person hwnnw, yn derbyn dogfennau o'r un disgrifiad â hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

(8Rhaid trin y cyfeiriad penodedig yn ogystal, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person.

(9Os yw hysbysiad a roddir i berson o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei anfon gan awdurdod gorfodi drwy gyfathrebiad electronig, ni cheir trin yr hysbysiad fel pe bai wedi ei roi oni fydd—

(a)y person y rhoddir yr hysbysiad iddo wedi dynodi wrth yr awdurdod gorfodi ei fod yn fodlon derbyn hysbysiadau drwy gyfathrebiad electronig ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw; a

(b)yr hysbysiad yn cael i anfon i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(10Yn y rheoliad hwn—

  • nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig na phartneriaeth Albanaidd; ac

  • yr un ystyr sydd i “cyfathrebiad electronig” (“electronic communication”) ag a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7).

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

25.—(1Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990(8) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau a bennir ym mharagraff (2)—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);

(b)adran 29 (caffael samplau);

(c)adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);

(ch)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); a

(d)adran 46(1) (treuliau swyddogion awdurdodedig).

(2Yr addasiadau yw—

(a)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (neu Ran o'r Ddeddf honno) fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn;

(b)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at swyddog awdurdodedig, neu swyddog awdurdod gorfodi neu awdurdod bwyd, fel cyfeiriad at swyddog awdurdodedig fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn;

(c)mewn perthynas ag adran 29—

(i)ym mharagraff (b)(ii), dehongli'r cyfeiriad at adran 32 fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn; a

(ii)ym mharagraff (d), hepgor y geiriau “or of regulations or order made under it”;

(ch)mewn perthynas ag adran 30(8)(a), hepgor y geiriau “under subsection (6) above”; a

(d)mewn perthynas ag adran 44, dehongli unrhyw gyfeiriad at awdurdod bwyd fel cyfeiriad at awdurdod gorfodi.

Diwygiad canlyniadol

26.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(9), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), mewn perthynas â Chymru, yn lle teitl a chyfeirnod Rheoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984(10), rhodder teitl a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Dirymiadau

27.  Dirymir y canlynol o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984; a

(b)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(11)

(i)erthygl 9; a

(ii)yn Atodlenni 1, 3 a 5, y cyfeiriadau at Reoliadau Cig Dofednod (Cynhwysiad Dŵr) 1984.

Alun Davies

Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources