xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1593 (Cy.184)

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011

Gwnaed

28 Mehefin 2011

Yn dod i rym

29 Mehefin 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(3) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddo(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Mehefin 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Sefydlu panel dethol

2.—(1Pan ofynnir iddynt wneud hynny gan Brif Weinidog Cymru rhaid i Weinidogion Cymru gynnull panel dethol at ddibenion paragraff 7(2) o Atodlen 1 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i banel dethol gael ei ffurfio gan y canlynol—

(a)aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru;

(b)person achrededig gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i weithredu fel asesydd penodi annibynnol;

(c)person y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn meddu ar brofiad perthnasol; ac

(ch)Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a enwebwyd gan bwyllgor perthnasol.

(3Pan fo pwyllgor perthnasol naill ai:

(a)yn gwrthod enwebu; neu

(b)yn methu ag enwebu o fewn amser rhesymol,

nid yw paragraff (2)(ch) o'r rheoliad hwn yn gymwys.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “profiad perthnasol” (“relevant experience”) yw profiad o hybu defnydd o'r Gymraeg a/neu iaith arall; ac

ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr estynnir gwahoddiad iddo gan Weinidogion Cymru i enwebu.

Personau wedi eu anghymhwyso

3.  Mae person sy'n dal neu wedi dal swydd Comisiynydd neu Ddirprwy Gomisiynydd wedi ei anghymhwyso rhag eistedd ar banel dethol.

Yr egwyddorion i'w dilyn

4.  Wrth benodi'r Comisiynydd rhaid i Brif Weinidog Cymru ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion, teilyngdod, craffu annibynnol, cyfle cyfartal, uniondeb, didwylledd a thryloywder a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus dyddiedig Awst 2009.

Gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi

5.—(1Wrth gyf-weld ag ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd, rhaid i banel dethol asesu gwybodaeth pob ymgeisydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi.

(2Rhaid i argymhellion y mae panel dethol yn eu rhoi i Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â'r penodiad gynnwys asesiad y panel o wybodaeth pob ymgeisydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi.

(3Cyn penodi person yn Gomisiynydd rhaid bod Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o'r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Mae adran 2 o'r Mesur yn darparu bod y Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.

Wrth benodi'r Comisiynydd, mae Prif Weinidog Cymru o dan ddyletswydd i gydymffurfio â rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth ynghylch y penodiad (y cyfeirir atynt yn y Mesur fel “rheoliadau penodi”).

Mae paragraff 7(1) o Atodlen 1 i'r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodi.

Mae paragraff 7(2) o Atodlen 1 i'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i reoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch sefydlu panel o bersonau sydd i gyf-weld ag ymgeiswyr ar gyfer penodi Comisiynydd a gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â'r penodiad hwnnw (y cyfeirir ato yn y Mesur fel “panel dethol”).

Mae paragraffau 7(3) i (6) o Atodlen 1 i'r Mesur yn darparu y caiff rheoliadau penodi wneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn wrth benodi'r Comisiynydd a gwybodaeth y Comisiynydd o'r Gymraeg a'i hyfedredd ynddi, ymysg materion eraill.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn i gydymffurfio â'u dyletswydd i wneud rheoliadau penodi. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnull panel ethol a'i aelodaeth. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr egwyddorion sydd i'w dilyn gan Brif Weinidog Cymru wrth benodi'r Comisiynydd a'r wybodaeth a'r hyfedredd yn y Gymraeg sy'n rhaid i berson a benodir yn Gomisiynydd ei chael neu ei gael.

Mae rheoliad 2 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnull panel dethol pan fydd Prif Weinidog Cymru yn gofyn iddynt wneud hynny. Bydd panel dethol a sefydlir ar gyfer penodi'r Comisiynydd yn cynnwys aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru (a elwir “Llywodraeth Cymru”); asesydd annibynnol; person sydd â phrofiad o hybu defnydd o'r Gymraeg a/neu iaith arall; ac Aelod Cynulliad a enwebwyd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn achos pan fo pwyllgor yn gwrthod neu'n methu enwebu, mae rheoliad 2 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gynnull panel dethol nad yw'n cynnwys Aelod Cynulliad.

Mae rheoliad 3 yn atal person sy'n dal neu wedi dal swydd Comisiynydd neu Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg rhag eistedd ar banel dethol.

Mae rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar Brif Weinidog Cymru, wrth benodi'r Comisiynydd, i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb gweinidogion; teilyngdod; craffu annibynnol; cyfle cyfartal; uniondeb; didwylledd a thryloywder; a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o'r egwyddorion hynny a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus dyddiedig Awst 2009. Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer dyddiedig Awst 2009 ar wefan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus: www.publicappointmentscommissioner.org/

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth o'r Gymraeg a hyfedredd ynddi y mae'n rhaid i berson a benodir yn Gomisiynydd ei chael neu ei gael.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau hyn wedi ei baratoi a gellir cael copi ohono gan Uned yr Iaith Gymraeg, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.