- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu'n wahanol—
mae “angorfeydd” (“moorings”) yn cynnwys jetïau arnofiol, pontynau, bwiau a chyfarpar neu gyfleusterau cyffelyb;
ystyr “yr awdurdodau lleol” (“the local authorities”) yw Cyngor Sir Penfro a Chyngor Cymuned Saundersfoot;
mae “awyren fôr” (“seaplane”) yn cynnwys cwch hedfan ac unrhyw fath arall o awyren a gynlluniwyd i symud ar wyneb y dŵr;
ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot a gyfansoddir gan y Gorchymyn hwn, ac ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw un o'r Comisiynwyr;
ystyr “y Comisiynwyr blaenorol” (“the former Commissioners”) yw Comisiynwyr Harbwr Saundersfoot a gyfansoddwyd gan Orchymyn 1958;
ystyr “corff sy'n penodi” (“appointing body”) yw unrhyw un o'r personau (sef yr awdurdodau lleol a'r panel penodiadau) y penodir Comisiynwyr ganddynt yn unol ag erthygl 5;
ystyr “Deddf 1847” (“the 1847 Act”) yw Deddf Cymalau Harbyrau, Dociau a Phierau 1847(1);
ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Deddf Harbyrau 1964(2);
ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(3);
ystyr “dyddiad y cyfansoddiad newydd” (“new constitution date”) yw diwrnod cyntaf y mis sy'n cychwyn yn union wedi 3 mis ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn;
ystyr “dyfrfad personol” (“personal watercraft”) yw unrhyw ddyfrfad (nad yw'n strwythur sydd oherwydd ei siâp ceugrwm yn darparu hynofedd ar gyfer cludo personau neu nwyddau), a yrrir gan beiriant jet neu fath arall o yriant mecanyddol ac sy'n cael ei lywio naill ai—
drwy system o gysylltiadau a weithredir gan gyrn llywio (pa un a oes llyw ym mhen ôl y dyfrfad ai peidio);
drwy ddefnyddio pwysau'r person neu bersonau sy'n reidio'r bad at y diben hwnnw; neu
drwy gyfuniad o'r dulliau y cyfeirir atynt yn (a) a (b);
ystyr “y dynesfeydd” (“the approaches”) yw unrhyw ddynesfeydd at yr harbwr o gyfeiriad y môr;
ystyr “Gorchymyn 1958” (“the 1958 Order”) yw Gorchymyn Harbwr Saundersfoot 1958(4);
ystyr “gwaith llanwol” (“tidal work”) yw cymaint o unrhyw waith sydd ar, o dan neu dros ddyfroedd llanwol neu dir sydd islaw lefel y penllanw;
mae i “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”) yr ystyr a roddir i “the Welsh Ministers” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(5);
ystyr “y gweithiau” (“the works”) yw'r gweithiau a freiniwyd yn y Comisiynwyr blaenorol o dan Orchymyn 1958;
ystyr “yr harbwr” (“the harbour”) yw harbwr Saundersfoot fel y'i diffinnir gan erthygl 22 a'r tir, adeiladau, gweithiau, peiriannau, eiddo a chyfleusterau sy'n gysylltiedig ag ef, neu unrhyw ran ohono neu ohonynt;
mae “yr harbwrfeistr” (“the harbour master”) yn cynnwys dirprwyon a chynorthwywyr awdurdodedig yr harbwrfeistr ac unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynwyr i weithredu yn y swydd honno;
ystyr “lefel penllanw” (“level of high water”) yw lefel gymedrig penllanw'r gorlanwau;
mae “llong” (“vessel”) yn cynnwys—
badau di-ddadleoliad;
dyfrfadau personol;
awyrennau môr; ac
unrhyw beth arall a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer arnofio ar wyneb y dŵr neu i'w roi o dan yr wyneb (yn barhaol neu dros dro) a hofrenfadau neu unrhyw gerbyd amffibiaidd arall, a ddefnyddir neu y gellid ei ddefnyddio fel dull o gludo ar ddŵr;
ystyr “y maes parcio” (“the car park”) yw'r ardal a amlinellir â llinellau gwyrdd toredig ar y map o'r harbwr;
ystyr “map o'r harbwr” (“harbour map”) yw'r map a gynhwysir yn Atodlen 5, dyddiedig 3 Ebrill 1958 ac sy'n dwyn yr enw “Map o Derfynau Harbwr Saundersfoot” (“Map of the Limits of Saundersfoot Harbour”);
ystyr “y mynegai” (“the index”) yw—
y mynegai cyffredinol prisiau manwerthu (ar gyfer pob eitem) a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau, neu
os na chyhoeddwyd y mynegai hwnnw ar gyfer mis perthnasol, unrhyw fynegai neu ffigurau mynegeiol sy'n cymryd ei le ac a gyhoeddwyd gan y Bwrdd hwnnw;
ystyr “y panel penodiadau” (“the appointments panel”) yw'r panel a gyfansoddir o dan erthygl 7;
ystyr “y pwyllgor cynghori” (“the advisory committee”) yw'r pwyllgor a benodir o dan erthygl 58(1);
ystyr “refeniwiau'r harbwr” (“the harbour revenues”) yw'r ardrethi, tollau, ffioedd, rhenti ac arian a derbyniadau eraill a gymerir ac a geir fel incwm o'r ymgymeriad, neu mewn perthynas â'r ymgymeriad, o dan ac yn rhinwedd y Gorchymyn hwn;
ystyr “Trinity House” (“Trinity House”) yw “The Corporation of Trinity House of Deptford Strond”;
ystyr “yr ymgymeriad” (“the undertaking”) yw ymgymeriad y Comisiynwyr mewn cysylltiad â'r harbwr, ac y mae'n cynnwys yr ystadau, hawliau ac eiddo a roddwyd i, neu a freiniwyd yn y Comisiynwyr blaenorol yn unol â Gorchymyn 1958;
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw—
unrhyw berson sy'n ymgymerydd statudol at unrhyw un o ddibenion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(6);
unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991(7); ac
awdurdod diogelu arfordir o fewn yr ystyr a roddir i “coast protection authority” gan adran 1 o Ddeddf Diogelu'r Arfordir 1949(8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: