ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2

1

Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

a

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

b

yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

2

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

b

sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd4

1

Person—

a

sy'n ffoadur;

b

sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i'r person gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

c

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;

b

oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

c

sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

ch

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

b

ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

c

oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

ch

sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

d

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd5

1

Person—

a

sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

b

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

c

sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw y cais am loches;

c

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

b

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

c

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais am loches;

ch

sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6

1

Person—

a

sydd—

i

yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunangyflogedig o'r EEA;

ii

yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

iii

yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

iv

yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

v

yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

vi

yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

b

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7

Person sydd—

a

yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud78, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall8

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

c

sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

ch

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

d

mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o'r UE

9

1

Person—

a

sydd naill ai—

i

yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o'r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

ii

yn aelod o deulu person o'r fath;

b

sydd—

i

yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu

ii

yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

c

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

2

Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

3

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

4

At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o'r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw'r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig.

10

1

Person—

a

sy'n wladolyn o'r UE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

b

sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

2

Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r UE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd11

Person—

a

sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

b

sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

ch

mewn achos lle'r oedd ei breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd12

Person—

a

sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

b

sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

c

sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.