RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — cyffredinol94
1
Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—
a
nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 88 neu reoliad 91; a
b
bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano.
2
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.