Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Bydd myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bo'r statws hwnnw'n terfynu yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2Y “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw'r cyfnod y bydd myfyriwr cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 4, mae'r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben pan fydd y myfyriwr cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo na throsi, neu pan na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws y myfyriwr cymwys fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 8, rheoliad 83 neu reoliad 108; neu

(b)yn cefnu ar gwrs dynodedig y myfyriwr cymwys neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 69, 87, 113 a 123 a pharagraff 15 o Atodlen 4.

(7Os bydd y cyfnod cymhwystra'n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(8Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, na fu'n bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1.

(9Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (11), ni fydd myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, neu fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2006, sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol, yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC, ac eithrio—

(a)nad yw'r didyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

(b)yr ychwanegir un flwyddyn yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf am rhesymau personol anorfod.

(10Mae paragraff (11) yn gymwys—

(a)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;

(b)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a restrir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn nad oedd y myfyriwr wedi dechrau arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac

(ch)i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.

(11Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X) − PrC.

(12Er gwaethaf paragraff (1), ni fydd myfyriwr sy'n parhau yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y.

(13Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (14), ni fydd myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y.

(14Ni fydd myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac sy'n dechrau ar flwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar neu ar ôl 1 Medi 2011 yn gymwys am ddim ond grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, mewn perthynas â'r cwrs pellach, am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z.

(15Mewn unrhyw achos pan fo nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn, yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y bydd ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, y blynyddoedd academaidd y bydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer y cyfryw grant neu fenthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, fydd blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol.

(16Yn y rheoliad hwn—

(a)A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

(b)D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, pa un bynnag yw'r mwyaf;

(c)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

(ch)PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a 2 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd;

(dd)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(e)PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(f)Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y mae wedi'i benderfynu mewn perthynas â'r nifer hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 nad oedd cymorth ar gael;

(ff)Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(g)ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2011;

(ng)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr nad yw'n athro cymwysedig nac yn athrawes gymwysedig, sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a phan fo'r cwrs—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth amser-llawn) a phan fo'r cwrs naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

(h)ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—

(i)a ddechreuodd ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2011; neu

(ii)sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2011, ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr cymwys hwnnw arno cyn 1 Medi 2006.

(17Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, bydd presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd yn cael ei drin fel presenoldeb am flwyddyn academaidd gyfan.

(18Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.

(19Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd, benthyciad at ffioedd, neu grant at gostau byw, rywfodd arall heblaw'n unol â pharagraffau (8) i (16).

(20At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (22), (23) a (24) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch amser-llawn neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (21).

(21Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (20) yw—

(a)bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a ariannwyd yn gyhoeddus am rywfaint o'r blynyddoedd academaidd neu'r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd i'r myfyriwr fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, iddo ymgymryd â'r cwrs, i dalu ffioedd wedi'i dalu o gronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i gronfeydd cyhoeddus.

(22Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na 2 flynedd a'r cwrs presennol—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth amser-llawn) a phan fo'r cwrs presennol naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; ac

(c)nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(23Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(24Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources