- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—
(a)os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;
(b)os yw'n un o'r canlynol—
(i)cwrs amser-llawn;
(ii)cwrs rhyngosod; neu
(iii)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
(aa)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(bb)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(cc)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;
(c)os nad yw'n gwrs dysgu o bell dynodedig;
(ch)os yw o leiaf—
(i)yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu
(ii)yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg; a
(d)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad o'r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
(2) Nid yw cwrs, sy'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi'i seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.
(4) Nid yw paragraff 1(c) yn gymwys os bydd y person sy'n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â'r cwrs—
(a)yn fyfyriwr cymwys anabl; a
(b)yn ymgymryd â'r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.
(5) At ddibenion paragraff (1)—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1).
(6) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—
(a)os yw'r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a
(b)os yw rhan o'r cwrs yn ddewisol.
(7) Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(8) At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: