- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
106.—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth, gan geisydd a chan fyfyriwr rhan-amser cymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda'r cais am gymorth o dan reoliad 104.
(3) Nid yw'n ofynnol bod awdurdod academaidd yn llenwi datganiad os na all roi'r cadarnhad sydd yn ofynnol gan is-baragraff 4(a)(ii) neu 4(b)(ii).
(4) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o'r cwrs rhan-amser dynodedig;
(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi o dan y Rhan hon;
(b)dwyster yr astudio;
(c)nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—
(i)mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;
(ii)y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 90(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a)unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 90(1)(c);
(b)unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: