xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 14DIWYGIO RHEOLIADAU 2009

Diwygio Rheoliadau 2009

124.  Mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu 1 Gorffennaf 2011, diwygir Rheoliadau 2009 yn unol â'r rheoliadau canlynol.

125.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle'r diffiniad o “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”), rhodder—

ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd cwrs y mae'r myfyriwr yn gymwys i wneud cais am fwrsari gofal iechyd neu lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi, ac y cyfrifir swm y bwrsari neu lwfans drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr, pa un a fydd canlyniad y cyfrifiad yn swm o ddim, ai peidio;;

(b)yn y diffiniad o “Erasmus year” (“blwyddyn Erasmus”), yn lle “a bod pob cyfnod astudio'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig”, rhodder—

ac—

(a)

ymgymerir â phob cyfnod astudio yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(b)

ymgymerir â phob cyfnod ar leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd mewn gweithle y tu allan i'r Deyrnas Unedig;;

(c)yn y diffiniad o “cyfnod arferol” (“ordinary duration”), hepgorer “ac eithrio unrhyw flynyddoedd academaidd o'r cwrs sy'n flynyddoedd bwrsari neu'n flynyddoedd Erasmus”; ac

(ch)hepgorer y diffiniad o “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”).

126.  Yn rheoliad 2(7)(a)(i), ar ôl “athrawon” mewnosoder “neu'n flwyddyn academaidd cwrs dynodedig sy'n flwyddyn Erasmus”.

127.  Yn lle rheoliad 5(1)(b)(iii), rhodder—

(iii)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(aa)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(bb)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, pan fo'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011, a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw;.

128.  Yn rheoliad 7(5)(a), ar ôl “gweithiwr cymdeithasol” mewnosoder “, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer”.

129.  Hepgorer rheoliad 7(6).

130.—(1Yn lle rheoliad 24(6)(d)(iv), rhodder—

(iv)Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol neu'r Asiantaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a Llesiant Cymdeithasol a sefydlwyd o dan adrannau 7 a 12 o Ddeddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009 (1).

(2Ar ddiwedd rheoliad 24(15)(b), hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—

;

(c)myfyriwr ar gyfnod astudio neu gyfnod o leoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus..

131.—(1Yn rheoliad 32(2), yn lle “neu'r Athrofa” rhodder “, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus”.

(2Yn rheoliad 33(3)(a) yn lle “neu yn yr Athrofa” rhodder “, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad ” yn y paragraff hwn)”.

(3Yn rheoliad 33(3)(b), yn lle “neu'r Athrofa” rhodder “, yr Athrofa neu leoliad”.

(4Yn rheoliad 33(3)(c), yn lle “neu'r Athrofa” rhodder “, yr Athrofa neu leoliad”.

(5Yn rheoliad 35(a), yn lle “neu gyfnod o astudio” rhodder “, cyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus”.

(6Yn rheoliad 35(b), yn lle “neu'r Athrofa” rhodder “, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus”.

132.—(1Yn rheoliad 43(8)(a), hepgorer “a”.

(1Ar ddiwedd rheoliad 43(8)(b), hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—

; ac

(c)myfyriwr ar gyfnod astudio neu gyfnod o leoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus..

133.  Yn rheoliad 56(1)(c), ar ôl “tramor” mewnosoder “neu ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus”.

134.  Hepgorer—

(a)rheoliad 60(2); a

(b)rheoliad 60(13).

135.  Yn rheoliad 109(4)(a)(v), hepgorer “gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol”.

136.  Ym mharagraff 1(1) yn Atodlen 1, yn y diffiniad o “aelod o deulu”, yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—

(ii)disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)o dan 21 oed; neu

(bb)yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu.

137.—(1Yn is-baragraff (3) o baragraff 5 o Atodlen 5—

(a)yn union cyn “Os yw Gweinidogion Cymru” mewnosoder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A)”; a

(b)ar ôl “y flwyddyn ariannol gyfredol” mewnosoder “yn y paragraff hwn”.

(2Ar ôl is-baragraff (3) o baragraff 5 o Atodlen 5, mewnosoder—

(3A) Os digwydd bod is-baragraff (3) neu'r is-baragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol, a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn ddim mwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at y diben o alluogi'r myfyrwyr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, asesu incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol..

(3Yn lle is-baragraff (4) o baragraff 5 o Atodlen 5, rhodder—

(4) Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol y rhiant o dan is-baragraff (3), neu, pan fo'n gymwys, o dan is-baragraff (3A), a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn debygol o fod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol..