xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
2 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mehefin 2011
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2011
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 (tenantiaethau na chânt fod yn denantiaethau sicr) yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff 2(1)(b) o Atodlen 1(3), yn lle “£25,000” rhodder “£100,000”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.
2 Mehefin 2011
( Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r swm o rent blynyddol sy'n peri, o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988, na chaiff tenantiaeth fod yn denantiaeth sicr pan fo'r rhent blynyddol uwchlaw'r swm hwnnw. Cynyddir y swm hwnnw o £25,000 i £100,000, yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2011 ymlaen.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
1988 p.50. Mewnosodwyd adran 1(2A) gan reoliad 2 o Reoliadau Cyfeiriadau at Ardrethu (Tai) 1990 (O.S. 1990/434) a pharagraff 27 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 1(2A), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Tai 1988 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Amnewidiwyd paragraff 2(1)(b) gan O.S. 1990/434 a diwygiwyd ef gan O.S. 1993/651.