xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offer amddiffyn llygaid

8.—(1Rhaid i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul—

(a)trefnu bod offer amddiffyn llygaid ar gael i berson bob tro y mae'r person hwnnw'n ceisio defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul; neu

(b)sicrhau bod gan berson offer amddiffyn llygaid gydag ef bob tro y mae'n ceisio defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul,

a rhaid iddo sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, fod person sy'n defnyddio gwely haul ar fangre gwelyau haul yn gwisgo offer amddiffyn llygaid o'r fath.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “offer amddiffyn llygaid” (“protective eyewear”) yw offer llygaid sy'n ddiogel ac y mae'n briodol eu defnyddio gyda'r gwely haul ac sy'n amddiffyn llygaid person sy'n defnyddio'r gwely haul rhag effeithiau bod mewn cysylltiad ag ymbelydredd a allyrrir gan y gwely haul.

(3Caiff offer amddiffyn llygaid y trefnir iddynt fod ar gael yn unol â pharagraff (1)(a) fod yn offer llygaid untro, y mae'n rhaid cael gwared arnynt ar ôl iddynt gael eu defnyddio; neu offer llygaid amlddefnydd y mae'n rhaid eu glanweithio'n briodol cyn eu hailddefnyddio.

(4Mae person sy'n rhedeg busnes gwelyau haul ac sy'n methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (1) neu baragraff (3) yn cyflawni tramgwydd.

(5Mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y rheoliad hwn, mae'n amddiffyniad i berson sy'n rhedeg busnes gwelyau haul brofi ei fod ef (neu gyflogai neu asiant iddo) wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd hwnnw.

(6Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.