- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Rhaid i awdurdod, ym mhob blwyddyn, gasglu'r wybodaeth a ganlyn—
(a)nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno;
(b)nifer y personau a gyflogir gan yr awdurdod ar y dyddiad hwnnw yn ôl—
(i)swydd;
(ii)gradd, ond dim ond pan fo awdurdod yn gweithredu system graddau mewn cysylltiad â'i gyflogeion;
(iii)cyflog;
(iv)y math o gontract (gan gynnwys contractau parhaol a chyfnod penodol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny); a
(v)y patrwm gwaith (gan gynnwys trefniadau gweithio llawnamser, rhan-amser a threfniadau gweithio hyblyg eraill ond heb fod yn gyfyngedig i hynny).
(c)nifer y canlynol, yn ystod y cyfnod adrodd sy'n diweddu ar y dyddiad perthnasol yn y flwyddyn honno—
(i)personau sydd wedi gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod (heb gynnwys personau sydd eisoes wedi eu cyflogi gan yr awdurdod);
(ii)cyflogeion yr awdurdod sydd wedi newid swydd yn yr awdurdod gan gynnwys y nifer a wnaeth gais am newid swydd a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;
(iii)cyflogeion yr awdurdod sydd wedi gwneud cais am hyfforddiant a'r nifer a fu'n llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais;
(iv)cyflogeion yr awdurdod a gwblhaodd yr hyfforddiant;
(v)cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn rhan o weithdrefnau cwyno naill ai am mai hwy yw'r person a wnaeth gyhuddiad yn erbyn un arall neu am mai hwy yw'r person y gwnaed cyhuddiad yn ei erbyn;
(vi)cyflogeion yr awdurdod a fu neu sydd yn destun achos disgyblu; a
(vii)cyflogeion yr awdurdod a ymadawodd â chyflogaeth yr awdurdod.
(2) Ym mharagraff (1) (ac eithrio paragraff (1)(b)) mae unrhyw gyfeiriad at nifer y personau neu'r cyflogeion yn cynnwys, mewn cysylltiad â phob un o'r nodweddion gwarchodedig, y niferoedd sy'n rhannu'r nodwedd warchodedig.
(3) Ym mharagraff (1)(b) mae'r cyfeiriad at nifer y personau a gyflogir yn cynnwys, mewn cysylltiad â nodwedd warchodedig rhyw, y nifer sydd yn fenywod a'r nifer sydd yn ddynion.
(4) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r wybodaeth y mae wedi ei chasglu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3).
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn y mae awdurdod i'w ddibynnu arno yn y fath fodd ag i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod.
(6) Mae paragraff (5) yn gymwys—
(a)i unrhyw gyflogai i'r awdurdod; a
(b)i unrhyw berson sy'n gwneud cais am gyflogaeth gyda'r awdurdod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: