Search Legislation

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1014 (Cy.152)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Mawrth 2011

Yn dod i rym

30 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(1), 6(2) a 19(1) a (2) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan adran 8(1) o'r Mesur hwnnw.

Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 20(3) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mawrth 2011.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”) yw cyfleuster ar gyfer gwaredu neu adennill gwastraff; at ddibenion y diffiniad hwn, mae i “gwaredu” ac “adennill” yr ystyron a roddir i “disposal” a “recovery” yn Erthygl 3(15) a (19) o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol(2);

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;

  • ystyr “y system WasteDataFlow” (“the WasteDataFlow system”) yw'r system sy'n seiliedig ar y we ar gyfer adrodd am wastraff trefol a gynhelir ac a weithredir yng Nghymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

  • ystyr “y targedau” (“the targets”) yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriadau at swm gwastraff trefol awdurdod lleol yn gyfeiriadau at swm gwastraff mewn tunelledd; a

(b)mae cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon gan awdurdod lleol i gyfleuster gwastraff i gynnwys cyfeiriadau at wastraff yn cael ei anfon i gyfleuster o'r fath yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol.

RHAN 2Monitro

Awdurdod monitro

3.—(1Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod monitro at ddibenion y targedau.

(2Rhaid i'r awdurdod monitro—

(a)monitro perfformiad awdurdodau lleol mewn cysylltiad â'r targedau:

(b)monitro perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn unol â rheoliad 7, ddilysu'r wybodaeth a gofnodir gan awdurdodau lleol ar y system WasteDataFlow; ac

(ch)yn ddi-oed hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, o unrhyw achos lle y mae'n ymddangos i'r awdurdod monitro bod awdurdod lleol(3) yn atebol neu gallai fod yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn.

Rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu i'r awdurdod gydymffurfio â'r gofynion sydd ganddo i gadw cofnodion o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnodion sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob blwyddyn ariannol darged ac am bob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf(4)

(a)cyfanswm ei wastraff trefol(5);

(b)cyfanswm y gwastraff trefol a anfonwyd i bob cyfleuster gwastraff gan yr awdurdod lleol;

(c)y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd ym mhob cam olynol wrth sortio ei gwastraff trefol, yn unrhyw un o'r cyfleusterau ac ym mhob un ohonynt; ac

(ch)y swm o ddeunyddiau a wrthodwyd o dan baragraff (c) a waredir gan yr awdurdod lleol, neu gan gyfleuster gwastraff.

(3Rhaid i'r cofnod gynnwys manylion am y canlynol—

(a)disgrifiad o'r gwastraff o ran y math o ddeunyddiau sydd ynddo;

(b)sut y casglwyd pob un o'r gwahanol fathau o ddeunyddiau; ac

(c)os casglwyd y gwastraff gan asiant i'r awdurdod lleol, enw'r asiant hwnnw.

(4Rhaid cadw'r cofnodion am gyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflwynir y cofnodion yn gyntaf drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow yn unol â rheoliad 5(2).

(5Caiff awdurdod lleol gadw'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw gan baragraff (2) ar ffurf electronig os yw'r awdurdod lleol yn gallu cynhyrchu'r testun ar ffurf dogfen weladwy a darllenadwy.

(6Mae awdurdod lleol sy'n methu â chadw'r cofnodion sy'n ofynnol gan baragraff (2) yn atebol i gosb.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “sortio” yw'r weithred o wahanu deunyddiau ailgylchu unigol o swm o wastraff cymysg neu ddeunyddiau cymysg.

(8Yn y rheoliad hwn, caiff gwastraff trefol ei “waredu” pan fo'n mynd drwy weithred gwaredu o fath a ddynodir yn Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

Rhwymedigaeth awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth

5.—(1Yn ystod pob blwyddyn ariannol darged a phob blwyddyn ariannol ddilynol hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ffurflenni wedi eu cwblhau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a restrir yn rheoliadau 4(2) a (3) (“yr wybodaeth”) i'r awdurdod monitro.

(2Rhaid i bob ffurflen wedi ei chwblhau—

(a)gynnwys yr wybodaeth ar gyfer y cyfnod perthnasol o 3 mis;

(b)gael ei dychwelyd o fewn un mis calendr ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 3 mis; ac

(c)gael ei chyflwyno drwy ddefnyddio'r system WasteDataFlow.

(3Y cyfnodau perthnasol o 3 mis yw—

(a)1 Ebrill hyd 30 Mehefin;

(b)1 Gorffennaf hyd 30 Medi;

(c)1 Hydref hyd 31 Rhagfyr;

(ch)1 Ionawr hyd 31 Mawrth.

(4Mae awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â'r rheoliad hwn yn atebol i gosb.

Y pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol

6.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, neu'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad a gyflwynir i awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod hwnnw—

(a)dangos unrhyw gofnodion ar gyfer eu harolygu, neu eu symud ar gyfer eu harolygu yn rhywle arall, sef y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliad 4;

(b)rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth am faterion sy'n gysylltiedig â rhwymedigaeth yr awdurdod lleol i gyrraedd y targedau a'i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(2Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn y ffurf ac o fewn unrhyw amser rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.

(4Mae awdurdod lleol sy'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad yn atebol i gosb.

Dilysu gan awdurdod monitro

7.—(1O fewn tri mis ar ôl y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau o dan reoliad 5(2)(b), rhaid bod yr awdurdod monitro wedi cwblhau dilysu'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow.

(2Os yw awdurdod lleol yn methu â chyflwyno ffurflen wedi ei llenwi yn unol â'r amserlen a bennir yn rheoliad 5(2)(b), rhaid i'r awdurdod monitro gwblhau dilysiad o'r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ar y system WasteDataFlow o fewn tri mis ar ôl dyddiad pryd y cyflwynir y ffurflen wedi ei chwblhau.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “dilysu” yw—

(a)gwirio bod yr holl awdurdodau lleol wedi cyflwyno data yn unol â'u rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 5; a

(b)cysoni unrhyw ddata anghywir neu anghyson sydd wedi cael ei gyflwyno.

Asesu cydymffurfedd â'r targedau

8.—(1Rhaid i'r awdurdod monitro o fewn pum mis calendr ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol darged, a phob blwyddyn ariannol sy'n dilyn hyd at y flwyddyn ariannol darged nesaf ddarparu i Weinidogion Cymru—

(a)ei wybodaeth fonitro; a

(b)adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth a roddir ym mharagraff (3).

(2Rhaid i'r wybodaeth fonitro a'r adroddiad gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.

(3Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfanswm y gwastraff trefol sydd wedi dod i fodolaeth ar gyfer pob awdurdod lleol;

(b)cyfanswm y gwastraff trefol a ddilyswyd gan yr awdurdod monitro sydd wedi cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, a'i gompostio;

(c)y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio ar gyfer pob awdurdod lleol;

(ch)y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae pob awdurdod lleol yn ei gyrraedd; a

(d) y gwahaniaeth rhwng swm targed y cyfraddau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a'r gyfradd wirioneddol y mae'r holl awdurdodau lleol, yn eu cyfanrwydd, yn ei gyrraedd.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “gwybodaeth fonitro” yw gwybodaeth neu dystiolaeth a geir gan yr awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 3(2).

RHAN 3Cosbau

Cosbau: hepgor

9.  Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb o dan adran 3(7) o'r Mesur neu o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru naill ai hepgor y gosb, neu asesu'r swm sy'n ddyladwy ar ffurf gosb a hysbysu'r awdurdod lleol yn unol â hynny.

Cosbau: methu â chyrraedd targedau

10.  Swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo o dan adran 3(7) o'r Mesur yw £200 y dunnell y mae awdurdod lleol yn syrthio'n fyr o'r swm targed.

Cosbau: methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 2

11.—(1Mae awdurdod lleol yn atebol i gosb o £1000—

(a)pan yw'n methu â chadw cofnodion yn unol â rheoliad 4;

(b)pan yw'n methu â chyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau yn unol â rheoliad 5;

(c)pan yw'n methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 6.

Cosbau: cyffredinol

12.—(1Mae unrhyw gosb a osodir gan Weinidogion Cymru yn ddyladwy fis ar ôl y dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru am swm y gosb.

(2Pan fo awdurdod lleol yn atebol i gosb ac nid yw'n talu'r gosb erbyn y dyddiad y mae'n ddyladwy o dan baragraff (1), mae'r awdurdod lleol yn atebol i dalu llog ar y gosb am y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ar y dyddiad o dan baragraff(1); a

(b)sy'n gorffen ar y diwrnod cyn y dyddiad y telir cosb a aseswyd.

(3Mae llog o dan y rheoliad hwn yn daladwy ar gyfradd un pwynt canran yn uwch na Chyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain ar y sail o un diwrnod i'r llall.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyr “Cyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain” yw'r gyfradd drimisol sterling rhwng banciau Llundain a gynigir yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r gosb yn ddyladwy a'r diwrnod cyn y dyddiad y telir y gosb i Weinidogion Cymru.

(5Pan fydd cosb wedi cael ei hasesu a'i hysbysu i awdurdod lleol gellir adennill y gosb ac unrhyw log yr eir iddo fel dyled sifil.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gosbau yn cynnwys cyfeiriadau at log pan fo'n daladwy.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol y mae'n rhaid ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio a'i gompostio (“y targedau”). Mae'r Mesur yn gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i gosb ariannol os bydd yn methu â chyrraedd targed.

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodi'r Mesur, drwy wneud darpariaeth fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r targedau.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â monitro.

Mae Rheoliad 3 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod monitro ar gyfer y targedau.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion am wastraff trefol.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau drwy ddefnyddio system WasteDataFlow, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chasglu a'i chofnodi o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru a'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad, i ofyn am wybodaeth bellach oddi wrth awdurdod lleol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro ddilysu'r wybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau lleol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro roi'r wybodaeth a gafodd wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 3 i Weinidogion Cymru er mwyn caniatáu iddynt asesu cydymffurfedd â'r targedau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro baratoi adroddiad i Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chosbau.

Mae rheoliad 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru hepgor cosb.

Mae rheoliad 10 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os nad yw yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth a roddir yn adran 3(2) o'r Mesur.

Mae rheoliad 11 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os yw'n methu â chydymffurfio â gofynion o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth gyffredinol am gosbau.

(2)

OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

(3)

Diffinnir awdurdod lleol o dan adran 17(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 yn gyngor sir neu'n gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(4)

Rhoddir y blynyddoedd ariannol targed yn adran 3(3) o'r Mesur. Ysytyr blwyddyn ariannol yn ôl y diffiniad yn adran 3(9) o'r Mesur yw cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.

(5)

Diffinnir gwastraff trefol awdurdod lleol o dan adran 3(8) o'r Mesur fel maint cyfan yn ôl pwysau o'r holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43); yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno; ac unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources