- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1948” (“1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948 (1);
ystyr “Deddf 1970” (“1970 Act”) yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (2);
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008;
mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2;
mae i “llety'r GIG” yr ystyr a roddir i “NHS accommodation” gan adran 24(6A) o Ddeddf 1948(3);
ystyr “llety'r GIG nad yw'n ysbyty” (“non-hospital NHS accommodation”) yw llety'r GIG nad yw mewn ysbyty wedi ei freinio—
yn yr Ysgrifennydd Gwladol,
yn un o Ymddiriedolaethau'r GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(4), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(5), neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(6),
mewn Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu,
mewn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu un o ymddiriedolaethau sefydledig y GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Mewnosodir adran 24(6A) gan adran 148(1) o Ddeddf 2008. Diffinnir “NHS accommodation” (“llety'r GIG”) fel “(a) accommodation (at a hospital or elsewhere) provided under the National Health Service Act 2006 or the National Health Service (Wales) Act 2006, or (b) accommodation provided under section 117 of the Mental Health Act 1983 by a Primary Care Trust or Local Health Board, other than accommodation so provided jointly with a local authority” ((a) llety (mewn ysbyty neu fan arall) a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu (b) llety a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Fwrdd Iechyd Lleol, ac eithrio llety a ddarperir felly ar y cyd ag awdurdod lleol”).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: