- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
12 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, dyddiedig Gorffennaf 2009, ar adolygiad y Comisiwn o'r cymunedau mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili, a'i argymhellion ar gyfer y cymunedau hynny.
Penderfynodd Gweinidogion Cymru roi effaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Aeth mwy na chwe wythnos heibio er pan gyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) 2010.
(2) At unrhyw ddiben a bennir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn yn weithredol ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y Gorchymyn.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010, a'r diwrnod hwnnw yw'r diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyron “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”),“Map C” (“Map C”), “Map D” (“Map D”), “Map E” (“Map E”), “Map F” (“Map F”), “Map G” (“Map G”), “Map H” (“Map H”), “Map I” (“Map I”), “Map J” (“Map J”), “Map K” (“Map K”), “Map L” (“Map L”), “Map M” (“Map M”) a “Map N” (“Map N”) yw'r mapiau a farciwyd, yn eu trefn, fel mapiau A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M ac N o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) 2010, ac a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3); ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, rhaid ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Gwneir newidiadau yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.
4. Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap A—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward Trecenydd o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Penyrheol.
5. Mae'r rhan o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn a ddangosir â llinellau ar Fap B—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Caerffili;
(b)yn ffurfio rhan o ward Cwrt Rawlins o gymuned Caerffili; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol St. Martins.
6. Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap C bellach yn ffurfio ward Cwrt Rawlins, a newidir ward Watford yn gyflin â ffin newydd y ward cymunedol.
7. Yng nghymuned Caerffili, nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward y Castell yw 2, dros ward Cwrt Rawlins yw 2, a thros ward Watford yw 1.
8. Yng nghymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol dros ward Penyrheol yw 4.
9. Mae'r rhan o gymuned y Fan a ddangosir â llinellau ar Fap D—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Caerffili;
(b)yn ffurfio rhan o ward Tonyfelin; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Morgan Jones.
10. Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—
(a)yn cael ei throsglwyddo o ward Twyn; a
(b)yn ffurfio rhan o ward Tonyfelin.
11. Mae'r rhan o gymuned Llanbradach a Phwll-y-Pant a ddangosir â llinellau ar Fap E—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward Energlyn; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Penyrheol.
12. Mae'r rhan o gymuned Penyrheol Trecenydd ac Energlyn a ddangosir â llinellau ar Fap F—
(a)yn cael ei throsglwyddo o ward Trecenydd; a
(b)yn ffurfio rhan o ward Energlyn.
13. Mae'r rhan o gymuned Caerffili a ddangosir â llinellau ar Fap G—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanbradach a Phwll-y-Pant;
(b)yn ffurfio rhan o ward Pwll-y-Pant; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanbradach.
14. Mae'r rhan o gymuned Maesycwmer a ddangosir â llinellau ar Fap H—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pengam;
(b)yn ffurfio rhan o ward Pengam; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pengam.
15. Mae'r rhan o gymuned Pengam a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Maesycwmer;
(b)yn ffurfio rhan o ward Maesycwmer; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Maesycwmer.
16. Mae'r rhan o gymuned Maesycwmer a ddangosir â llinellau ar Fap I—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pontllanfraith;
(b)yn ffurfio rhan o ward Pontllanfraith; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pontllanfraith.
17. Mae'r rhan o gymuned Pontllanfraith a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Maesycwmer;
(b)yn ffurfio rhan o ward Maesycwmer; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Maesycwmer.
18. Mae'r rhannau o gymuned Pengam a ddangosir â llinellau ar Fap J a Map K—
(a)yn cael eu trosglwyddo i gymuned Cefn Fforest;
(b)yn ffurfio rhan o ward Cefn Fforest; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cefn Fforest.
19.—(1) Diddymir y gymuned bresennol Rhisga, a rhennir yr ardal er mwyn ffurfio dwy gymuned newydd, sef Dwyrain Rhisga a Gorllewin Rhisga, fel y'u dangosir ar Fap L a Map M.
(2) Mae'r gymuned newydd Dwyrain Rhisga yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain Rhisga.
(3) Mae'r gymuned newydd Gorllewin Rhisga yn ffurfio rhan o adran etholiadol Gorllewin Rhisga.
20. Mae'r rhan o gymuned Crymlyn a ddangosir â llinellau ar Fap N—
(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pen-maen;
(b)yn ffurfio rhan o ward Pen-maen; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-maen.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), a gyflwynodd ei adroddiad yng Ngorffennaf 2009 ar ei adolygiad o'r ffiniau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yr oedd adroddiad y Comisiwn yn argymell newid ffiniau cymunedau Bedwas, Tretomas a Machen, Y Coed Duon, Tref Caerffili, Cefn Fforest, Llanbradach a Phwll-y-Pant, Maesycwmer, Pengam, Pen-maen, Penyrheol Trecenydd ac Energlyn, Pontllanfraith, Rhisga a'r Fan. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Mae printiau o fapiau sy'n dangos y ffiniau diwygiedig wedi eu hadneuo yn y mannau canlynol, a gellir eu harchwilio yno yn ystod yr oriau swyddfa arferol: swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7FN; a swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, yn yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: