xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4Cynnwys y Cynlluniau Ariannol

Mae'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 26, sef materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol ac y mae'n ofynnol ymdrin â hwy yng nghynllun yr awdurdod lleol, fel a ganlyn:

9.  Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu ei gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(1) o Ddeddf 1998.

(1)

Diwygiwyd adran 49 gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.