xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 7

ATODLEN 2Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig y ceir ei Ddidynnu o Gyllideb Ysgolion Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Gwariant ar gyfer cynnal grantiau

1.—(1Gwariant (heblaw gwariant a dynnir mewn cysylltiad ag unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu unrhyw baragraff o Atodlen 1) y mae'n rhaid i'r awdurdod ei dynnu fel un o amodau grant penodol a delir i'r awdurdod ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant penodol o'r fath.

(2Unrhyw swm y mae'n rhaid i'r awdurdod drefnu ei fod ar gael fel amod o'r grant a delir o dan adran 14 o Ddeddf 2002 neu o dan adran 484 o Ddeddf 1998 ac a gymerir i ystyriaeth wrth benderfynu swm grant o'r fath, y dirprwyir penderfyniadau ynghylch ei wariant i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

Anghenion dysgu ychwanegol

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4, gwariant a dynnir wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig ac eithrio os yw'r disgybl—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arbennig a gynhelir gan yr awdurdod; neu

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin, ysgol gynradd neu ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cymryd un o nifer o leoedd yn yr ysgol honno ac y mae'r awdurdod yn cydnabod bod y lleoedd hynny'n lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.  Os daw disgybl o fewn paragraff 2(a) neu (b) a bod cost y ddarpariaeth a bennir yn natganiad y disgybl o anghenion addysgol arbennig yn sylweddol yn fwy na'r gost gyfartalog am ddarparu ar gyfer y disgyblion eraill yn yr ysgol arbennig neu'r disgyblion eraill sydd yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw yn yr ysgol o dan sylw, o ba faint y mae'r gost honno'n fwy.

4.  Gwariant wrth wneud y ddarpariaeth a bennir yn natganiad disgybl o anghenion addysgol arbennig os daw'r disgybl o fewn paragraff 2(b) ond bod y lleoedd a gydnabyddir gan yr awdurdod fel lleoedd a gedwir i blant ag anghenion addysgol arbennig ar gyfer y cyfryw ddisgyblion â nam ar eu golwg, eu clyw, eu lleferydd neu eu hiaith neu nam cyfathrebu arall.

5.  Gwariant mewn perthynas â chefnogaeth arbenigol a roddir i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion i fodloni anghenion penodol disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig neu sydd o fewn ystod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy fel y'i disgrifir yn y Cod Ymarfer a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996(1) (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb).

6.  Gwariant (sef gwariant na fyddai'n briodol disgwyl iddo gael ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb) at ddibenion sy'n gysylltiedig ag annog—

(a)cydweithredu rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i alluogi plant ag anghenion addysgol arbennig i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir;

(b)addysg plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; ac

(c)cael plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol gyda phlant nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig.

7.  Gwariant mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19 o Ddeddf 1996 neu mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion fel y'i diffinnir yn yr adran honno.

8.  Gwariant a dynnir (heblaw gwariant a dynnir o dan Atodlen 1 neu unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon) ar wasanaethau sy'n ymwneud ag addysg plant ag anawsterau ymddygiad ac ar weithgareddau eraill at ddibenion osgoi gwahardd disgyblion o ysgolion.

9.  Gwariant ar dalu ffioedd mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig—

(a)mewn ysgolion annibynnol neu mewn ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt gan yr awdurdod lleol, o dan adran 348 o Ddeddf 1996; neu

(b)mewn sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan adran 320 o Ddeddf 1996.

10.  Gwariant ar daliadau i awdurdod lleol arall yn unol ag adran 493 neu 494 o Ddeddf 1996 neu adran 207 o Ddeddf 2002 (adennill rhwng awdurdodau lleol).

Staff

11.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, menyw sydd ar seibiant mamolaeth neu berson ar seibiant mabwysiadu.

12.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau—

(a)sy'n cyflawni dyletswyddau undeb llafur neu'n ymgymryd â hyfforddiant o dan adrannau 168 a 168A o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992(2);

(b)sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur o dan adran 170 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992;

(c)sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus o dan adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996(3);

(ch)sy'n gwasanaethu ar reithgor;

(d)sy'n gynrychiolwyr diogelwch o dan Reoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977(4);

(dd)sy'n gynrychiolwyr diogelwch cyflogeion o dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Chyflogeion) 1996(5);

(e)sy'n gynrychiolwyr cyflogeion at ddibenion Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992 fel y'i diffinnir yn adran 196 o'r Ddeddf honno neu Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(6);

(f)sy'n cymryd amser i ffwrdd ar gyfer gofal cynenedigol o dan adran 55 o Ddeddf Hawliau Cyflogi 1996;

(ff)sy'n cyflawni dyletswyddau fel aelodau o'r lluoedd wrth gefn fel y'u diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Lluoedd Wrth Gefn 1996(7);

(g)a ataliwyd rhag gweithio mewn ysgol;

(ng)sy'n aelodau o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu bwyllgor iddo; neu

(h)a benodwyd yn gynrychiolwyr dysgu i'r undebau llafur, er mwyn iddynt ddadansoddi'r gofynion hyfforddi neu ddarparu neu hybu cyfleoedd hyfforddi, a chyflawni gwaith ymgynghori neu baratoi mewn cysylltiad â swyddogaethau o'r fath.

13.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, person sydd ar secondiad ar sail llawnamser am gyfnod o dri mis neu fwy heblaw i awdurdod lleol neu i gorff llywodraethu ysgol.

14.  Gwariant wrth dalu, neu wrth ddarparu i lenwi bwlch dros dro ar gyfer, personau sydd wedi bod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dor oherwydd salwch am 21 o ddiwrnodau neu fwy.

15.  Gwariant, nad yw'n dod o fewn Atodlen 1, mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi, datblygu proffesiynol parhaus, rheoli perfformiad a rheoli personél yn achos staff sy'n cael eu cyllido o wariant na thelir mohono o gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

Gwariant arall

16.  Gwariant ar ddarparu hyfforddiant mewn offerynnau cerdd neu hyfforddiant corawl (naill ai i unigolion neu i grwpiau).

17.  Gwariant ar gefnogi theatrau teithiol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

18.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysgu'r Gymraeg gan athrawon a gyflogir i weithio heblaw mewn ysgol unigol i'r graddau nad oes grantiau penodol ar gyfer gwariant o'r fath.

19.  Gwariant ar ddarparu mangreoedd a chyfleusterau i ysgolion ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau y tu allan (gan gynnwys mangreoedd a ddarperir ar safle ysgol er budd y gymuned gyfan).

20.  Gwariant yn unol ag adran 512, 512ZA, 512ZB neu 513 o Ddeddf 1996 sydd o ran ysgolion uwchradd yn ymwneud â darparu llaeth ac, o ran unrhyw ysgol arall, yn ymwneud â darparu llaeth neu brydau bwyd a lluniaeth arall.

21.  Gwariant ar drwsio a chynnal a chadw cegin ysgol os didynnir y gwariant ar brydau bwyd mewn perthynas â'r ysgol o dan sylw o gyllideb ysgolion yr awdurdod yn unol â pharagraff 20.

22.  Gwariant ar benderfynu cymhwyster disgybl i gael prydau bwyd ysgol yn ddi-dâl.

23.  Gwariant yn unol ag adran 18 o Ddeddf 1996 wrth wneud unrhyw grant neu daliad arall mewn perthynas â ffioedd neu dreuliau (o ba natur bynnag) sy'n daladwy mewn cysylltiad â phresenoldeb disgyblion mewn ysgol nas cynhelir gan unrhyw awdurdod lleol.

24.  Gwariant mewn cysylltiad â darparu addysg feithrin ac eithrio os gwneir y ddarpariaeth honno mewn ysgol a gynhelir.

25.  Gwariant ar yswiriant mewn perthynas ag atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad ag ysgolion a mangreoedd ysgol ac eithrio i'r graddau y mae cyrff llywodraethu yn derbyn cyllid ar gyfer yswiriant fel rhan o'u cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

26.  Gwariant ar ffi trwyddedau neu danysgrifiadau a delir ar ran ysgolion ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.2 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

27.  Gwariant a dynnir wrth ymateb i adroddiad arolygiad o dan adran 28 o Ddeddf Addysg 2005.

28.  Gwariant ar wasanaethau llyfrgell a gwasanaethau amgueddfa ar gyfer ysgolion.

29.  Gwariant y byddai addysg disgyblion mewn ysgol hebddo yn cael ei handwyo'n ddifrifol ac na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r corff llywodraethu ei dalu o gyfran yr ysgol o'r gyllideb oherwydd naill ai—

(a)ei faint a'i natur annisgwyl; neu

(b)ei faint a'i natur anochel.

30.  Gwariant ar ychwanegiadau at gyfran yr ysgol o'r gyllideb y mae'r ysgol â hawl iddynt yn rhinwedd fformiwla'r awdurdod neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb o dan awdurdod Gweinidogion Cymru neu wariant ar gywiro gwallau.

31.  Gwariant at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon ar yr amod nad yw'r gwariant yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 0.1 y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

32.  CERA a dynnir at ddibenion nad ydynt yn dod o fewn unrhyw baragraff arall o'r Atodlen hon neu Atodlen 1.

33.  Gwariant a dynnir yn unol ag adran 22 o Ddeddf Addysg 2002 wrth hyfforddi llywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol i'r graddau na ddarperir ar ei gyfer gan grantiau penodedig.

34.  Gwariant a dynnir o ran hyfforddiant clercod i'r cyrff llywodraethu i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau yn effeithiol.

(1)

Diwygiwyd adran 313 gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 72 o Atodlen 30 iddi, a chan adrannau 195 a 215 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 a pharagraff 36 o Atodlen 21 iddi.