ATODLEN 1Dosbarthiadau neu Ddisgrifiadau o Wariant Cynlluniedig a Ragnodwyd at Ddibenion Cyllideb AALl yr Awdurdod Lleol

Mae gwariant o ddosbarth neu ddisgrifiad y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon yn cynnwys gwariant ar gostau gweinyddol cysylltiedig a gorbenion

Addysg, hyfforddiant a gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion

18.  Gwariant ar y ddarpariaeth gan yr awdurdod lleol o dan adrannau 15A a 508 o Ddeddf 1996(1) o adloniant a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol, ac ar ddarpariaeth yr awdurdod o wasanaethau o dan adran 123 o Ddeddf 2000 i annog a galluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant.

(1)

Diwygiwyd adran 508 gan adran 137 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, ac adran 6(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.