Mynediad i addysg
11. Gwariant o ran y materion canlynol—
(a)rheoli rhaglen gyfalaf yr awdurdod gan gynnwys paratoi ac adolygu cynllun rheoli asedau a thrafod a rheoli trafodion cyllid preifat;
(b)swyddogaethau'r awdurdod o ran gwahardd disgyblion o ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth addysg i'r disgyblion hynny, ond gan gynnwys cyngor i rieni disgybl a waharddwyd;
(c)gweinyddu'r system i dderbyn disgyblion i ysgolion (gan gynnwys apelau derbyn ac ymgynghori o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998(1));
(ch)gwariant a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod o dan adran 85A o Ddeddf 1998(2) (sy'n darparu ar gyfer sefydlu a chynnal a chadw fforymau derbyn);
(d)swyddogaethau'r awdurdod o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(3);
(dd)swyddogaethau'r awdurdod o dan adrannau 510 a 514 o Ddeddf 1996 (darparu a gweinyddu grantiau dilladu a grantiau byrddio), ac yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 518(1) o Ddeddf 1996(4).
Amnewidiwyd adran 89(2) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi ac fe'i diwygiwyd gan adran 45 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
Mewnosodwyd adran 85A gan adran 46 o Ddeddf Addysg 2002 ac fe'i diwygiwyd gan adran 41 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
Amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.