xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido rhaid i awdurdod lleol—
(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar ei gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw; a
(b)hysbysu ei benderfyniad i Weinidogion Cymru, i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo.
(2) Os bydd awdurdod lleol yn ailbenderfynu ei gyllideb ysgolion, rhaid iddo hysbysu'r ailbenderfyniad hwnnw i Weinidogion Cymru ac i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl ailbenderfynu.