Search Legislation

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol;

  • ystyr “y Cynllun Plant a Phobl Ifanc” (“the Children and Young People’s Plan”) yw cynllun sy'n ofynnol o dan reoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(1);

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(4);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(5);

  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg lawnamser neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).

(4Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.

(5Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).

(6Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o—

(a)holl grantiau penodedig perthnasol;

(b)holl ffioedd, taliadau ac incwm perthnasol; ac

(c)cyllid a dderbynnir gan Weinidogion Cymru o ran taliad unedol cynllun PFI.

(7Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i awdurdod lleol o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y caniateir defnyddio'r grant ond nid yw'n cynnwys—

(a)unrhyw grant a wneir gan Weinidogion Cymru o ran cyllido chweched dosbarth; neu

(b)unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy gyllideb ysgolion unigol.

(8Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy i awdurdod lleol o dan drafodiad ariannol preifat.

(9Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad ariannol preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y'i diffinnir gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf ) 1997(6).

(10Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod lleol yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny—

(a)y mae'n ofynnol i awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, neu

(b)yr ystyrir eu bod yn gyffredinol, i'r graddau y maent yn gyson ag unrhyw ddeddfiad o'r fath, p'un ai drwy gyfeiriad at unrhyw God cyhoeddedig a gydnabyddir yn gyffredinol neu fel arall, yn arferion cyfrifyddu priodol i'w dilyn wrth gadw cyfrifon awdurdodau lleol, naill ai'n gyffredinol neu yn ôl y disgrifiad o dan sylw.

(11Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod lleol yn disgwyl iddo gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(7).

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu ddisgrifiadau canlynol o wariant—

(a)gwariant cyfalaf heblaw CERA;

(b)gwariant at ddibenion adran 26 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(8) (trefniadau ar gyfer hebrwng wrth groesfannau ysgol); ac

(c)gwariant a dynnir gan yr awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1998(9) (gwariant a dynnir at ddibenion cymunedol).

(1)

2004 p.31. Gweler Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007, O.S. 2007/2316 (Cy.187).

(6)

O.S. 1997/319, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/371, 1999/1852 a 2003/515. Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2004 (O.S. 2004/533) yn cynnwys darpariaethau arbed ar gyfer rheoliad 16 o Reoliadau 1997.

(9)

Mewnosodwyd adran 51A gan adran 40 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 3 iddi, ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 9 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg 2005.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources