Cymhwyso amryw ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

10.  Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (“y Ddeddf”) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran o'r Ddeddf yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac at y darpariaethau hynny yn Rheoliad 104/2000 a Rheoliad 2065/2001 y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy—

(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(1) gyda'r addasiad bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(4); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(1)

Diwygwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(2)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(3)

Diwygwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(4)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.