Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 735 (Cy.72) (C.49)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010

Gwnaed

10 Mawrth 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 120(2) a 125(4) o Ddeddf Addysg 2005(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.

(3Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnod Penodedig

2.  Daw'r darpariaethau canlynol o Ddeddf 2005 i rym ar 1 Ebrill 2010 o ran Cymru:

(a)adran 101 (ariannu ysgolion a gynhelir) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod,

(b)adran 117 (diwygiadau pellach) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod,

(c)adran 123 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 isod,

(ch)Atodlen 16, paragraffau 1 i 7 (ariannu ysgolion a gynhelir),

(d)Atodlen 18, paragraffau 5, 7-9, 11, 13, 14 (diwygiadau pellach),

(dd)yn Atodlen 19, yn Rhan 4, diddymu Deddf Safonau ac Fframwaith Ysgolion 1998, adran 45A(5) a (6), Deddf Addysg 2002, adrannau 41(2), 42 ac yn Atodlen 21, paragraffau 124(3) a 125(3), Deddf Llywodraeth Leol 2003, yn Atodlen 7, paragraff 66.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 adran 101 o Ddeddf Addysg 2005 ac Atodlen 16 iddi (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adrannau 19 i 471 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 50 i 521 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 53 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 541 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 55 i 571 Ebrill 2007O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adrannau 58 i 601 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 61 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 711 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 1051 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 1061 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 1151 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 1161 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 117 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 1181 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 123 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Adran 123 yn rhannol1 Ebrill 2007O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlenni 2 i 61 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 7 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 81 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 9 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 18 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 19 yn rhannol1 Medi 2006O.S. 2006/1338 (Cy.130)
Atodlen 19 yn rhannol1 Ebrill 2007O.S. 2006/1338 (Cy.130)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2005/2034, O.S. 2006/2129.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).