Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 729 (Cy.70)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010

Gwnaed

10 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 44(1), 47, 49 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).