xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 713 (Cy.69)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010

Gwnaed

9 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2010

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 1, 4 i 8, 11, 12 a 14 i 16 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, ac adran 24 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(3):

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010.

(2Daw rheoliadau 1 i 26 i rym ar 1 Ebrill 2010 a daw'r rheoliadau sy'n weddill i rym ar 1 Gorffennaf 2010.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fynna'r cyd-destun fel arall—

(2Mae'r cyfeiriadau at reoliadau, Rhannau neu Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at reoliadau, Rhannau o'r, neu Atodlenni i'r, Rheoliadau hyn.

RHAN 2Sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru

Sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru

4.  Ar 1 Ebrill 2010 sefydlir Tribiwnlys Prisio Cymru.

Sefydlu'r Cyngor Llywodraethu

5.  Ar 1 Gorffennaf 2010 sefydlir Cyngor Llywodraethu ar gyfer y Tribiwnlys Prisio.

Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu

6.—(1Aelodaeth y Cyngor Llywodraethu fydd:

(a)Llywydd Tribiwnlys Prisio Cymru, a benodir yn unol â rheoliad 11;

(b)y cynrychiolwyr rhanbarthol (ond nid y dirprwy gynrychiolwyr rhanbarthol) a benodir yn unol â rheoliad 13; ac

(c)unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7 .

(2Pan fo cynrychiolydd rhanbarthol, fel y'i disgrifir ym mharagraff (1)(b) yn analluog, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall, i weithredu fel aelod o'r Cyngor Llywodraethu, yna caiff y dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth hwnnw gymryd lle'r cynrychiolydd rhanbarthol, a bydd ganddo'r un pwerau â'r cynrychiolydd rhanbarthol sy'n analluog i weithredu.

Apwyntai Gweinidogion Cymru

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benodi un person yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.

(2Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 21(4) ynglŷn â'r penodiad i'r Cyngor Llywodraethu ar 1 Gorffennaf 2010 .

(3Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, roi i unrhyw berson a benodir o dan baragraff (1), hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod a bennir ganddynt o rybudd o derfynu ei swydd.

Swyddogaethau'r Cyngor Llywodraethu

8.—(1Bydd swyddogaethau'r Tribiwnlys Prisio o dan Rannau 2 i 4 (ac eithrio rheoliad 18(1)) yn cael eu cyflawni ar ei ran gan y Cyngor Llywodraethu.

(2Caiff y Cyngor Llywodraethu benderfynu y caiff swyddogaethau'r Tribiwnlys Prisio o dan Rannau 2 i 4 (ac eithrio rheoliad 18(1)) eu cyflawni ar ei ran gan ddau neu ragor o aelodau'r Cyngor Rheoli, ar yr amod mai'r Llywydd fydd un ohonynt.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys ar gyfer penodi'r prif weithredwr.

(4Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau yn rheoliadau 16(6), 17 ac Atodlen 2 sy'n dyrannu swyddogaethau i'r prif weithredwr.

Penodi aelodau'r Tribiwnlys Prisio

9.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn, aelodau'r Tribiwnlys Prisio fydd y personau hynny a benodir gan y cynghorau a ragnodir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 (“y cynghorau”) a'r Llywydd ar y cyd.

(2Y nifer o aelodau sydd i'w penodi gan gyngor unigol a'r Llywydd yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ni fydd swydd wag yn digwydd ac eithrio pan fo nifer yr aelodau a benodwyd gan gyngor unigol a'r Llywydd yn syrthio islaw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1.

(4Os na fydd cyngor a'r Llywydd, ar ddiwedd cyfnod o dri mis ar ôl i swydd fynd yn wag yn y Tribiwnlys Prisio, wedi gwneud penodiad yn unol â pharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru wneud y penodiad hwnnw ar ôl ymgynghori â'r Llywydd.

(5Ni fydd unrhyw benodiad o dan adran (1) yn ddilys os ei effaith fyddai peri bod nifer yr aelodau o'r Tribiwnlys Prisio, a benodir gan gyngor a'r Llywydd, ac sy'n aelodau o'r cyngor, yn fwy na'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor yng ngholofn 5 o Atodlen 1.

(6Ni cheir dehongli paragraff (5) fel pe bai'n effeithio ar ddilysrwydd penodiad aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n dod yn aelod o gyngor wedi i benodiad y person hwnnw ddod i rym.

(7Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 21 ynglŷn â phenodi aelodau ar 1 Gorffennaf 2010.

Parhad aelodaeth o'r Tribiwnlys Prisio

10.—(1Bydd pob penodiad aelod o dan reoliad 9 yn cael effaith am ba bynnag gyfnod, na fydd yn hwy na chwe blynedd, a bennir gan y person neu bersonau sy'n gwneud y penodiad.

(2Bydd pob aelod yn parhau yn ei swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—

(a)y cyfnod a bennir o dan baragraff (1) yn dod i ben;

(b)hysbysiad o derfynu swydd yr aelod o dan baragraff (3) yn cael effaith;

(c)yr aelod yn dod yn anghymwys i fod yn aelod, yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 14;

(ch)yr aelod yn ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd.

(3Rhaid i'r prif weithredwr, os cyfarwyddir ef felly gan Weinidogion Cymru, wedi i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyngor perthnasol ac â'r Llywydd, roi i aelod hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod o rybudd a gyfarwyddir, o derfynu cyfnod yr aelod yn ei swydd o dan y paragraff hwn.

Llywydd y Tribiwnlys Prisio

11.—(1Rhaid gwneud y penodiad cyntaf i swydd y Llywydd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 ond yn ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen honno.

(2Mewn achos dilynol pan â swydd y Llywydd yn wag, rhaid i aelodau'r Tribiwnlys Prisio, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, benodi person i fod yn Llywydd.

(3Pan nad oes penodiad wedi ei wneud yn unol ag Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â pha bynnag rai o aelodau'r Tribiwnlys Prisio ag y tybiant yn briodol, benodi un o aelodau'r Tribiwnlys Prisio i fod yn Llywydd.

(4Bydd y Llywydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—

(a)diwedd y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl y dyddiad yr ymgymerodd y Llywydd â'i swydd (ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid ystyried bod yr apwyntai cyntaf i swydd y Llywydd yn ymgymryd â'r swydd ar 1 Gorffennaf 2010);

(b)y Llywydd yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

(c)hysbysiad o ymddiswyddiad y Llywydd o dan baragraff (5) yn cael effaith;

(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (6) yn cael effaith.

(5Caiff y Llywydd ymddiswyddo drwy hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen, gan roi o leiaf un mis o rybudd.

(6Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â pha bynnag rai o aelodau'r Tribiwnlys Prisio ag y gwelant yn dda, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd, derfynu ei benodiad yn Llywydd.

(7Os yw'r Llywydd yn analluog, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall, i gyflawni swyddogaethau'r Llywydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i ba bynnag aelod o'r Cyngor Llywodraethu a bennir o bryd i'w gilydd gan y Cyngor gyflawni'r swyddogaethau hynny.

(8Caiff y Llywydd awdurdodi cynrychiolydd rhanbarthol i ymgymryd â swyddogaeth y Llywydd o benodi o dan reoliad 9(1); ac yn y paragraff hwn, nid yw “cynrychiolydd rhanbarthol” yn cynnwys dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol.

Cadeiryddion y Tribiwnlys Prisio

12.—(1Pennir y nifer o aelodau'r Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd gan y Tribiwnlys Prisio.

(2Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, ond yn ddarostyngedig i reoliad 22, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod rhagnodedig, drwy eu hethol o blith eu nifer.

(3Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.

(4Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf —

(a)y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

(b)y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;

(c)hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.

(5O ran y Llywydd—

(a)caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a

(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Gadeirydd hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.

(6Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.

(7Yn y rheoliad hwn—

Cynrychiolwyr rhanbarthol y Tribiwnlys Prisio

13.—(1Rhaid gwneud y penodiadau cyntaf i'r swyddi cynrychiolydd rhanbarthol a dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (a elwir yn “gynrychiolydd rhanbarthol” yn y rheoliad hwn) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2 ond yn ddarostyngedig i Ran 2 o'r Atodlen honno.

(2Mewn achosion dilynol pan â swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag, rhaid i aelodau'r Tribiwnlys Prisio, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 2, benodi cynrychiolydd rhanbarthol neu ddirprwy gynrychiolydd rhanbarthol (yn ôl fel y digwydd) ar gyfer y rhanbarth hwnnw, o blith eu nifer.

(3Ar ddiwedd y cyfnod rhagnodedig, os na fydd etholiad wedi ei gynnal yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, benodi'r nifer priodol o aelodau i fod yn gynrychiolwyr rhanbarthol.

(4Bydd cynrychiolydd rhanbarthol a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes digwydd pa un bynnag o'r canlynol sy'n digwydd gyntaf—

(a)diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy'n dilyn y dyddiad yr ymgymerodd y cynrychiolydd rhanbarthol â'i swydd (ac at ddibenion y paragraff hwn, rhaid ystyried bod yr apwynteion cyntaf i swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn ymgymryd â'u swyddi ar 1 Gorffennaf 2010);

(b)y cynrychiolydd rhanbarthol yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

(c)y cynrychiolydd rhanbarthol yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Llywydd;

(ch)hysbysiad terfynu o dan baragraff (5) yn cael effaith.

(5O ran y Llywydd—

(a)caiff, ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Llywodraethu, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i gynrychiolydd rhanbarthol, derfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw; a

(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i gynrychiolydd rhanbarthol hysbysiad ysgrifenedig sy'n terfynu swydd y cynrychiolydd rhanbarthol hwnnw, a bydd yr hysbysiad yn cael effaith ar ddiwedd pa bynnag gyfnod y cyfarwyddir felly.

(6Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (5)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd.

(7Yn y rheoliad hwn—

(8At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae pedair rhanbarth;

(b)mae'r rhanbarthau yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1; ac

(c)caiff y rhanbarthau eu hadnabod gan yr enw cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodlen hwnnw.

Anghymhwyso o aelodaeth o'r Tribiwnlys Prisio

14.—(1Bydd person yn anghymwys i'w benodi yn aelod, neu i barhau yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio—

(a)os yw'r person hwnnw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr; neu

(b)os yw'r person hwnnw wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr; neu

(c)os yw'r person hwnnw, o fewn y pum mlynedd yn union cyn ei benodi neu ers pan ei benodwyd, wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac y gorchmynnwyd ei garcharu am gyfnod o dri mis neu ragor, heb yr opsiwn o ddirwy, pa un a ohiriwyd y ddedfryd honno ai peidio; neu

(ch)os yw'r person hwnnw wedi ei anghymhwyso ar y pryd rhag bod yn aelod o awdurdod lleol; neu

(d)os yw'r person hwnnw neu'i briod neu'i bartner sifil yn gyflogai neu'n dod yn gyflogai i'r Tribiwnlys Prisio.

(2Bydd anghymhwysiad person am y rheswm ym mharagraff (1)(a) yn dod i ben—

(a)oni ddirymir y gorchymyn methdalu yn erbyn y person hwnnw'n gynharach, pan ryddheir y person hwnnw o fethdaliad; neu

(b)os dirymir y gorchymyn methdalu felly, ar ddyddiad y dirymu.

(3Bydd anghymhwysiad person am y rheswm ym mharagraff (1)(b) yn dod i ben —

(a)os telir dyledion y person hwnnw'n llawn gan y person hwnnw, ar y dyddiad y cwblheir y taliad; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, ar ddiwedd pum mlynedd ar ôl y dyddiad y cyflawnir telerau'r weithred gompowndio neu'r trefniant.

(4At ddibenion paragraff (1)(c), ystyrir mai dyddiad y gollfarn fydd y dyddiad cyffredin pan ddaw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer apelio i ben, neu, os gwneir apêl o'r fath, y dyddiad pryd y penderfynir yr apêl yn derfynol, neu y rhoddir y gorau i'r apêl, neu ei bod yn methu oherwydd methiant i erlyn.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yw aelod —

(a)o'r Tribiwnlys Prisio a benodir o dan reoliad 9;

(b)o'r Cyngor Llywodraethu a benodir o dan reoliad 7; neu

(c)o hen Dribiwnlys a benodir i'r Tribiwnlys Prisio o dan reoliad 21.

RHAN 3Gweinyddu

Y prif weithredwr

15.—(1Bydd gan y Tribiwnlys Prisio brif weithredwr.

(2Rhaid gwneud penodiadau i swydd y prif weithredwr fel a ganlyn—

(a)gwneir y penodiad cyntaf yn rhinwedd y trosglwyddiad o brif weithredwr yr hen Wasanaeth i'r Tribiwnlys Prisio yn unol â rheoliad 23; a

(b)gwneir y penodiadau dilynol gan y Tribiwnlys Prisio.

(3Rhaid gwneud penodiadau o dan baragraff (2)(b) gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Y prif weithredwr fydd clerc y Tribiwnlys Prisio.

(5Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 16(1), at gyflogeion y Tribiwnlys Prisio yn cynnwys cyfeiriadau at ei brif weithredwr.

(6Caniateir dirprwyo swyddogaethau'r prif weithredwr i gyflogeion eraill y Tribiwnlys Prisio fel a benderfynir gan y prif weithredwr.

(7Ar ddiwedd cyfnod o chwe mis wedi i swydd y prif weithredwr fynd yn wag, os na fydd y Tribiwnlys Prisio wedi gwneud penodiad yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru wneud y penodiad hwnnw ar ôl ymgynghori â'r Llywydd.

Cyflogeion

16.—(1Caiff y Tribiwnlys Prisio benodi cyflogeion eraill fel y bydd yn penderfynu.

(2Y telerau ac amodau y penodir y cyflogeion odanynt fydd y rhai y caiff y Tribiwnlys Prisio eu penderfynu.

(3Caiff y Tribiwnlys Prisio dalu i'w gyflogeion pa bynnag gydnabyddiaeth a lwfansau a benderfynir ganddo, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Caiff y Tribiwnlys Prisio, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru—

(a)dalu pa bynnag bensiynau neu arian rhodd y caiff eu pennu ganddo i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion, neu mewn perthynas â hwy;

(b)talu pa bynnag gyfraniadau neu daliadau, y caiff eu pennu ganddo tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion, neu mewn perthynas â hwy; ac

(c)darparu a chynnal pa bynnag gynlluniau (naill ai cyfrannol neu anghyfrannol) y caiff eu pennu ganddo ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i'w gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn perthynas â hwy.

(5Mae'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at bensiynau neu arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau neu arian rhodd a delir i gyflogeion, neu mewn perthynas â chyflogeion, fel iawndal am golli cyflogaeth neu golled neu leihad enillion.

(6Cyfrifoldeb y prif weithredwr fydd gweinyddu'r gydnabyddiaeth a'r lwfansau a delir i gyflogeion y Tribiwnlys Prisio.

Lwfansau

17.—(1Bydd hawl gan aelodau i gael pa bynnag lwfansau teithio, cynhaliaeth a lwfansau eraill y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o bryd i'w gilydd.

(2Cyfrifoldeb y prif weithredwr fydd gweinyddu'r lwfansau a delir i aelodau.

(3Mewn perthynas ag unrhyw daliad o dan baragraff (2), rhaid i'r prif weithredwr gadw cofnod ar gyfer y Tribiwnlys Prisio a'r Cyngor Llywodraethu o enw'r derbynnydd, y swm a'r rheswm dros wneud y taliad, a rhaid iddo ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio a gwneud copïau o gofnodion o'r fath.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, mae “aelod” yn cynnwys unrhyw berson a benodir o dan reoliad 7.

Pwyllgorau

18.—(1Caiff y Tribiwnlys Prisio sefydlu pwyllgorau.

(2Caiff y Cyngor Llywodraethu sefydlu is-bwyllgorau.

(3Ceir penodi person nad yw'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio i wasanaethau ar bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.

(4Mewn swyddogaeth ymgynghorol yn unig y caniateir i bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath weithredu.

Cofnodion

19.—(1Rhaid cadw cofnodion o drafodion y Tribiwnlys Prisio, y Cyngor Llywodraethu a phwyllgorau ac is-bwyllgorau y Tribiwnlys a'r Cyngor Llywodraethu.

(2Bydd cofnodion unrhyw drafodion o'r fath yn dystiolaeth o'r trafodion hynny os byddant wedi eu llofnodi gan y person sy'n dynodi iddo weithredu fel cadeirydd y trafodion sy'n destun y cofnodion neu unrhyw drafodion dilynol pan gymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir.

(3Pan fo cofnodion unrhyw drafodion o'r fath wedi eu llofnodi fel a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid ystyried bod y trafodion hynny, oni phrofir i'r gwrthwyneb, wedi eu cynnull a'u cyfansoddi yn ddilys.

(4Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gyfarfodydd neu benderfyniadau aelodau o'r Cyngor Llywodraethu pan fônt yn gweithredu o dan reoliad 8(2) fel y mae'n gymwys i drafodion a grybwyllir ym mharagraff (1).

Llety a chyfarpar

20.  Rhaid i'r Tribiwnlys Prisio gynnal swyddfa barhaol; a swyddogaeth i'r prif weithredwr, ar ran y Tribiwnlys Prisio, fydd gwneud y cyfryw drefniadau a fydd yn sicrhau bod gan y Tribiwnlys Prisio ba bynnag lety arall a pha bynnag gyfarpar a fydd yn ddigonol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau.

RHAN 4Darpariaethau Trosiannol

Penodi aelodau o'r hen Dribiwnlysoedd

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o hen Dribiwnlys ac a benodwyd gan gyngor a Llywydd yr hen Dribiwnlys hwnnw yn cael ei benodi yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid trin penodiad o dan baragraff (1) fel pe bai wedi ei wneud—

(a)gan y cyngor a benododd yr aelod i'r hen Dribiwnlys a'r Llywydd; a

(b)ar y dyddiad pan wnaed y penodiad i'r hen Dribiwnlys.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 10(2), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o hen Dribiwnlys ac a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn cael ei benodi yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio.

(4Ar 1 Gorffennaf 2010 bydd unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn aelod o Gyngor Llywodraethu yr hen Wasanaeth ac a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn cael ei benodi yn aelod o'r Cyngor Llywodraethu.

(5Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Llywydd, roi i unrhyw aelod a benodir o dan baragraff (3) neu (4) hysbysiad ysgrifenedig sy'n rhoi pa bynnag gyfnod a bennir ganddynt o rybudd o derfynu ei swydd.

Parhau penodiad Cadeiryddion yr hen Dribiwnlysoedd

22.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 12(4), ar 1 Gorffennaf 2010 , bydd unrhyw aelod a oedd yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn Gadeirydd hen Dribiwnlys yn cael ei benodi yn un o Gadeiryddion y Tribiwnlys Prisio.

(2Mae rheoliad 12(5) yn gymwys i Gadeirydd a benodir o dan baragraff (1) fel y mae'n gymwys i Gadeirydd a benodir o dan reoliad 12(2).

Trosglwyddo cyflogeion i'r Tribiwnlys Prisio

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar 1 Gorffennaf 2010 bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn gyflogedig gan yr hen Wasanaeth yn cael ei drosglwyddo i'r Tribiwnlys Prisio, a bydd y contract hwnnw'n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r Tribiwnlys Prisio.

(2Heb leihau effaith paragraff (1)—

(a)bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo, neu mewn cysylltiad â chontract o'r fath, yn cael eu trosglwyddo, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i'r Tribiwnlys Prisio ar 1 Gorffennaf 2010;

(b)ystyrir, o 1 Gorffennaf 2010 ymlaen, y bydd unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen Wasanaeth, neu mewn perthynas â'r hen Wasanaeth, ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud gan y Tribiwnlys Prisio neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio.

(3Ni chaiff paragraffau (1) a (2) leihau effaith unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol sy'n anffafriol iddo o ran ei amodau gwaith, ond nid oes unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid cyflogwr a ysgogir gan y rheoliad hwn

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

24.  Ar 1 Gorffennaf 2010 trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen Wasanaeth, nas cyfeirir atynt yn rheoliad 23, i'r Tribiwnlys Prisio.

Trosglwyddo apelau

25.—(1Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 1 Gorffennaf 2010 ac a fyddai, pe bai wedi ei chychwyn ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi bod yn agored i'w phenderfynu gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlir gan reoliad 4, yn cael ei throsglwyddo ar 1 Gorffennaf 2010 i'r Tribiwnlys Prisio ac yn cael ei phenderfynu ganddo.

(2Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2010 —

(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn gymwys fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu mewn perthynas â'r hen Dribiwnlys y'i trosglwyddwyd ohono neu Glerc, Llywydd neu Gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys Prisio neu, yn ôl fel y digwydd, Glerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio, a

(b)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at Glerc, Llywydd neu Gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu mewn offerynnau a wneir odanynt, cyn belled ag y bo'n ofynnol er mwyn rhoi effaith i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad at Glerc neu, yn ôl fel y digwydd, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys Prisio.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “y darpariaethau statudol perthnasol” yw—

(a)mewn perthynas ag apelau o dan adran 16 o Ddeddf 1992 neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, y Rheoliadau hyn;

(b)mewn perthynas ag apelau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y rheoliadau hynny;

(c)mewn perthynas ag apelau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 Act (rhybuddion i gwblhau), o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (cosbau sifil) i Ddeddf 1988 ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;

(ch)mewn perthynas ag apelau o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, y Ddeddf honno.

Dirwyn i ben

26.—(1Bydd yr hen Dribiwnlysoedd a'r hen Wasanaeth yn peidio â bod ar 1 Gorffennaf 2010 .

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 10, ar 30 Mehefin 2010, bydd aelodau'r hen Dribiwnlysoedd yn peidio â dal swydd fel y cyfryw ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(3Bydd llywyddion yr hen Dribiwnlysoedd ar 30 Mehefin 2010, yn peidio â dal swydd fel y cyfryw ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

RHAN 5Apelau Treth Gyngor

Dehongli

27.—(1Yn y rhan hon—

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon—

(a)at barti mewn apêl, yn cynnwys yr apelydd ac unrhyw berson sydd â hawl, yn unol â'r Rhan hon, i gael copi wedi ei gyflwyno iddo o hysbysiad am apêl yr apelydd; a

(b)at adran wedi'i rhifo, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn gyfeiriad at yr adran a rifwyd felly yn Neddf 1992.

Panelau Apêl mewn amgylchiadau arbennig

28.—(1Pan fo'r apelydd—

(a)yn gyn-aelod o hen Dribiwnlys,

(b)yn gyn-gyflogai hen Dribiwnlys, yr hen Wasanaeth neu'r Tribiwnlys Prisio, neu

(c)yn gyflogai neu'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio;

rhaid ymdrin â'r apêl gan ba bynnag aelodau o'r Tribiwnlys Prisio a benodir at y diben hwnnw gan y Llywydd.

(2Os yw'n ymddangos i'r Llywydd, oherwydd gwrthdrawiad buddiannau neu'r ymddangosiad o wrthdrawiad o'r fath, y byddai'n amhriodol pe bai aelodau penodol o'r Tribiwnlys Prisio yn ymdrin ag apêl, rhaid i'r Llywydd benodi aelodau eraill i ymdrin â'r apêl honno.

Terfynau amser

29.—(1Bydd apêl gan berson, y bodlonir mewn perthynas ag ef yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b), yn cael ei gwrthod oni chychwynnir hi yn unol â'r Rhan hon yn ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyflwynir hysbysiad yr awdurdod bilio dan yr adran honno.

(2Pan fodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(c), gwrthodir apêl gan y person a dramgwyddwyd oni chychwynnir hi o fewn pedwar mis ar ôl dyddiad cyflwyno hysbysiad y person hwnnw o dan adran 16(4).

(3Gwrthodir apêl o dan baragraff (3) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992 oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda dyddiad cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig o osod y gosb.

(4Gwrthodir apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau oni chychwynnir hi'n ddim hwyrach nag ar ddiwedd cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau gyda dyddiad cyflwyno'r rhybudd.

(5Er gwaethaf paragraffau (1) i (4), caiff y Llywydd awdurdodi ystyried apêl, os bodlonir y Llywydd bod y person a dramgwyddwyd wedi methu â chychwyn yr apêl fel a ddarperir gan y rheoliad hwn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person hwnnw.

Cychwyn apêl

30.—(1Rhaid cychwyn apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(2Os gwneir yr apêl o dan adran 16, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl;

(b)y dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 16(4) i'r awdurdod bilio, ac

(c)y dyddiad, os oedd un, pan hysbyswyd yr apelydd gan yr awdurdod, fel y crybwyllir yn adran 16(7)(a) neu (b).

(3Pan fo'r apêl yn apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, rhaid cyflwyno'r hysbysiad am apêl ynghyd â'r canlynol —

(a)copi o'r rhybudd i gwblhau; a

(b)datganiad yn nodi ar ba seiliau y gwneir yr apêl.

(4Os gwneir yr apêl yn erbyn gosod cosb, rhaid i'r hysbysiad am apêl gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; a

(b)dyddiad cyflwyno'r hysbysiad ysgrifenedig o osod cosb.

(5Rhaid i'r Clerc, o fewn dwy wythnos ar ôl cyflwyno'r hysbysiad am apêl, hysbysu'r apelydd bod y Clerc wedi derbyn yr hysbysiad, a rhaid iddo gyflwyno copi ohonno i'r awdurdod bilio y mae ei benderfyniad, ei weithred neu ei hysbysiad yn destun yr apêl, ac i unrhyw awdurdod bilio arall sy'n ymddangos i'r Clerc yn gysylltiedig â'r mater.

Trefniadau ar gyfer apelau

31.—(1Rhaid i'r Llywydd sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer penderfynu apelau yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo apêl o dan y Rhan hon ac apêl o dan un neu ragor o'r canlynol—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 1988,

(b)rheoliadau o dan adran 24,

yn ymwneud â'r un eiddo.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys—

(a)rhaid i'r Llywydd sicrhau yr ymdrinnir â'r apelau ym mha bynnag drefn sy'n ymddangos i'r Llywydd fel y drefn orau o ran sicrhau buddiannau cyfiawnder;

(b)rhaid i'r swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl y digwydd) a'r awdurdod bilio gael eu cyplysu fel parti i apêl dan y Rhan hon.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “swyddog prisio” yw'r swyddog a benodir o dan adran 61(1)(a) o Ddeddf 1988.

(5Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflwyno copi o'r hysbysiad am apêl i berson a wnaed yn barti yn unol â pharagraff (3).

Tynnu'n ôl

32.—(1Ceir tynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc cyn dechrau gwrandawiad, neu ddechrau ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Banel Apêl.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysu'r apelydd pan fydd wedi cael yr hysbysiad tynnu'n ôl, a rhaid iddo gyflwyno copi o'r hysbysiad i bob parti arall i'r apêl.

Penderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig

33.—(1Ceir penderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig os yw pob parti wedi cytuno i hynny mewn ysgrifen.

(2Pan fo pob parti wedi cytuno fel y nodir ym mharagraff (1), rhaid i'r Clerc gyflwyno hysbysiad i'r partïon yn unol â hynny, ac, o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno hysbysiad o'r fath i barti, caiff pob parti gyflwyno i'r Clerc hysbysiad sy'n datgan—

(a)y rhesymau, neu'r rhesymau pellach am yr anghytundeb sydd wedi ysgogi'r apêl; neu

(b)nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach.

(3Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn unol â pharagraff (2) gael ei gyflwyno gan y Clerc i'r parti neu'r partïon eraill i'r apêl, a rhaid anfon gydag ef ddatganiad o effaith paragraffau (4) a (5).

(4Caiff unrhyw barti y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (3), o fewn pedair wythnos ar ôl y cyflwyno hwnnw, gyflwyno i'r Clerc hysbysiad pellach sy'n datgan ateb y parti hwnnw i ddatganiad y parti arall, neu'n datgan nad yw'r parti hwnnw'n bwriadu gwneud sylwadau pellach, yn ôl fel y digwydd; a rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o unrhyw hysbysiad pellach o'r fath i'r parti neu'r partïon eraill.

(5Ar ôl cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid i'r Clerc gyflwyno copïau o'r canlynol i Banel Apêl—

(a)unrhyw wybodaeth a drosglwyddwyd i'r Clerc dan y Rheoliadau hyn, a

(b)unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (4).

(6Caiff y Panel Apêl y cyfeirir apêl iddo fel y darperir ym mharagraff (5), os gwêl yn briodol—

(a)gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu gwybodaeth ysgrifenedig bellach am y seiliau y dibynna arnynt ac am unrhyw ffeithiau neu haeriadau perthnasol; neu

(b)gorchymyn bod yr apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad.

(7Pan fo Panel Apêl yn gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti'n darparu unrhyw fanylion o dan baragraff (6)(a), rhaid i'r Clerc gyflwyno copi o'r cyfryw fanylion i bob parti arall, a chaiff pob parti o'r fath o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno felly, gyflwyno i'r Clerc unrhyw ddatganiad pellach y dymuna'r parti hwnnw eu gwneud mewn ymateb.

Hysbysiad o wrandawiad

34.—(1Pan fo'r apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, rhaid i'r Clerc, o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad dan sylw, gyflwyno i'r partïon hysbysiad sy'n nodi'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(2Rhaid i'r Clerc hysbysebu'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad drwy beri bod hysbysiad sy'n nodi'r cyfryw wybodaeth yn cael ei arddangos mewn man amlwg —

(a)y tu allan i swyddfa'r awdurdod bilio, a bennwyd gan yr awdurdod at y diben hwnnw, neu

(b)mewn man arall o fewn ardal yr awdurdod hwnnw.

(3Rhaid i'r rhybudd sy'n ofynnol o dan baragraff (2) enwi man lle y gellir archwilio rhestr o'r apelau sydd i'w clywed.

(4Pan fo gwrandawiad apêl wedi ei ohirio, rhaid i'r Clerc gymryd pa gamau bynnag sy'n rhesymol ymarferol yn yr amser sydd ar gael —

(a)i hysbysu'r partïon o'r gohiriad; a

(b)i hysbysebu'r gohiriad.

Anghymhwyso rhag cymryd rhan

35.—(1Anghymhwysir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad, neu wrth benderfynu apêl, neu weithredu fel Clerc neu swyddog y Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag apêl, os yw'r person hwnnw'n aelod o'r awdurdod bilio perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod bilio perthnasol” yw—

(a)yn achos apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, yr awdurdod bilio y mae'r annedd sy'n destun yr apêl wedi ei lleoli ynddi; a

(b)mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod bilio yr apelir yn erbyn ei benderfyniad.

(3Anghymhwysir person rhag cymryd rhan fel aelod yn y gwrandawiad, neu wrth benderfynu apêl, neu weithredu fel Clerc neu swyddog y Tribiwnlys Prisio mewn perthynas ag apêl, os yw'r apelydd yn briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw neu os yw'r person hwnnw'n cynnal yr apelydd yn ariannol, neu dan rwymedigaeth i wneud hynny.

(4Fel arall, nid anghymhwysir person rhag gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag apêl, am yr unig reswm bod y person hwnnw'n aelod o awdurdod sy'n cael refeniw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o daliadau mewn perthynas â'r dreth gyngor, ac y gallai arfer swyddogaethau'r person hwnnw effeithio ar y taliadau hynny.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad

36.  Caiff unrhyw barti i apêl sydd i'w phenderfynu mewn gwrandawiad ymddangos yn bersonol (gyda chymorth, os yw'n dymuno hynny, gan unrhyw berson arall), neu ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu gan unrhyw gynrychiolydd arall (ac eithrio person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio neu'r Cyngor Llywodraethu, neu sy'n gyflogai'r Tribiwnlys Prisio).

Trefn y gwrandawiad – Panelau Apêl

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth y Tribiwnlys Prisio o wrando neu benderfynu apêl gan banel o dri aelod o'r Tribiwnlys Prisio (“Panel Apêl”), y bydd yn rhaid iddo gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.

(2Pan fo pob parti sy'n ymddangos mewn apêl yn cytuno felly, ceir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o'r Tribiwnlys Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.

(3Rhaid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fydd y Panel Apêl yn gorchymyn fel arall ar gais un o'r partïon, wedi i'r Panel gael ei fodloni y byddai gwrandawiad cyhoeddus yn cael effaith niweidiol ar fuddiannau'r parti hwnnw.

(4Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Panel Apêl wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Panel Apêl wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.

(5Caiff y Panel Apêl wneud yn ofynnol bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad, a bydd pŵer gan y Panel Apêl, at y diben hwnnw, i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.

(6Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Panel Apêl, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Panel Apêl, a galw tystion.

(7Caniateir gohirio gwrandawiad am ba gyfnod bynnag o amser, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os bydd telerau) a ystyrir yn briodol gan y Panel Apêl; a rhaid rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i bob un o'r partïon, o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.

(8Os ystyria hynny'n briodol, caiff Panel Apêl, ar ôl hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.

(9Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon—

(a)rhaid i'r Panel Apêl gynnal y gwrandawiad yn y modd yr ystyria'n fwyaf priodol o ran egluro'r materion ger ei fron ac yn gyffredinol i ymdrin yn gyfiawn â'r achos;

(b)rhaid i'r Panel Apêl, cyn belled ag yr ymddengys yn briodol iddo, geisio osgoi ffurfioldeb yn ei drafodion; ac

(c)ni chaiff y Panel Apêl ei rwymo gan unrhyw ddeddfiad neu reol cyfraith sy'n ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth gerbron llysoedd barn.

Tystiolaeth: cyffredinol

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth a gyflenwir yn unol â rheoliadau o dan adran 13 o Ddeddf 1992 neu Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddi yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos perthnasol fel tystiolaeth o unrhyw ffaith a nodir ynddi; a rhaid cymryd yn ganiataol bod unrhyw ddogfen sy'n dynodi ei bod yn cynnwys gwybodaeth o'r fath, oni phrofir yn wahanol—

(a)wedi ei chyflenwi gan y person y mae'n dynodi iddi gael ei chyflenwi ganddo; a

(b)wedi ei chyflenwi gan y person hwnnw yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth y dynodir iddi gael ei chyflenwi ganddo.

(3Ni chaiff awdurdod bilio ddefnyddio gwybodaeth y mae'r rheoliad hwn yn berthnasol iddi mewn unrhyw achosion perthnasol—

(a)oni fydd cyfnod o rybudd o ddim llai na dwy wythnos wedi ei roi ymlaen llaw i bob parti arall yn yr achos, gan nodi'r wybodaeth y bwriedir ei defnyddio felly a'r annedd neu'r person y mae'r wybodaeth yn berthynol iddi neu iddo; ac

(b)oni fydd unrhyw berson, nad yw wedi rhoi dim llai na 24 awr o rybudd o'i fwriad i wneud hynny, wedi ei ganiatáu gan yr awdurdod, ar unrhyw adeg resymol—

(i)i archwilio'r dogfennau a chyfryngau eraill y delir y wybodaeth ynddynt neu arnynt; a

(ii)i wneud copi o unrhyw ddogfen neu unrhyw ddarn o ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth o'r fath.

(4Os nad yw unrhyw wybodaeth y mae angen ei rhoi ar gael i'w harchwilio yn unol â'r rheoliad hwn yn cael ei chadw ar ffurf dogfen, bodlonir y ddyletswydd i sicrhau bod yr wybodaeth ar gael felly os sicrheir bod allbrint, ffotograff neu atgynhyrchiad arall o'r wybodaeth, a adalwyd o'r cyfrwng storio a ddefnyddir i gadw'r wybodaeth honno, ar gael i'w archwilio.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “achos(ion) perthnasol” yw unrhyw achos(ion) ar, neu o ganlyniad i apêl, ac unrhyw achos(ion) ar neu o ganlyniad i atgyfeirio ar gyfer cymrodeddu o dan reoliad 45.

Tystiolaeth o restrau a dogfennau eraill

39.—(1Ceir profi cynnwys rhestr drwy ddangos copi ohoni, neu gopi o'r rhan berthnasol ohoni, sy'n dynodi bod y swyddog rhestru wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.

(2Ceir profi cynnwys rhybudd i gwblhau drwy ddangos copi ohono sy'n dynodi bod y swyddog priodol o'r awdurdod bilio wedi ardystio ei fod yn gopi cywir.

(3Ym mharagraff (2) mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (11).

Penderfyniadau ar apelau

40.—(1Ceir penderfynu apêl gan fwyafrif o'r aelodau sy'n cymryd rhan; ac os yw'r apêl (yn unol â rheoliad 37(2)), i'w phenderfynu gan ddau aelod ac nad oes modd iddynt gytuno, rhaid i'r Clerc atgyfeirio'r apêl yn ôl, i'w phenderfynu gan Banel Apêl sy'n cynnwys tri aelod gwahanol.

(2Pan fo apêl i'w phenderfynu ar sail gwrandawiad, caiff y Panel Apêl naill ai ohirio'i benderfyniad neu ei roi ar lafar ar derfyn y gwrandawiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid—

(a)yn achos penderfyniad a roddwyd ar lafar, cadarnhau'r penderfyniad,

(b)mewn unrhyw achos arall, cyfleu'r penderfyniad,

drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r partïon; a rhaid anfon datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad, gyda'r hysbysiad.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n gwneud yn ofynnol ailgyflwyno unrhyw ddogfen i barti, sydd eisoes wedi ei chyflwyno i'r person hwnnw yn unol â rheoliad 43.

(5Yn achos apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, rhaid i'r Clerc anfon hysbysiad o'r penderfyniad at y swyddog rhestru a benodwyd ar gyfer yr awdurdod bilio sy'n barti i'r apêl.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.

Gorchmynion

41.—(1Ar neu ar ôl penderfynu apêl caiff y Panel Apêl, o ganlyniad i'r penderfyniad, wneud yn ofynnol drwy orchymyn bod—

(a)amcangyfrif yn cael ei ddileu neu ei ddiwygio;

(b)cosb yn cael ei dileu;

(c)penderfyniad awdurdod bilio yn cael ei wrth-droi;

(ch)cyfrifiad (yn hytrach nag amcangyfrif) o swm yn cael ei ddirymu a'r swm yn cael ei ailgyfrifo.

(2Caiff gorchymyn wneud yn ofynnol y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i bwnc y gorchymyn.

Adolygu penderfyniadau

42.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) bydd pŵer gan Banel Apêl a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4), ar ôl derbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif o dan lofnod yr aelod sy'n llywyddu—

(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllir ym mharagraff (5), a

(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn rhybudd i gwblhau, ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw wedi ei phenderfynu gan yr Uchel Lys.

(3Ceir gwrthod cais a wneir o dan baragraff (1) oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod pan roddir yr hysbysiad (pa un ai'n unol â rheoliad 40(3) neu reoliad 43(3)) o'r penderfyniad dan sylw.

(4Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Panel Apêl a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Panel Apêl a wnaeth y penderfyniad.

(5Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir oherwydd camgymeriad clerigol;

(b)nad oedd parti wedi ymddangos, a gall y parti hwnnw ddangos achos rhesymol pam nad ymddangosodd;

(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan, neu benderfyniad ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Uwch Dribiwnlys, mewn perthynas ag apêl ynglŷn â'r annedd neu, yn ôl fel y digwydd, y person, a oedd yn destun penderfyniad y Panel Apêl; ac

(ch)bod buddiannau cyfiawnder rywfodd arall yn gwneud adolygiad o'r fath yn ofynnol.

(6Y sail a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi canfod ei bodolaeth drwy ymchwilio'n rhesymol ddiwyd, na'i rhagweld, wedi dod ar gael er pan gwblhawyd yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.

(7Os yw Panel Apêl yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron naill ai'r un Panel Apêl neu Banel Apêl gwahanol.

(8Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r partïon i'r apêl mewn ysgrifen o'r canlynol—

(a)penderfyniad na fydd y Panel Apêl yn ymgymryd ag adolygiad o dan baragraff (1);

(b)penderfyniad y Panel apêl, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad a oedd yn destun yr apêl;

(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); ac

(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).

(9Mewn perthynas â phenderfyniad y gwneir cais ynglŷn ag ef o dan baragraff (1), os yw apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad perthnasol.

(10Ym mharagraff (9)—

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” yw aelod o Banel Apêl.

Cofnodion o benderfyniadau, etc

43.—(1Dyletswydd y Clerc fydd gwneud trefniadau i gofnodi pob penderfyniad, pob gorchymyn a wneir o dan reoliad 41 ac effaith pob tystysgrif a dirymiad o dan reoliad 42.

(2Ceir cadw cofnodion ar unrhyw ffurf, dogfennol neu fel arall, a rhaid iddynt gynnwys y manylion a bennir yn Atodlen 3.

(3Rhaid anfon copi, ar ffurf dogfen, o'r nodyn perthnasol yn y cofnod at bob parti i'r apêl y mae'r nodyn yn berthnasol iddi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Rhaid dal gafael ar bob cofnod am gyfnod o chwe blynedd, a fydd yn cychwyn ar y diwrnod y gwneir y nodyn olaf yn y cofnod.

(5Caiff unrhyw berson, ar adeg resymol a bennir gan neu ar ran y Tribiwnlys Prisio, ac yn ddi-dâl, archwilio'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan baragraff (1).

(6Os bydd person sydd â gofal o'r cofnod, heb esgus rhesymol, yn fwriadol yn rhwystro person rhag arfer yr hawl a roddir gan baragraff (5), bydd y person hwnnw'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(7Caiff yr aelod a oedd yn llywyddu yn y gwrandawiad neu pan benderfynwyd apêl, awdurdodi cywiro unrhyw gamgymeriad clerigol yn y cofnod, a rhaid anfon copi o'r cofnod cywiredig at y personau yr anfonwyd copi o'r cofnod gwreiddiol atynt.

(8Bydd dangos, mewn unrhyw achos mewn unrhyw lys barn, dogfen sy'n dynodi ei bod wedi ei hardystio gan y Prif Weithredwr neu gan Glerc Panel Apêl fel copi cywir o gofnod neu benderfyniad y Panel Apêl hwnnw, oni phrofir i'r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o'r ddogfen a'r ffeithiau a gofnodir ynddi.

Apelau

44.—(1I'r Uchel Lys y cyfeirir apêl ar bwynt cyfreithiol sy'n codi o benderfyniad neu orchymyn a roddir neu a wneir ar apêl gan Banel Apêl, a chaiff unrhyw barti i'r apêl wneud hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ceir gwrthod apêl dan baragraff (1) oni wneir yr apêl o fewn pedair wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir hysbysiad o'r penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n destun yr apêl.

(3Mewn perthynas â chais o dan baragraff (1) o reoliad 42 a wnaed o fewn pedair wythnos i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad sy'n destun yr apêl—

(a)os rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(a) o'r rheoliad hwnnw, neu

(b)os rhoddir hysbysiad fel y crybwyllir ym mharagraff (8)(b) o'r rheoliad hwnnw,

ceir gwrthod yr apêl oni wneir hi o fewn pedair wythnos ar ôl cyflwyno'r hysbysiad dan y paragraff (8)(a) neu (b) hwnnw.

(4Caiff yr Uchel Lys gadarnhau, amrywio, gosod o'r neilltu, dirymu neu anfon yn ôl penderfyniad neu orchymyn a wnaed gan Banel Apêl, a chaiff wneud unrhyw orchymyn y gallai'r Panel Apêl fod wedi ei wneud.

(5Rhaid i awdurdodau bilio weithredu'n unol ag unrhyw orchymyn a wneir gan yr Uchel Lys; a bydd paragraff 10A o Atodlen 11 i Ddeddf 1988 yn cael effaith sy'n ddarostyngedig i'r gofyniad hwn.

Cymrodeddu

45.—(1Ar unrhyw adeg cyn dechrau gwrandawiad neu ystyriaeth o sylwadau ysgrifenedig gan Banel Apêl, os cytunir felly mewn ysgrifen rhwng y personau a fyddai'n bartïon i'r apêl, pe deuai'r anghydfod yn destun apêl i'r Tribiwnlys Prisio, bydd y mater yn cael ei atgyfeirio ar gyfer cymrodeddu.

(2Mewn unrhyw gymrodeddu yn unol â'r rheoliad hwn, caiff y dyfarniad gynnwys unrhyw orchymyn y gallai Panel Apêl fod wedi ei wneud mewn perthynas â'r mater, a bydd paragraff 10A o Atodiad 11 i Ddeddf 1988 yn gymwys i orchymyn o'r fath, fel y mae'n gymwys i orchmynion a gofnodir yn unol â'r Rhan hon.

Cyflwyno hysbysiadau

46.—(1Heb leihau effaith adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ceir cyflwyno unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno gan y Clerc neu'r swyddog rhestru o dan y Rhan hon—

(a)drwy ei ddanfon—

(i)at y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo; neu

(ii)at unrhyw berson arall a awdurdodwyd ganddo i weithredu fel ei asiant at y diben hwnnw;

(b)drwy ei adael yn un o'r mannau canlynol, neu ei anfon yno drwy'r post—

(i)man busnes arferol y person hwnnw, neu ei fan busnes olaf sy'n hysbys, neu

(ii)yn achos cwmni, ei swyddfa gofrestredig, neu

(iii)man busnes arferol, neu'r olaf sy'n hysbys, neu swyddfa gofrestredig unrhyw berson arall a awdurdodwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a)(ii);

(c)drwy ei ddanfon at ryw berson yn y fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi, neu, os nad oes neb y gellir ei ddanfon ato felly yn bresennol yn y fangre, ei osod ynghlwm wrth ryw ran amlwg o'r fangre;

(ch)heb leihau effaith darpariaethau blaenorol y rheoliad hwn, os yw'r fangre y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi yn fan busnes y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo, drwy adael yr hysbysiad yn y man busnes hwnnw, neu ei anfon yno drwy'r post, wedi ei gyfeirio at y person hwnnw; neu

(d)drwy gyfathrebiad electronig yn unol â pharagraff (3) ond yn ddarostyngedig i'r hyn a grybwyllir yn y paragraff hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad sydd i'w gyflwyno i'r Tribiwnlys Prisio, y Clerc, y swyddog prisio neu'r swyddog rhestru o dan y Rheoliadau hyn—

(a)gael ei anfon drwy'r post rhagdaledig neu ei ddanfon â llaw i'r cyfeiriad a bennwyd ar gyfer yr achos;

(b)ei anfon drwy ffacs i'r rhif a bennwyd ar gyfer yr achos; neu

(c)ei anfon neu ei ddanfon drwy ba bynnag ddull arall ac i ba bynnag gyfeiriad a gytunir rhwng y Clerc, y swyddog prisio neu'r swyddog rhestru (yn ôl fel y digwydd) a'r person sydd i gyflwyno'r hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw parti yn darparu rhif ffacs, cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer trosglwyddo dogfennau iddo yn electronig, rhaid i'r parti hwnnw dderbyn cyflwyno hysbysiadau iddo, a danfon dogfennau ato, drwy'r dull hwnnw.

(4Os yw parti yn hysbysu'r Clerc a phob parti arall na ddylid defnyddio dull penodol o gyfathrebu (ac eithrio drwy'r post neu ddanfon â llaw) ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddarparu dogfennau i'r parti hwnnw, rhaid peidio â defnyddio'r dull hwnnw o gyfathrebu.

(5Os yw'r Clerc neu barti yn anfon hysbysiad at barti neu at y Clerc drwy e-bost neu unrhyw ddull electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i'r anfonwr ddarparu copi caled o'r hysbysiad hwnnw i'r derbynnydd.

(6Rhaid gwneud cais o dan baragraff (5) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r derbynnydd gael yr hysbysiad neu'r ddogfen yn electronig.

(7Ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, os na ellir dod o hyd i enw unrhyw drethdalwr y mae'n ofynnol, neu yr awdurdodwyd, cyflwyno hysbysiad iddo, ceir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyfeirio at “Dalwr Treth Gyngor” yr annedd dan sylw (gan enwi'r annedd) heb roi enw na disgrifiad pellach.

(8At ddibenion unrhyw achos cyfreithiol, rhaid trin hysbysiad a roddir drwy gyfathrebiad electronig, oni phrofir i'r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl ei anfon.

(9Rhaid i berson sydd wedi rhoi cyfeiriad at y diben o gyfathrebu yn electronig, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc ac i'r partïon eraill, hysbysu'r Clerc a'r partïon eraill o unrhyw newid yn y cyfeiriad hwnnw; a bydd y newid yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad y bydd y Clerc a'r partïon eraill yn cael yr hysbysiad, yn ôl fel y digwydd.

(10Caiff y Clerc a phob un o'r partïon gymryd yn ganiataol mai'r cyfeiriad a ddarperir gan barti neu ei gynrychiolydd yw'r cyfeiriad y dylid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly hyd nes ceir hysbysiad ysgrifenedig i'r gwrthwyneb.

(11Yn y rheoliad hwn —

(a)mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(12);

(b)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw ddogfen arall y mae'n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei chyflwyno; ac

(c)mae unrhyw gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o'r fath yn gyfeiriad at ofyniad neu awdurdodiad o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 6Dirymiadau a Diwygiadau

Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993

47.—(1Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Newid Rhestri ac Apelau) 1993(13) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 3 (dehongli Rhan 2), yn lle'r diffiniad o “relevant valuation tribunal” rhodder—

(3Yn rheoliad 16 (dehongli Rhan 3)—

(a)yn lle'r diffiniad o “clerk” rhodder—

(b)yn lle'r diffiniad o “tribunal” rhodder—

“tribunal” means the members of the Valuation Tribunal for Wales convened in accordance with this Part for the purpose of disposing of an appeal; ac

(c)yn lle'r diffiniad o “the relevant valuation tribunal” rhodder—

(4Yn lle rheoliad 17 (awdurdodaeth: eithriad) rhodder—

Jurisdiction: exception

17.(1) Where the appellant is—

(a)a former member of a valuation tribunal which existed before 1 July 2010,

(b)a former employee of a valuation tribunal which existed before 1 July 2010, of the Valuation Service for Wales established by the Valuation Tribunals (Wales) Regulations 2005 or of the Valuation Tribunal for Wales, or

(c)an employee or member of the Valuation Tribunal for Wales,

the appeal must be dealt with by such members of the Tribunal as may be appointed for that purpose by the President of the Valuation Tribunal for Wales.

(2) Where it appears to the President of the Valuation Tribunal for Wales that by reason of a conflict of interests, or the appearance of such a conflict, it would be inappropriate for an appeal to be dealt with by particular members of the Tribunal, the President, must appoint another tribunal to deal with that appeal..

(5Yn rheoliad 18(1) (trefniadau ar gyfer apelau), yn lle “the president of a valuation tribunal” rhodder “the President of the Valuation Tribunal for Wales”.

(6Yn rheoliad 21 (adolygiad cyn gwrandawiad), yn lle “a chairman appointed under regulation 8 of the Valuation and Community Charge Tribunals Regulations 1989.” rhodder “a Chairperson appointed under the Valuation Tribunal for Wales Regulations 2010”.

(7Yn rheoliad 24 (cynrychiolaeth yn y gwrandawiad), yn lle “the valuation tribunal” rhodder “the Valuation Tribunal for Wales ”.

(8Yn rheoliad 25(1) (cynnal y gwrandawiad), yn lle “a valuation tribunal's” rhodder “the Valuation Tribunal for Wales' ”.

Dirymu Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005

48.  Dirymir Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005(14).

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005

49.—(1Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005(15) yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol)—

(a)yn lle'r diffiniad o “clerk” rhodder—

(b)yn lle'r diffiniad o “the relevant valuation tribunal” rhodder—

“the relevant valuation tribunal” means the Valuation Tribunal for Wales;

(c)yn lle'r diffiniad o “valuation tribunal” rhodder—

“valuation tribunal” means the members of the Valuation Tribunal for Wales convened in accordance with Part 5 for the purpose of disposing of an appeal under these Regulations.

(3Yn lle rheoliad 22 (awdurdodaeth: eithriadau) rhodder—

Jurisdiction: exceptions

22.(1) Where the appellant is—

(a)a former member of a valuation tribunal which existed before 1 July 2010,

(b)a former employee of a valuation tribunal which existed before 1 July 2010, the Valuation Service for Wales established by the Valuation Tribunals (Wales) Regulations 2005 or by the Valuation Tribunal for Wales, or

(c)an employee or member of the Valuation Tribunal for Wales,

the appeal must be dealt with by such members of the Tribunal as may be appointed for that purpose by the President of the Valuation Tribunal for Wales.

(2) Where it appears to the President of the Valuation Tribunal for Wales that by reason of a conflict of interests, or the appearance of such a conflict, it would be inappropriate for an appeal to be dealt with by particular members of the Tribunal, the President must appoint another tribunal to deal with that appeal..

(4Yn rheoliad 23(1) (trefniadau ar gyfer apelau), yn lle “the president of the valuation tribunal” rhodder “the President of the Valuation Tribunal for Wales”.

(5Yn rheoliad 29 (sylwadau yn y gwrandawiad), yn lle “the valuation tribunal” rhodder “the Valuation Tribunal for Wales”.

(6Yn rheoliad 30(1) (cynnal y gwrandawiad), yn lle “a valuation tribunal's” rhodder “the Valuation Tribunal for Wales'”.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Gweinyddu) 2008

50.  Yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Gweinyddu) 2008(16), ym mharagraff 23 o Atodlen 2 (cyflogwyr y cynllun), yn lle “the Valuation Tribunal Service for Wales established under regulation 5 of the Valuation Tribunals (Wales) Regulations 2005” rhodder “the Valuation Tribunal for Wales established under regulation 4 of the Valuation Tribunal for Wales Regulations 2010”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2010

Rheoliad 9

ATODLEN 1Penodi Aelodau

12345
RhanbarthEnwCynghorauNifer o aelodau sydd i'w penodi gan bob cyngorNifer mwyaf o aelodau sy'n aelodau o'r cyngor
Dinas a sir Casnewydd, siroedd Mynwy a Phowys, a bwrdeistref i sirol Blaenau Gwent, Caerffili a Thor-faenDwyrain CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent62
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili103
Cyngor Sir Fynwy62
Cyngor Dinas Casnewydd83
Cyngor Sir Powys124
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen62
Siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Dinbych a Fflint a bwrdeistrefi sirol Conwy a WrecsamGogledd CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy83
Cyngor Sir Ynys Môn62
Cyngor Gwynedd83
Cyngor Sir Ddinbych83
Cyngor Sir y Fflint83
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam83
Dinas a sir Caerdydd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro MorgannwgDe CymruCyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr83
Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd145
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful62
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf124
Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg83
Dinas a sir Abertawe, siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro, a bwrdeistref sirol Castell-nedd Port TalbotGorllewin CymruCyngor Sir Ceredigion62
Cyngor Sir Caerfyrddin103
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot83
Cyngor Sir Penfro83
Cyngor Dinas a Sir Abertawe124

Rheoliadau 11, 12 a 13

ATODLEN 2Gweithdrefn ethol

Rhan 1 –Cyffredinol

1.  Rhaid i'r aelodau cymwys wneud penodiad o fewn tri mis wedi i swydd fynd yn wag.

2.  Rhaid i'r person neu'r personau a benodir fod yn aelod neu aelodau o'r Tribiwnlys Prisio (ond yn ddarostyngedig i baragraff 12(a)) a rhaid penderfynu arno neu arnynt drwy etholiad.

3.  Rhaid i'r Cyngor Llywodraethu sicrhau y gwneir y trefniadau ar gyfer y pleidleisio sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn.

4.  Rhaid i'r trefniadau wneud darpariaeth fel a ddisgrifir ym mharagraffau 5 i 22.

5.  Rhaid i'r Cyngor Llywodraethu bennu dyddiad ar gyfer etholiad (“diwrnod yr etholiad”).

6.  Rhaid i'r prif weithredwr drefnu ar gyfer cyhoeddi hysbysiad rhagarweiniol o etholiad, a hysbysu pob aelod ohono, o leiaf 56 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

7.  Rhaid cyflwyno enwebiadau i'r prif weithredwr, a rhaid iddo'u cael ar ddiwrnod a bennir gan y Cyngor Llywodraethu na fydd yn ddiweddarach na 35 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9(a), os na fydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y swyddi gwag, rhaid penodi'r ymgeisydd neu ymgeiswyr.

9.—(aMewn achos pan etholir cynrychiolydd rhanbarthol yn ogystal â dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol, os oes dau neu ragor o ymgeiswyr, rhaid cynnal etholiad gan ddefnyddio papurau pleidleisio (“pôl”).

(b)Yn achos etholiadau eraill, os yw nifer y personau a enwebir ar gyfer swydd yn fwy na nifer y swyddi gwag, rhaid cynnal pôl.

10.  Mewn achos pan etholir y Llywydd—

(a)bydd gan bob aelod cymwys un bleidlais; a

(b)penderfynir ar y person a benodir drwy ei ethol drwy fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwrir.

11.  Mewn achos pan etholir cadeiryddion—

(a)bydd gan bob aelod cymwys y nifer o bleidleisiau sy'n hafal i'r nifer priodol, ac ni chaiff fwrw mwy nag un bleidlais dros ymgeisydd unigol; a

(b)yr aelodau a etholir fydd y nifer priodol o aelodau sydd â'r niferoedd uchaf o'r pleidleisiau a fwriwyd.

12.  Mewn achos pan etholir cynrychiolwyr rhanbarthol—

(a)rhaid i'r person sydd i'w benodi fod—

(i)yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio, a benodwyd gan y Llywydd a gan gyngor o fewn y rhanbarth lle'r aeth swydd cynrychiolydd rhanbarthol yn wag; a

(ii)yn Gadeirydd;

(b)bydd gan bob aelod cymwys un bleidlais; ac

(c)os oes swyddi'n wag ar gyfer cynrychiolydd rhanbarthol yn ogystal â dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol, yr aelod a etholir yn gynrychiolydd rhanbarthol fydd yr aelod sydd â'r nifer uchaf o'r pleidleisiau a fwriwyd, a'r aelod a etholir yn ddirprwy gynrychiolydd rhanbarthol fydd yr aelod sydd â'r nifer ail uchaf o'r pleidleisiau a fwriwyd.

13.  Os ceir canlyniad cyfartal mewn unrhyw etholiad, rhaid penderfynu ar y person neu'r personau a etholir o blith yr ymgeiswyr sydd â'r niferoedd cyfartal o bleidleisiau drwy fwrw coelbren.

14.  Rhaid i'r prif weithredwr anfon hysbysiad o bôl at bob aelod cymwys, i gyrraedd o leiaf 21 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

15.  Rhaid i'r hysbysiad o bôl—

(a)ddatgan diben y pôl, a'r dyddiad olaf ar gyfer derbyn papurau pleidleisio;

(b)cael ei anfon ynghyd â phapur pleidleisio sy'n datgan nifer yr ymgeiswyr sydd i'w hethol ac yn cynnwys rhestr o'r ymgeiswyr cymwys;

(c)cael ei anfon ynghyd ag unrhyw ddatganiad, na chaiff fod yn fwy na 500 gair, a gyflenwir gan ymgeisydd ar gyfer ei ddosbarthu gyda'r hysbysiad o bôl.

16.  Rhaid cyflwyno'r hysbysiad sy'n ofynnol o dan baragraff 15 i bob person sy'n aelod cymwys ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.

17.  Rhaid i'r prif weithredwr anfon papur pleidleisio dyblyg at unrhyw aelod cymwys sy'n gwneud cais mewn ysgrifen, os yw'n ymddangos i'r prif weithredwr nad yw'r aelod wedi cael y papur gwreiddiol, neu fod y papur wedi ei ddifetha, wedi mynd ar goll neu wedi ei ddinistrio.

18.  Rhaid i aelod cymwys lenwi'r papur pleidleisio ei hunan, drwy roi croes ar ochr dde'r papur gyferbyn ag enw'r ymgeisydd y dymuna bleidleisio iddo, nodi ei gyfeiriad yn y blwch priodol (os na ddangosir ef eisoes) a llofnodi'r papur pleidleisio yn bersonol.

19.  Rhaid i'r prif weithredwr wrthod unrhyw bapur pleidleisio sydd heb ei lofnodi, neu wedi ei lenwi'n amhriodol neu sydd â'i fwriad yn amwys.

20.  Ar ddiwrnod yr etholiad rhaid i'r prif weithredwr gyfrif y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd.

21.  Rhaid i'r prif weithredwr gyhoeddi adroddiad ar y pôl, a fydd yn cynnwys—

(a)cyfanswm nifer y papurau pleidleisio a ddychwelwyd;

(b)nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a'r seiliau dros wneud hynny;

(c)cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros bob ymgeisydd; ac

(ch)enw'r ymgeisydd neu enwau'r ymgeiswyr a etholwyd.

22.—(1Os yw ymgeisydd yn tynnu ei enwebiad yn ôl, neu os hysbysir y prif weithredwr o farwolaeth ymgeisydd, ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer cael enwebiadau ond cyn dosbarthu papurau pleidleisio, rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol—

(i)os oes dau neu ragor o ymgeiswyr yn weddill, rhaid i'r etholiad fynd ymlaen, ym mhob modd, fel pe na bai'r ymgeisydd wedi ei enwebu;

(ii)os un ymgeisydd yn unig sy'n weddill rhaid datgan bod yr ymgeisydd hwnnw wedi ei ethol.

(2Os yw ymgeisydd yn tynnu ei enwebiad yn ôl, neu os hysbysir y prif weithredwr o farwolaeth ymgeisydd, ar ôl dosbarthu papurau pleidleisio ond cyn dyddiad yr etholiad, rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol—

(i)os oes dau neu ragor o ymgeiswyr yn weddill, rhaid i'r etholiad fynd ymlaen;

(ii)os un ymgeisydd yn unig sy'n weddill, rhaid anwybyddu'r papurau pleidleisio a datgan bod yr ymgeisydd hwnnw wedi ei ethol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), pan fo dau neu ragor o ymgeiswyr i gael eu hethol mewn unrhyw etholiad, rhaid dilyn gweithdrefnau gydag addasiadau angenrheidiol a fydd yn cyrraedd y canlyniad cyfatebol.

(4Pan fo'r amgylchiadau a nodir yn is-baragraff (1) neu (2) yn digwydd yn achos etholiad ar gyfer cynrychiolydd rhanbarthol yn ogystal â dirprwy gynrychiolydd rhanbarthol—

(a)os oes dau neu ragor o ymgeiswyr yn weddill, rhaid i'r etholiad fynd ymlaen, ym mhob modd, fel pe na bai'r ymgeisydd (y tynnwyd ei enwebiad yn ôl neu'r hysbyswyd y prif weithredwr o'i farwolaeth) erioed wedi ei enwebu;

(b)os un ymgeisydd yn unig sy'n weddill, rhaid datgan bod yr ymgeisydd hwnnw wedi ei ethol yn gynrychiolydd rhanbarthol.

23.  Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw etholiad oherwydd unrhyw swydd wag ymhlith aelodau'r Tribiwnlys Prisio.

24.—(1Caiff y Cyngor Llywodraethu awdurdodi pleidleisio electronig mewn unrhyw bôl. Caiff unrhyw aelod sy'n gymwys i bleidleisio mewn pôl o'r fath wneud hynny drwy bleidleisio yn electronig os yw'n dymuno.

(2Rhaid i'r pleidleisio electronig gael ei weinyddu gan y prif weithredwr, er mwyn sicrhau bod y gweithdrefnau pleidleisio electronig yn diogelu cyfrinachedd y pleidleisiau unigol yn y pôl, a sicrhau mai'r aelodau sy'n gymwys i bleidleisio yn y pôl, yn unig, a all bleidleisio o dan y gweithdrefnau hynny.

(3Rhaid i bob pleidlais a fwrir yn electronig gael ei throsglwyddo i'r prif weithredwr erbyn, fan bellaf, y dyddiad olaf pan fo rhaid i bapurau pleidleisio yn y pôl gyrraedd y prif weithredwr.

(4Rhaid i aelod sydd wedi dychwelyd papur pleidleisio mewn unrhyw bôl beidio â phleidleisio yn electronig yn y pôl hwnnw, ac ni chaiff aelod sydd wedi pleidleisio yn electronig mewn pôl ddychwelyd papur pleidleisio yn y pôl hwnnw.

25.—(1Yn yr Atodlen hon, mae i'r termau canlynol yr ystyron a nodir.

(2Mae i “nifer priodol” yr un ystyr ag yn rheoliad 12 neu 13, yn ôl fel y digwydd.

(3Ystyr “aelod cymwys” yw—

(a)mewn achos pan etholir y Llywydd, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl;

(b)mewn achos pan etholir Cadeiryddion, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl;

(c)mewn achos pan etholir cynrychiolwyr rhanbarthol, aelod o'r Tribiwnlys Prisio sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl, ac a benodwyd gan y Llywydd a chyngor o fewn y rhanbarth lle'r aeth y swydd yn wag ar gyfer cynrychiolydd rhanbarthol.

(4Mewn perthynas ag is-baragraffau (3)(a) a (b), mae “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yn cynnwys aelod—

(a)a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2005,

(b)y parhaodd ei benodiad o dan reoliad 21(3), ac

(c)sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl.

(5Mewn perthynas ag is-baragraff (3)(c), mae “aelod o'r Tribiwnlys Prisio” yn cynnwys aelod—

(a)a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2005, ar gyfer hen Dribiwnlys yr oedd ei ardal yn cyfateb i ardal rhanbarth a bennir yn Atodlen 1 ac yr aeth y swydd yn wag ynddo,

(b)y parhaodd ei benodiad o dan reoliad 21(3), ac

(c)sy'n aelod ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o bôl.

Rhan 2 –Pontio

26.  At ddibenion cymhwyso Rhan 1 o'r Atodlen hon i etholiadau'r Llywydd cyntaf a'r cynrychiolwyr rhanbarthol cyntaf—

(a)dyddiad yr etholiad yn y ddau achos yw 22 Mehefin 2010;

(b)rhaid rhoi'r hysbysiad rhagarweiniol, sydd i'w roi o dan baragraff 6 o'r Atodlen hon, erbyn 8 Ebrill 2010 fan bellaf;

(c)rhaid cael yr enwebiadau ddim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl rhoi'r hysbysiad rhagarweiniol;

(ch)rhaid anfon yr hysbysiad o bôl, sydd i'w roi o dan baragraff 14 o'r Atodlen hon, i gyrraedd ddim hwyrach na 28 Mai 2010;

(d)y dyddiad y mae'n rhaid ei bennu yn yr hysbysiad o bôl ar gyfer dychwelyd papurau pleidleisio yw 18 Mehefin 2010;

(dd)awdurdodir prif weithredwr yr hen Wasanaeth i gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau'r prif weithredwr fel y'u pennir yn Rhan 1 o'r Atodlen hon.

Rheoliad 43

ATODLEN 3CYNNWYS Y COFNODION A WNEIR O DAN RAN 5

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn creu un tribiwnlys prisio ar gyfer Cymru (“y TPC”), a fydd yn cymryd lle'r pedwar tribiwnlys (“yr hen Dribiwnlysoedd”) a'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol.

Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1, 4 i 8, 11, 12 a 14 i 16 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno ac adran 24 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Daw Rhannau 1 i 4 o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2010 a Rhannau 5 a 6 i rym ar 1 Gorffennaf 2010.

Bydd y TPC yn ymdrin ag apelau a wneir o dan y darpariaethau statudol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3.

Bydd y TPC yn cychwyn ymdrin ag apelau o'r fath ar 1 Gorffennaf 2010. Bydd pob apêl, hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2010, yn cael ei throsglwyddo i'r TPC.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Prisio Cymru, a'i Gyngor Llywodraethu, a phenodi aelodau, llywydd y TPC, cynrychiolwyr rhanbarthol a chadeiryddion.

Mae rheoliad 4 yn sefydlu'r TPC ar 1 Ebrill 2010.

Mae rheoliad 5 yn sefydlu'r Cyngor Llywodraethu ar 1 Gorffennaf 2010.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn darparu ynglŷn ag aelodaeth a swyddogaethau'r Cyngor Llywodraethu.

Mae rheoliadau 9 a 10 ac Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran nifer aelodau'r TPC, y niferoedd sydd i'w penodi gan bob cyngor penodi a'r Llywydd, y modd y'u penodir a pharhad eu haelodaeth.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn ymwneud â phenodi Llywydd a Chadeiryddion y TPC.

Mae rheoliad 13 yn ymwneud â phenodi pedwar cynrychiolydd rhanbarthol (a fydd yn aelodau o'r Cyngor Llywodraethu) a'u dirprwyon.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan anghymhwysir person o fod yn aelod.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â staff, lwfansau i aelodau, gweinyddu, llety a chyfarpar.

Mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu ar gyfer penodi Prif Weithredwr (a fydd hefyd yn glerc y TPC) a phenodi cyflogeion eraill. Prif weithredwr y gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol fydd Prif Weithredwr cyntaf y TPC. Mae rheoliad 15 yn ymdrin hefyd â dirprwyo swyddogaethau'r Prif Weithredwr.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer lwfansau, a fydd yn daladwy i aelodau'r TPC fel a bennir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliadau 18 i 20 yn ymwneud â gweinyddiaeth, llety a chyfarpar y TPC.

Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Mae rheoliad 21 yn darparu ar gyfer trosglwyddo aelodau'r hen dribiwnlysoedd i'r TPC.

Mae rheoliad 22 yn darparu mai cadeiryddion yr hen dribiwnlysoedd fydd cadeiryddion y TPC.

Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff y gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol i'r TPC.

Mae rheoliad 24 yn ymdrin â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol i'r TPC

Mae rheoliadau 25 a 26 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag apelau a drosglwyddir, ac â dirwyn i ben yr hen Dribiwnlysoedd a'r gwasanaeth tribiwnlys prisio Cymru blaenorol.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer apelau ynglŷn â'r dreth gyngor, drwy ailddeddfu, i raddau helaeth, y darpariaethau yn Rheoliadau 2005.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â dirymiadau a diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hyn.

(1)

1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1, 4 i 8, 11, 12, 14 i 16 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, ac adran 24 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 breiniwyd y swyddogaethau hynny bellach yng Ngweinidogion Cymru. Diwygiwyd Atodlen 11 i Ddeddf 1988 gan Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer Tribiwnlys Prisio Lloegr 2007 a gwneud diwygiadau canlyniadol yn y darpariaethau a oedd yn weddill yn Atodlen 11, i'r graddau yr oeddent yn ymwneud â Chymru.

(2)

1992 p.14 (gweler y troednodyn uchod ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau).

(4)

Gweler O.S. 1993/290.

(6)

Mewnosodwyd Atodlen 4A gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), adran 139 ac Atodlen 5, paragraffau 36 a 79(3).

(7)

Mewnosodwyd paragraff 5C gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26), adran 72(1) a (4); a mewnosodwyd is-baragraff 5C(7) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28), adran 220(1) ac Atodlen 16, paragraffau 2 a 5.

(10)

Mae adran 17 o Ddeddf 1992 yn cymhwyso Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (ac eithrio paragraff 6) at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1992.

(11)

1972 p.70.

(12)

2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) (dehongli) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

(16)

O.S. 2008/239, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.