2010 Rhif 685 (Cy.67)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(3), 11(1), 21(1) a (2), 24 a 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20031:

Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2010.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym at ddibenion rheoliadau 3(2) a (3) a 6 ar 31 Mawrth 2010, ac at ddibenion yr holl reoliadau eraill ar 1 Ebrill 2010.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20032

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 20032 yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.

Budd-daliadau ymddeol3

1

Yn lle rheoliad 4(2) rhodder—

2

For the purposes of paragraph (1) and regulation 24 “retirement benefits” means benefits payable pursuant to statutory requirements under an arrangement accounted for as a defined benefit pension plan or as other long-term employee benefits (as defined in accordance with proper practices).

2

Mewn perthynas â chyfrifon sydd wedi eu paratoi ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2009, mae paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “defined benefit scheme” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “defined benefit pension plan or as other long-term employee benefits”.

3

Yn rheoliad 24(1), rhodder y geiriau “statutory requirements mentioned in” yn lle'r geiriau “legislation specified in sub-paragraphs (a) to (f) of”.

Y defnydd o dderbyniadau cyfalaf4

1

Yn rheoliad 18(2), yn lle'r geiriau “paragraphs (3) and (6)”, rhodder “paragraphs (3), (6) and (7)”.

2

Yn rheoliad 18(6), hepgorer y gair “administrative”.

3

Ar ôl rheoliad 18(6), mewnosoder—

7

Where a local authority receives a capital receipt in respect of a disposal of an interest in land other than housing land, the capital receipt may be applied in defraying the costs of or incidental to the disposal, provided that such costs do not exceed 4% of the capital receipt arising from the disposal.

Ôl-dâl yn dilyn cyflog anghyfartal5

Ar ôl rheoliad 24A(4), mewnosoder—

5

Subject to paragraph (6), this regulation ceases to have effect on 1 April 2013.

6

Where paragraph (4) applies to an amount, it continues to apply until the date on which the payment is actually made, whether or not the date is on or after 1 April 2013.

Lleihad yng ngwerth rhai buddsoddiadau6

1

Mae rheoliad 24G yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)—

a

yn is-baragraff (b), hepgorer “or”;

b

ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

ba

an impairment loss is recognised in a revenue account of the local authority for the financial year beginning on 1 April 2010;

c

ar ddiwedd is-baragraff (c), hepgorer “,” a mewnosoder—

  • ; or

    1. a

      the value of an impairment loss recognised in a revenue account of the local authority for the financial year beginning on 1 April 2009 is increased in a revenue account of the authority for the financial year beginning on 1 April 2010,

3

Ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

2A

A local authority which credits an amount to a revenue account for the financial year beginning on 1 April 2009 under paragraph (1) may debit an amount of up to the value of that credit to a revenue account for the financial year beginning on 1 April 2010.

4

Ym mharagraff (3)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “2008”, mewnosoder “or 1 April 2009”;

b

yn is-baragraff (b)(i), ar ôl “2009”, mewnosoder “or 1 April 2010”; ac

c

yn is-baragraff (b), ar ôl “2009” (lle y digwydd am yr eildro), mewnosoder “or, as the case may be, 1 April 2010”.

5

Ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

5A

Subject to paragraph (6), where—

a

under paragraph (1) a local authority credits an amount to a revenue account for the year beginning on 1 April 2008, 1 April 2009 or 1 April 2010; and

b

in accordance with proper practices, the authority credits or has credited any amount to a revenue account before 1 April 2011 in respect of interest on the relevant investment not received on or before the date of the event giving rise to the impairment loss,

to the extent it has not debited an amount under paragraphs (4) or (5) in respect of the interest, the local authority must debit to a revenue account for the financial year beginning on 1 April 2010 an amount equal to the total of the amounts mentioned in sub-paragraph (b).

6

Ym mharagraff (6), yn lle “(5)”, rhodder “(5A)”.

7

Ym mharagraff (7), ar ôl “(2)”, mewnosoder “or (2A)”.

8

Ym mharagraff (8)—

a

yn lle “2010” rhodder “2011”; a

b

yn lle “(5)” rhodder “(5A)”.

9

Ar ddiwedd is-baragraff (9)(a), mewnosoder “and”.

Absenoldebau cronnol byrdymor y digolledir amdanynt7

Ar ôl rheoliad 24G, mewnosoder—

Short-term accumulating compensated absences24H

Where, in accordance with proper practices, a local authority includes an amount in respect of a liability for short-term accumulating compensated absences in its balance sheet, the authority must not charge to a revenue account an amount in respect of that liability until the date on which the liability ceases or is discharged.

Dosbarthiad les8

Ar ôl rheoliad 24H, mewnosoder—

Lease classification

24I

Where, on or after 1 April 2009, a local authority receives money under an arrangement—

a

which is in existence on, and is not treated according to proper practices as a finance lease at, 31 March 2010, and

b

all or part of that arrangement will be treated according to proper practices as a finance lease on or after 1 April 2010,

the money received under that arrangement may be accounted for in accordance with proper practices applying to that arrangement on 31 March 2010.

24J

Where, on or after 1 April 2009, a local authority receives money under an arrangement—

a

which is in existence on, and is not treated according to proper practices as an operating lease at, 31 March 2010, and

b

all or part of that arrangement will be treated according to proper practices as an operating lease on or after 1 April 2010,

the money received under that arrangement may be accounted for in accordance with proper practices applying to that arrangement on 31 March 2010.

Arferion cywir9

Yn lle rheoliad 25, rhodder—

25

1

For the purposes of section 21(2) (accounting practices)—

a

in relation to local authorities other than community councils and minor joint committees, the accounting practices contained in the following codes of practice are proper practices—

i

“Code of Practice on Local Authority Accounting in the United Kingdom”3 as may be amended or reissued from time to time (whether under the same title or not) issued jointly by the Chartered Institute of Public Finance and Accountancy and the Local Authority (Scotland) Accounts Advisory Committee; and

ii

“Best Value Accounting Code of Practice” as may be amended or reissued from time to time (whether under the same title or not) issued by the Chartered Institute of Public Finance and Accountancy;

b

in relation to community councils and minor joint committees, the accounting practices contained in the “Governance and accountability for Local Councils: A Practitioners Guide 2008 (Wales)” as may be amended or reissued from time to time (whether under the same title or not) issued jointly by One Voice Wales and the Society for Local Council Clerks are proper practices.

2

In this regulation “minor joint committee” means a joint committee of two or more local authorities in Wales whose gross income or expenditure (whichever is the higher) for the year is, and each of the two immediately preceding years was, less than £1,000,000.

Dirymu10

Dirymir rheoliad 3(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 20074 drwy hyn.

Carl SargeantY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Cyflwynodd Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”) fframwaith cyfreithiol oddi mewn i'r hwn y caiff llywodraeth leol gyflawni gwariant cyfalaf, ac oddi mewn i'r hwn y caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio'r gweithgarwch hwnnw yng Nghymru.

O dan Ddeddf 2003 caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliad, yn neilltuol—

  • amrywio'r diffiniadau o drefniant credyd a derbyniad cyfalaf

  • rheoli'r defnydd o dderbyniadau cyfalaf, a

  • pennu arferion cyfrifyddu.

Gwnaeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 W.319) (“Rheoliadau 2003”) ddarpariaeth o'r fath, ac mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003.

Mae rheoliad 3 yn newid y diffiniad o fudd-daliadau ymddeol fel a ganlyn: yn hytrach na chael eu diffinio fel budd-daliadau sy'n daladwy o dan fathau penodedig o gronfa neu gynllun, maent yn cael eu diffinio fel budd-daliadau sy'n daladwy o dan ofynion statudol y cyfrifyddir ar eu cyfer yn ôl y dulliau a nodir (yn unol ag arferion cywir). Mae'r dulliau a nodir yn wahanol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009-10 a'r blynyddoedd dilynol.

Mae rheoliad 4 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio derbyniad cyfalaf a dderbyniwyd yn sgil gwerthu buddiant mewn tir, heblaw tir ar gyfer tai, i dalu'r costau gwerthu, ar yr amod nad yw'r costau'n fwy na 4% o'r derbyniad cyfalaf sy'n codi o'r gwerthiant.

Mae rheoliad 5 yn ymestyn tan 2013 y gallu sydd gan awdurdodau lleol i ohirio codi ar gyfrif refeniw am rwymedigaethau i ôl-dâl oherwydd ceisiadau am gyflog cyfartal, tan y dyddiad y mae'n rhaid talu'r ôl-dâl mewn gwirionedd.

Mae rheoliad 6 yn ymestyn tan 2011 y ddarpariaeth arbennig ar gyfer lleihad yng ngwerth buddsoddiadau.

Mae rheoliad 7 yn ymwneud â'r driniaeth gyfrifyddol o absenoldebau cronnol byrdymor gweithwyr (megis hawl i wyliau, neu amser rhydd o'r gwaith yn lle tâl goramser, sydd wedi cronni ond sydd heb gael eu cymryd eto). Rhaid i awdurdodau lleol beidio â chodi swm ar gyfrif refeniw mewn perthynas â rhwymedigaeth i hawliau o'r fath, tan y dyddiad y bydd y rhwymedigaeth yn darfod.

Bydd y driniaeth gyfrifyddol ar gyfer lesoedd o dan arferion cywir yn newid am y flwyddyn ariannol 2010-11, ac fe all hyn arwain at ddosbarthu rhai trefniadau ariannol presennol, nad oeddynt wedi eu dosbarthu felly o'r blaen, yn lesoedd gweithredol neu lesoedd cyllid, gyda'r canlyniad y byddai'r trefniadau'n ddarostyngedig i driniaeth gyfrifyddol wahanol o dan arferion cywir. Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff awdurdodau lleol barhau i weithredu'r driniaeth gyfrifyddol sy'n berthnasol i drefniadau ariannol o'r fath ar 31 Mawrth 2010 am y blynyddoedd ariannol dilynol.

Mae rheoliad 9 yn diweddaru enw un o'r dogfennau sydd wedi eu hadnabod gan Weinidogion Cymru fel y rhai sy'n sefydlu arferion cywir mewn perthynas ag arferion cyfrifyddu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, ac mae'n dynodi dogfen newydd mewn perthynas ag arferion cyfrifyddu cynghorau cymuned a chyd-bwyllgorau bychain.