2010 Rhif 636 (Cy.62)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 20092;

  • ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19973.

Diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol2

Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—

a

yn lle “£55.93” rhodder “£57.16”; a

b

yn lle “£20.26” rhodder “£20.70”.

Diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 20093

Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7 o Reoliadau 2009, ar ôl “Yn rheoliad 13(2)(l)(ii)” rhodder “o Reoliadau 1986”.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy'n penderfynu lefel ffioedd profion golwg y GIG. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.2% yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2009.