Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 618 (Cy.60)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010

Gwnaed

4 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 15(4) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

Diwygiadau cyffredinol sy'n ymwneud â “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager”

2.—(1Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, yn lle'r term “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn lle'r term “Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn, rhodder “Welsh Ministers”.

(2Yn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2, mae'r diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol”, neu, fel y bo'n briodol, “Divisional Veterinary Manager” yn y darpariaethau a bennir yn y drydedd golofn wedi eu dirymu.

Diwygiadau i Orchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974

3.—(1Mae Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 5(5), yn lle “Secretary, Ministry of Agriculture, Fisheries and Food, Hook Rise South, Tolworth, Surrey, KT6 7NF, to the Divisional Veterinary Manager” rhodder “Welsh Ministers”.

(3Hepgorer yr ail Nodyn (sy'n dechrau gyda'r geiriau “The inspector is with all practicable speed”) i'r Hysbysiad a bennir yn Atodlen 2 (hysbysiad yn datgan ac yn diffinio terfynau lle heintiedig).

Diwygiadau i Orchymyn Clefyd Aujeszky 1983

4.—(1Mae Gorchymyn Clefyd Aujeszky 1983(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 19(2), yn lle “Divisional Veterinary Manager of the Ministry for that area” rhodder “Welsh Ministers”.

(3Hepgorer y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C, D ac E yn yr Atodlen.

Diwygiad i Orchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987

5.  Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987(4) wedi ei ddiwygio drwy hepgor y Nodiadau i Ffurflenni A, B, C a D yn Atodlen 1.

Diwygiadau i Orchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006

6.—(1Mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 4(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

(3Yn erthygl 5(1), yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru o'r ffaith honno”.

Diwygiad i Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006

7.  Yn lle erthygl 9(5) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(6) rhodder—

(5) Where notification is received under this article from a person other than the occupier of the premises where the relevant animal or carcase is located, a veterinary inspector may serve a notice on the occupier informing the occupier that—

(a)notification has been received under this article; and

(b)Schedule 1 applies in relation to the premises..

Diwygiad i Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006

8.  Mae erthygl 9(4) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(7) wedi ei hepgor.

Dirymu

9.  Mae Gorchymyn y Gorchmynion Iechyd Anifeiliaid (Diwygiad ynghylch Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) 1995(8) wedi ei ddirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2010

Erthygl 2(1)

ATODLEN 1Y TERM “GWEINIDOGION CYMRU” WEDI EI ROI YN LLE “RHEOLWR MILFEDDYGOL RHANBARTHOL” A'R TERM “WELSH MINISTERS” WEDI EI ROI YN LLE “DIVISIONAL VETERINARY MANAGER”

EnwCyfeiriadY darpariaethau a ddiwygiwyd
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 3
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 4(3)(a) a (b)
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthyglau 4(2), (3)(b), (4) a (5)(a) a 5(4)
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthyglau 4(1), (2)(a) a (b), (3)(a), (b) ac (c), 7 (Rheolau 8 a 9) a 9, a Rheolau 8 a 9 yn Ffurflen A yn Atodlen 1
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthyglau 4(1), 5(1), a 7(b)
Gorchymyn Anthracs 1991O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthyglau 4, 7(2) a 9
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthyglau 4(1), (3)(i) a (ii) a (4)(a) a 6(2), paragraffau 3 a 5 o Ran I o'r Atodlen a pharagraff 7 o Ran II o'r Atodlen
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996O.S. 1996/2628Erthygl 5(1)(a)
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003O.S. 2003/1079 (Cy. 148)Erthygl 4(1)(a) a (2)
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003O.S. 2003/2456 (Cy. 239)Erthygl 4(1) a (2); Erthygl 13(3), paragraff 8 o Ran I o Atodlen 1, paragraff 20 o Ran II o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran I o Atodlen 2, paragraff 9 o Ran II o Atodlen 2
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003O.S. 2003/3273 (Cy. 323)Erthyglau 4(1) a (2) a 13(3), paragraff 9 o Ran1 o Atodlen 1, paragraff 11 o Ran 2 o Atodlen 1, paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2, paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006O.S. 2006/179 (Cy. 30)Erthyglau 9(1), (2), (3) a (4) a pharagraff 1 o Atodlen 7
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006O.S. 2006/867 (Cy. 79)Erthyglau 3(1)(b) a (2), 4(1) a 5(1)
Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006O.S. 2006/2927 (Cy. 262)Erthygl 9(1), (2) a (3)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006O.S. 2006/1053 (Cy. 109)Erthyglau 5(1)(a) a (2), 6(1) a 9(2)(ch)(i)

Erthygl 2(2)

ATODLEN 2DIFFINIADAU O “ RHEOLWR MILFEDDYGOL RHANBARTHOL” A “DIVISIONAL VETERINARY MANAGER” SYDD WEDI EU DIRYMU

TeitlCyfeiriadY ddarpariaeth y dirymwyd y diffiniad ynddi
Gorchymyn Allforio Ceffylau (Archwiliad Milfeddygol) 1966O.S. 1966/507 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 2(1)
Gorchymyn y Gynddaredd (Rheoli) 1974O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 2(1)
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977O.S. 1977/944 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 3(1)
Gorchymyn Twbercwlosis (Ceirw) 1989O.S. 1989/878 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 2(1)
Gorchymyn Anthracs 1991O.S. 1991/2814 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 2(1)
Gorchymyn Arteritis Feirysol Ceffylau 1995O.S. 1995/1755 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922Erthygl 3
Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996O.S. 1996/2628Erthygl 2
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003O.S. 2003/1079 (Cy. 148)Erthygl 3(1)
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003O.S. 2003/2456 (Cy. 239)Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003O.S. 2003/3273 (Cy. 323)Erthygl 2(1)
Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006O.S. 2006/179 (Cy.30)Erthygl 3(1)
Gorchymyn Brwselosis (Cymru) 2006O.S. 2006/866 (Cy.78)Erthygl 2(1)
Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006O.S. 2006/867 (Cy. 79)Erthygl 2(1)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006O.S. 2006/1053 (Cy. 109)Erthygl 3(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchmynion penodedig er mwyn dileu cyfeiriadau at “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn dileu cyfeiriadau at “Divisional Veterinary Manager” a disodli'r cyfeiriadau hynny â chyfeiriadau at “Welsh Ministers”. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dirymu diffiniadau o “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” a “Divisional Veterinary Manager” ym mhob Gorchymyn yr effeithir arno.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.

(1)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

(2)

O.S. 1974/2212 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922.

(3)

O.S. 1983/344, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922.

(4)

O.S. 1987/790 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources