Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Mewnosod Rhan 3A newydd

5.  Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—

RHAN 3ARhanddirymu

Cais i randdirymu

13A.(1) Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i'r Asiantaeth am randdirymiad os cafodd 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.

(2) Rhaid cyflwyno cais i randdirymu—

(a)erbyn 30 Ebrill 2010 am randdirymiad 2010;

(b)o ran cais ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl 2010, rhwng y dyddiadau 1 Hydref a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.

(4) Rhaid i'r Asiantaeth ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo'n ymarferol a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd yr Asiantaeth yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddi ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.

(5) Rhaid i'r Asiantaeth wrthod cais i randdirymu os yw o'r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd–

(a)safle Ewropeaidd; neu

(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd,

pan fo'r safleoedd hynny'n wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 48 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(1).

(6) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod caniatáu'r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â'r weithdrefn a osodir yn rheoliad 13B.

(7) Pan fo'r Asiantaeth wedi caniatáu'r cais i randdirymu, rhaid i'r Asiantaeth ddynodi'r daliad y mae'r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.

(8) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r cais i randdirymu a'r penderfyniad.

(9) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Morol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007(2); a

(b)ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 10 (ystyr safle Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994.

Apelio yn erbyn gwrthod cais i randdirymu

13B.(1) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn (“y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu”).

(2) Rhaid i apêl yn erbyn gwrthod cais i randdirymu gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy'n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.

Trafodion y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu

13C.(1) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu gael ei ffurfio o odrif o bersonau, heb fod yn llai na thri pherson, a dod i benderfyniad drwy fwyafrif syml.

(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ystyried yr apêl a phenderfynu p'un ai caniatáu'r apêl ai peidio.

(3) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ddod i benderfyniad yn seiliedig ar ddogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd a'r Asiantaeth, oni fydd yn penderfynu fod arno angen gwybodaeth ychwanegol i ffurfio barn, ac os felly caiff—

(a)gofyn i'r apelydd, neu'r Asiantaeth, ddarparu deunyddiau ychwanegol; a

(b)mewn amgylchiadau eithriadol caiff gynnal gwrandawiad llafar.

(4) Mewn gwrandawiad llafar mae gan yr apelydd a'r Asiantaeth yr hawl i ymddangos.

(5) Rhaid i bob parti ysgwyddo ei gostau ei hun.

Effaith canfyddiadau panel apelau ar gyfer cais i randdirymu

13CH.(1) Os bydd y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu yn caniatáu'r apêl, rhaid i'r daliad y mae'r cais i randdirymu yn gymwys iddo gael ei ddynodi gan yr Asiantaeth fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr honno.

(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu—

(a)hysbysu'r Asiantaeth, y ceisydd a Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o'i ganfyddiadau; a

(b)os gwrthodir yr apêl, rhoi'r rhesymau dros wrthod.

Daliadau a randdirymwyd

13D.  Mae Atodlen 4 yn cael effaith o ran daliadau a randdirymwyd..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources