Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad) (Cymru) 2010.
(2) Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sef cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(3) Daw Atodlen 5 i rym ar 1 Ebrill 2012 ac mae'n gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012, 1 Ebrill 2013 ac 1 Ebrill 2014.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.