Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Contractau Rhianta a Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2954 (Cy.246)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Contractau Rhianta a Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2010

Gwnaed

13 Rhagfyr 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Rhagfyr 2010

Yn dod i rym

5 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adrannau 20(1) a (2A), 22A, 24 a 94 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Contractau Rhianta a Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru; a

(b)disgyblion sydd, neu oedd yn union cyn cael eu gwahardd yn barhaol, yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “contract rhianta” (“parenting contract”) yw contract rhianta o dan adran 19 o'r Ddeddf;

  • mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(3);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

  • ystyr “gorchymyn rhianta” (“parenting order”) yw gorchymyn rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf;

  • ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006(4); ac

  • ystyr “ymddygiad perthnasol” (“relevant behaviour”) yw ymddygiad o'r math a grybwyllir yn adran 20(2A)(a) o'r Ddeddf (fel y'i darllenir gydag adran 20(2B) o'r Ddeddf).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae gwaharddiad yn dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd y gwaharddiad yn ymwneud ag ef (ac, mewn perthynas â gwaharddiad, dehonglir “dechrau”, ac ymadroddion cyffelyb, yn unol â hynny); a

(b)pan fo'r disgybl yn cael ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn dechrau unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef.

Yr amodau a ragnodir ar gyfer gorchmynion rhianta pan fo'r disgybl wedi cael ei wahardd

3.  At ddibenion adran 20(1)(b) o'r Ddeddf, yr amod a ragnodir yw fod rhaid i'r cais gael ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol.

4.—(1At ddibenion rheoliad 3, yn achos disgybl a gafodd ei wahardd am gyfnod gosodedig, y “cyfnod perthnasol” yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf—

(a)y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau gyda'r diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod y gorffennodd y corff llywodraethu (neu mewn achos o wahardd disgybl o uned cyfeirio disgyblion, yr awdurdod lleol) ystyried y gwaharddiad, neu os na chafodd ei ystyried yn y modd hwnnw, ar y diwrnod y dechreuodd;

(b)y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd rhiant i'r disgybl i gontract rhianta.

(2At ddibenion rheoliad 3, yn achos disgybl a gafodd ei wahardd yn barhaol, y “cyfnod perthnasol” yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf—

(a)y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl—

(i)y diwrnod pan benderfynodd panel apelau a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002(5) gadarnhau'r gwaharddiad;

(ii)y diwrnod pan wnaeth y rhiant ddatganiad ysgrifenedig nad yw'r rhiant yn bwriadu dwyn apêl o dan y rheoliadau hynny;

(iii)y diwrnod y rhoddwyd y gorau i apêl a dducpwyd o fewn yr amser a ganiateir i ddwyn apêl; neu

(iv)os na fu apêl (ac nad yw paragraff (ii) o'r is–baragraff hwn yn gymwys), y diwrnod olaf y gallesid bod wedi dwyn apêl arno; neu

(b)y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd rhiant i'r disgybl i gontract rhianta.

Yr amodau a ragnodir ar gyfer gorchmynion rhianta pan fo'r disgybl wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol

5.  At ddibenion adran 20(2A)(b) o'r Ddeddf, yr amod a ragnodir yw fod rhaid i'r cais gael ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol.

6.  At ddibenion rheoliad 5, y “cyfnod perthnasol” yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf—

(a)y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod pan ddigwyddodd yr ymddygiad perthnasol (neu, os digwyddodd yr ymddygiad dros gyfnod o fwy nag un diwrnod, y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod diwethaf y digwyddodd yr ymddygiad arno);

(b)y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd rhiant i'r disgybl i gontract rhianta.

Y terfyn ar bŵer awdurdod lleol i ymrwymo i gontract rhianta neu i wneud cais am orchymyn rhianta

7.—(1Ac eithrio mewn achos a grybwyllir ym mharagraff (3), ni chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta os nad yw'r ysgol, y byddid fel arall yn ymrwymo i'r contract neu'n gwneud y cais yn ei chylch (“yr ysgol dan sylw”), yn ardal yr awdurdod hwnnw.

(2Ac eithrio mewn achos a grybwyllir ym mharagraff (4), ni chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta os nad yw'r plentyn, y byddid fel arall yn ymrwymo i'r contract neu'n gwneud y cais yn ei gylch (“y plentyn dan sylw”), yn preswylio yn ardal yr awdurdod hwnnw.

(3Caiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta, pan nad yw'r ysgol dan sylw yn ardal yr awdurdod–

(a)os oes gan yr awdurdod gytundeb â'r awdurdod lleol lle mae'r ysgol dan sylw wedi'i lleoli y caiff yr awdurdod cyntaf, yn yr amgylchiadau hynny, ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta; neu

(b)os yw'r plentyn dan sylw yn preswylio yn ardal yr awdurdod a bod y plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol.

(4Caiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta, pan nad yw'r plentyn dan sylw yn preswylio yn ardal yr awdurdod—

(a)os yw'r ysgol dan sylw yn ardal yr awdurdod; a

(b)os yw'r plentyn—

(i)yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu

(ii)wedi cael ei wahardd yn barhaol o'r ysgol,

os oes gan yr awdurdod gytundeb â'r awdurdod lleol lle mae'r plentyn dan sylw yn preswylio y caiff yr awdurdod cyntaf, yn yr amgylchiadau hynny, ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta.

Dyletswydd i ymgynghori

8.  Mewn unrhyw achos pan fo gan fwy nag un awdurdod lleol neu gorff llywodraethu'r pŵer i ymrwymo i gontract rhianta neu pan fo gan fwy nag un awdurdod lleol y pŵer i wneud cais am orchymyn rhianta, rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu sy'n bwriadu arfer y pŵer ymgynghori â phob corff perthnasol arall.

Darparu gwybodaeth

9.—(1Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu (“A”) yn bwriadu ymrwymo i gontract rhianta neu (yn achos yr awdurdod lleol) wneud cais am orchymyn rhianta, rhaid iddo, mewn perthynas â'r ymrwymiad neu'r cais hwnnw, ofyn am wybodaeth gan unrhyw awdurdod lleol neu gorff llywodraethu arall (“B”) ynglŷn â'r plentyn y bwriedir ymrwymo i gontract yn ei gylch neu wneud cais am orchymyn yn ei gylch ag sy'n rhesymol angenrheidiol i alluogi'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu—

(a)i benderfynu pa un ai i ymrwymo i gontract neu i wneud cais o'r fath (yn ôl y digwydd) ai peidio;

(b)i osgoi ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta (yn ôl y digwydd) pan fo contract rhianta neu orchymyn rhianta eisoes yn bod ynghylch y plentyn hwnnw neu fod ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta yn ei gylch ar ddigwydd; ac

(c)i wneud penderfyniad sy'n seiliedig ar wybodaeth ynglŷn â thelerau contract o'r fath neu gynnwys y cais (yn ôl y digwydd) gyda golwg ar ymrwymo i'r contract mwyaf addas neu gael gwneud y gorchymyn mwyaf addas yn holl amgylchiadau'r achos.

(2Rhaid i B, pan gaiff gais o dan baragraff (1), roi i A'r fath wybodaeth ag sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth ag a allai fod yn rhesymol angenrheidiol at y dibenion a osodir ym mharagraff (1).

(3Pan fo A yn gwneud cais am wybodaeth o dan baragraff (1), caniateir iddo ddatgelu i B y fath wybodaeth ag a allai fod yn rhesymol angenrheidiol i alluogi B i gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2).

Costau gorchymyn rhianta neu gontract rhianta

10.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol sy'n gwneud y cais neu'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu sy'n ymrwymo i'r contract ddwyn y costau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchmynion rhianta neu'r costau sy'n gysylltiedig â chontractau rhianta, gan gynnwys ymhob achos gostau darparu rhaglenni cwnsela neu gyfarwyddyd.

(2Caniateir i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu adennill y costau a ddygir ganddynt o dan baragraff (1) oddi wrth awdurdod lleol neu gorff llywodraethu arall drwy gytundeb.

Dirymu

11.  Yn ddarostyngedig i reoliad 12, dirymir Rheoliadau 2006.

Darpariaethau Trosiannol

12.—(1Mae Rheoliadau 2006 yn parhau yn gymwys i orchmynion rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf a wnaed, neu y gwnaed cais amdanynt, cyn 5 Ionawr 2011.

(2Nid yw rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gontract rhianta a ymrwymwyd iddo nac i orchymyn rhianta a wnaed, neu y gwnaed cais amdano, cyn 5 Ionawr 2011.

(3Nid yw rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'n gymwys i'r costau sy'n gysylltiedig â chontractau rhianta, yn gymwys i gontract o'r fath a ymrwymwyd iddo cyn 5 Ionawr 2011.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion rhianta a chontractau rhianta o dan Ran 2 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“y Ddeddf”, fel y'i diwygiwyd gan Bennod 2 o Ran 7 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).

Maent yn rhagnodi amodau sydd i'w bodloni cyn y gellir gwneud cais am orchymyn rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf. Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi'r amod o ran gwahardd yn barhaol ac o ran gwahardd am gyfnod gosodedig, sef bod rhaid gwneud y cais o fewn y cyfnod perthnasol. Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi'r amod pan ymddengys fod y disgybl wedi ymgymryd ag ymddygiad y gellid yn haeddiannol ei wahardd o'i herwydd. Eto rhaid hefyd wneud y cais o fewn y cyfnod perthnasol. Mae rheoliadau 4 a 6 yn eu tro yn diffinio'r cyfnod perthnasol.

Mae rheoliad 7 yn atal awdurdod lleol, awdurdod A, rhag ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta, pan fo'r disgybl dan sylw yn mynychu ysgol yn ardal awdurdod arall, awdurdod B, oni bai bod gan awdurdod A gytundeb gydag awdurdod B sy'n caniatáu i awdurdod A wneud hynny, neu bod y disgybl yn byw yn ardal awdurdod A a'i fod wedi cael ei wahardd yn barhaol. Mae hefyd yn atal awdurdod A rhag ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta pan fo'r disgybl dan sylw yn mynychu ysgol yn ardal awdurdod A a'i fod wedi'i wahardd yn barhaol, ond yn byw yn ardal awdurdod B, oni bai bod gan awdurdod A gytundeb gydag awdurdod B sy'n caniatáu i awdurdod A wneud hynny.

Mae rheoliad 8 yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff a gânt ymrwymo i gontract rhianta neu a gânt wneud cais am orchymyn rhianta i ymgynghori â'i gilydd cyn gwneud hynny.

Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff i geisio gwybodaeth oddi wrth ei gilydd y tybiant yn rhesymol y gallasai fod yn berthnasol i'w galluogi i benderfynu a ddylent ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta, er mwyn osgoi lluosowgrwydd o gontractau a gorchmynion ynghylch yr un plentyn, ac er mwyn penderfynu ar gynnwys y contract neu'r gorchymyn.

Mae rheoliad 10 yn rhagnodi at ddibenion adran 22A(2)(e) o'r Ddeddf bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyllido costau contractau rhianta a gorchmynion rhianta, er y caniateir iddynt adennill y costau hyn oddi wrth ei gilydd drwy gytundeb.

Wrth arfer eu swyddogaethau yn ymwneud â chontractau rhianta a gorchmynion rhianta, rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 19(9) o'r Ddeddf o ran contractau ac adran 21(5) o'r Ddeddf o ran gorchmynion.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006 y cymerir eu lle gan y Rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae Rheoliadau 2006 yn parhau i fod yn gymwys i orchmynion rhianta a wnaed neu y gwnaed cais amdanynt cyn 5 Ionawr 2011.

(1)

2003 p.38. Mewnosodwyd adran 20(2A) gan adran 98, ac adran 22A gan adran 99 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

(2)

Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 20, 22A, 24 a 94 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources