Search Legislation

Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2010.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(1);

  • ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys” (“Powys Teaching Local Health Board area”) yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd(2);

  • ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “cyn Gyngor” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y Cynghorau sy'n parhau” (“the continued Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;

  • ystyr “y Cynghorau newydd” (“new Councils”) yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y dyddiad diddymu” (“abolition date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2010;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(3).

Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned

3.  Sefydlir, yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, y chwe Chyngor Iechyd Cymuned a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n dwyn yr enwau a roddir iddynt yn yr Atodlen honno.

Ardaloedd Cynghorau Iechyd Cymuned

4.—(1Mae pob ardal Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfateb i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar ei chyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(2Os yw ardal y Bwrdd Iechyd Lleol a neilltuir ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned o dan baragraff (1) yn cael ei hamrywio, mae ardal y Cyngor Iechyd Cymuned i'w hamrywio'n unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu ardal Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bodoli neu i gyfuno dwy ardal Bwrdd Iechyd Lleol neu fwy.

Swyddogaethau'r Cynghorau newydd

5.  Dyma swyddogaethau'r Cynghorau newydd—

(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf:

(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf; a

(iii)byddant yn cynnwys swyddogaethau'r cyn Gynghorau a drosglwyddir i'r Cynghorau newydd gan erthygl 6.

Trosglwyddo swyddogaethau, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynghorau newydd

6.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau neu hawliau oedd yn arferadwy gan gyn Gynghorau neu i rwymedigaethau oedd yn orfodadwy yn eu herbyn ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny.

(2Mae gan y Cynghorau newydd y buddiant o unrhyw swyddogaeth oedd yn arferadwy neu unrhyw hawl oedd yn orfodadwy gan y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.

(3Rhaid i Gyngor newydd gymryd cyfrifoldeb dros unrhyw rwymedigaeth oedd yn orfodadwy yn erbyn y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar y dyddiad trosglwyddo neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i Gyngor newydd.

Darparu Adroddiadau a Chyfrifon cyn Gynghorau

7.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i ddarparu adroddiadau a chyfrifon ar ran cyn Gynghorau am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010.

(2Rhaid i Gyngor newydd wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau fod adroddiadau a chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 y cyn Gynghorau hynny oedd yn gweithredu ar 31 Mawrth 2010 neu cyn hynny o fewn ardal Cyngor Iechyd Cymuned neu ran o ardal felly sy'n perthyn i'r Cyngor newydd, yn cael eu darparu yn unol â rheoliadau 25 a 41 o'r Rheoliadau.

Darparu ar gyfer parhâd wrth arfer swyddogaethau

8.  Bydd unrhyw beth a wnaed gan y cyn Gynghorau neu mewn perthynas â hwynt wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno sydd yn rhinwedd erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor newydd yn cael effaith, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo ac wedi hynny, megis petai wedi ei wneud gan y Cyngor newydd neu mewn perthynas ag ef.

Diddymiadau

9.  Mae'r ddau ar bymtheg o Gynghorau Iechyd Cymuned a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a barhaodd mewn bodolaeth neu a sefydlwyd o dan adran 182 o'r Ddeddf yn cael eu diddymu gydag effaith o'r dyddiad diddymu.

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn i barhau mewn bodolaeth

10.—(1Mae Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn yn parhau mewn bodolaeth.

(2Ardal gyfunol y Cynghorau hyn sy'n parhau yw ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys.

(3Os bydd ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn cael ei hamrywio mae ardal gyfunol y ddau gyngor hyn i gael ei hamrywio'n unol â hynny.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio'r ardal y sefydlir y naill Gyngor neu'r llall, neu'r ddau Gyngor, sy'n parhau drosti.

(5Nid yw paragraff (3) yn gymwys i greu ardal Bwrdd Iechyd Lleol newydd, i ddiddymu Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys neu i gyfuno ardal Bwrdd Iechyd Lleol Powys ag ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu â fwy nag un ohonynt.

(6Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir o fewn yr erthygl hon, mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn cadarnhau'r ardaloedd y sefydlir y Cynghorau sy'n parhau drostynt ac y maent yn parhau i arfer eu swyddogaethau drostynt.

Swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau

11.  Dyma swyddogaethau'r Cynghorau sy'n parhau—

(i)yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf: a

(ii)yr hyn a osodir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 10 i'r Ddeddf.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Chwefror 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources