Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(1);
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys” (“Powys Teaching Local Health Board area”) yw'r ardal y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys ar ei chyfer yn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, fel y'i diwygiwyd(2);
ystyr “ardal Cyngor Iechyd Cymuned” (“Community Health Council area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned ar ei chyfer o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “cyn Gyngor” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymir o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y Cynghorau sy'n parhau” (“the continued Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn;
ystyr “y Cynghorau newydd” (“new Councils”) yw'r Cynghorau a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y dyddiad diddymu” (“abolition date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2010;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(3).
O.S. 2003/148 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/778 (Cy.66).
