12. Mae'r Atodlenni canlynol yn cael effaith—
(a)Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig(1);
(b)Atodlen 3, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn(2).
13.—(1) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig i werthwr os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.
(2) Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn i werthwr yn unrhyw o'r amgylchiadau canlynol—
(a)pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;
(b)pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;
(c)pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn eisoes wedi ei osod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
I gael ystyr “fixed monetary penalty” gweler paragraff 10(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “discretionary requirement” gweler paragraff 12(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.