RHAN 5Sancsiynau sifil
Sancsiynau sifil12
Mae'r Atodlenni canlynol yn cael effaith—
a
Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cosbau ariannol penodedig8;
b
Atodlen 3, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion yn ôl disgresiwn9.
Cyfuniad o gosbau13
1
Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â chosb ariannol benodedig i werthwr os gosodwyd gofyniad yn ôl disgresiwn ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau.
2
Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad mewn perthynas â gofyniad yn ôl disgresiwn i werthwr yn unrhyw o'r amgylchiadau canlynol—
a
pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau;
b
pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau drwy dalu swm penodedig;
c
pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn eisoes wedi ei osod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.