2010 Rhif 288 (Cy.37)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 19, 187 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2, paragraff 25(3) o Atodlen 3, a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 10 i'r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Mae i'r geiriau ac ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol—

  • ystyr “aelod” (“member”) pan fo'r cyd-destun yn caniatáu felly, yw aelod o Gyngor;

  • ystyr “aelod awdurdod lleol” (“local authority member”) yw aelod o Gyngor a benodir gan awdurdod lleol perthnasol;

  • ystyr “aelod o'r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o'r Bwrdd CIC;

  • ystyr “aelod sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation member”) yw aelod a benodir gan sefydliad gwirfoddol;

  • ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw'r ardal ddaearyddol yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

  • ystyr “ardal awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority area”) mewn perthynas â Chyngor, yw ardal awdurdod lleol (neu ran ohoni) sydd o fewn dosbarth Cyngor, ac mewn perthynas â phwyllgor lleol, yr ardal awdurdod lleol sy'n cyfateb i ddosbarth pwyllgor lleol;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol” (“relevant Strategic Health Authority”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Awdurdod Iechyd Strategol sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n preswylio o fewn dosbarth Cyngor;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sydd â'i ardal (neu ran ohoni) o fewn dosbarth y Cyngor, ac mewn perthynas â phwyllgor lleol, yr awdurdod lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ddosbarth y pwyllgor lleol hwnnw;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn;

  • ystyr “Bwrdd CIC” (“CHC Board”) yw'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau 2004 sy'n parhau mewn bodolaeth o dan reoliad 32;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” (“relevant Local Health Board”) mewn perthynas â Chyngor yw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol sydd â'i ardal (neu ran ohoni) yn cyfateb i ddosbarth Cyngor;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd perthnasol” (“relevant health service body”) mewn perthynas â Chyngor yw unrhyw gorff gwasanaeth iechyd sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sy'n preswylio yn nosbarth Cyngor;

  • ystyr “corff sy'n penodi” (“appointing body”), mewn perthynas â phenodi aelod o Gyngor, yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol perthnasol neu sefydliad gwirfoddol perthnasol;

  • ystyr “Cyfarwyddwr” (“Director”) yw'r person a gyflogir o dan reoliad 36 i weithredu fel Cyfarwyddwr y Bwrdd CIC;

  • ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlir gan erthygl 3 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010 ac, ac eithrio pan eithrir hynny'n benodol gan ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, megis rheoliad 16, Cyngor Iechyd Cymuned a barheir mewn bodolaeth gan erthygl 10 o'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “Cyngor blaenorol” (“former Council”) yw Cyngor a ddiddymwyd gan erthygl 9 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;

  • ystyr “Cyngor newydd” (“new Council”), ac eithrio yn rheoliad 4(3), yw Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;

  • ystyr “Cyngor perthnasol” (“relevant Council”), mewn perthynas â phwyllgor lleol neu awdurdod lleol (neu ran ohono), yw'r Cyngor y mae'r pwyllgor lleol neu'r awdurdod lleol o fewn ei ddosbarth, ac mewn perthynas â sefydliad gwirfoddol, y Cyngor y cafodd y sefydliad gwirfoddol wahoddiad ganddo i wneud apwyntiadau o dan reoliad 7(1);

  • ystyr “Cyngor sy'n parhau” (“continued Council”) yw Cyngor y parheir ei fodolaeth gan erthygl 10 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010;

  • ystyr “dosbarth Cyngor” (“district of a Council”) yw'r ardal ddaearyddol yng Nghymru y sefydlir Cyngor ar ei chyfer o dan erthygl 4 o Orchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010 neu y parheir Cyngor drosti gan erthygl 10 ac Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “dosbarth pwyllgor lleol” (“local committee district”) yw'r ardal awdurdod lleol neu ran ohoni y penodir pwyllgor lleol ar ei chyfer o dan reoliad 17(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “Gorchymyn Sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned 2010” (“the Community Health Councils Establishment Order 2010”) yw Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 20102;

  • ystyr “gwasanaethau iechyd” (“health services”) yw gwasanaethau mewn perthynas ag atal salwch, diagnosis neu drin salwch, a ddarperir gan neu ar ran cyrff gwasanaeth iechyd perthnasol;

  • ystyr “Prif Swyddog” (“Chief Officer”) yw'r person a gyflogir o dan reoliad 23 i weithredu fel Prif Swyddog Cyngor;

  • ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor Cyngor a ffurfir o dan reoliadau 17, 18, 19, 20 neu 21;

  • ystyr “pwyllgor cynllunio gwasanaethau” (“services planning committee”) yw pwyllgor Cyngor newydd a benodir o dan reoliad 18;

  • ystyr “pwyllgor gweithredol” (“executive committee”) yw pwyllgor o Gyngor newydd a benodwyd o dan reoliad 19;

  • ystyr “pwyllgor lleol” (“local committee”) yw pwyllgor Cyngor newydd a sefydlir o dan reoliad 17;

  • ystyr “pwyllgor lleol perthnasol” (“relevant local committee”), mewn perthynas â Chyngor newydd, yw unrhyw bwyllgor lleol y mae ei ddosbarth o fewn dosbarth Cyngor newydd;

  • ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 20043;

  • ystyr “sefydliadau gwirfoddol” (“voluntary organisations”) yw cyrff (ac eithrio awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill) y cyflawnir eu gweithgareddau at ddibenion ac eithrio elw;

  • ystyr “sefydliad gwirfoddol perthnasol” (“relevant voluntary organisation”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw sefydliad gwirfoddol a gafodd wahoddiad i benodi aelodau ar y Cyngor hwnnw o dan reoliad 7(1);

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru” (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth GIG y mae'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, ei sefydliadau a'i chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG berthnasol” (“relevant NHS Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw o fewn dosbarth Cyngor; ac

  • ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol” (“relevant Primary Care Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n preswylio o fewn dosbarth Cyngor.

RHAN IISefydlu Cynghorau ac Aelodaeth Cynghorau

Aelodaeth Cynghorau3

1

Penodir aelodau Cyngor—

a

gan awdurdodau lleol yn unol â'r darpariaethau i bob awdurdod lleol perthnasol wneud penodiadau a osodir yn rheoliad 6;

b

gan sefydliadau gwirfoddol yn unol â'r darpariaethau i benodiadau gael eu gwneud ar sail ardaloedd awdurdod lleol perthnasol a osodir yn rheoliad 7, gyda'r sefydliadau gwirfoddol hynny yn cael eu pennu yn unol â'r un rheoliad; ac

c

gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r darpariaethau i benodiadau gael eu gwneud ar sail ardaloedd awdurdodau lleol perthnasol a osodir yn rheoliad 8;

ac mae cyfanswm yr aelodau a benodir ar bob Cyngor gan y cyrff penodi o dan y rheoliad hwn wedi'i osod allan yn Atodlen 1.

2

Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraff (1), caiff Cyngor o bryd i'w gilydd gyfethol pa bynnag aelodau sy'n ymddangos i'r Cyngor yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau a chaniateir penodi'r cyfryw aelodau i eistedd ar unrhyw bwyllgor o Gyngor newydd a gyfansoddwyd o dan reoliadau 17, 18 neu 19 neu o Gyngor o dan reoliadau 20 neu 21.

3

Ni chaiff aelodau cyfetholedig bleidleisio mewn unrhyw gyfarfodydd neu drafodion Cyngor na'i bwyllgorau.

4

Rhaid peidio â chymryd nifer yr aelodau cyfetholedig i ystyriaeth at y diben o benderfynu cyfanswm aelodaeth Cyngor o dan baragraff (1).

Tymor penodiad aelodau4

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 10 (aelodau sy'n gymwys i'w hailbenodi), tymor swydd unrhyw aelod a benodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010 neu a ailbenodir ar ôl 1 Ebrill 2010 fydd rhwng un a phedair blynedd fel a bennir gan y corff sy'n penodi wrth benodi.

2

Os diddymir Cyngor o dan adran 182 o'r Ddeddf, bydd swydd unrhyw aelod o'r Cyngor a ddiddymir yn dod i ben ar unwaith pan ddiddymir y Cyngor hwnnw.

3

Os oes Cyngor newydd yn cael ei sefydlu o dan adran 182 o'r Ddeddf, ar gyfer dosbarth neu ran o ddosbarth Cyngor presennol, caiff Gweinidogion Cymru bennu bod rhaid i swydd unrhyw aelod o'r Cyngor presennol ddod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd.

Tymor penodiad aelodau cyfetholedig5

Ni chaniateir penodi aelodau cyfetholedig am gyfnod hwy nag un flwyddyn, a rhaid peidio eu hailbenodi ar ddiwedd eu tymor oni fydd y Cyngor yn penderfynu bod ailbenodi felly yn angenrheidiol neu'n fanteisiol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r Cyngor.

Penodi aelodau gan awdurdodau lleol6

1

Rhaid i bob awdurdod lleol perthnasol y gosodir ei ardal (neu ran ohoni) yng ngholofn 2 o Atodlen 2 wneud tri phenodiad ar y Cyngor perthnasol a osodir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno.

2

Rhaid i berson a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n ei benodi.

3

Pan fo aelod a benodwyd gan awdurdod lleol yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod lleol a'i penododd, rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r Cyngor ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy'n cychwyn ar y dyddiad y mae'n peidio â bod yn aelod o'r awdurdod lleol a'i penododd.

Penodi aelodau gan sefydliadau gwirfoddol7

1

Caiff Gweinidogion Cymru wahodd pa bynnag sefydliadau gwirfoddol y penderfynant fod ganddynt fuddiant digonol yn y gwasanaeth iechyd mewn dosbarth Cyngor, i gymryd rhan mewn penodi personau ar y Cyngor o dan reoliad 3(1)(b).

2

Rhaid i'r sefydliadau gwirfoddol a ddewisir o dan baragraff (1), rhyngddynt, wneud cyfanswm o dri phenodiad ar y Cyngor perthnasol a osodir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ar gyfer pob ardal llywodraeth leol berthnasol (neu ran ohoni) a osodir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob sefydliad gwirfoddol benodi nifer cyfartal o aelodau i'r Cyngor.

4

Os nad yw niferoedd yr aelodau sydd i'w penodi yn caniatáu penodi niferoedd cyfartal o aelodau gan bob sefydliad gwirfoddol, a bod angen aelodau ychwanegol er mwyn cyflawni gofynion y rheoliad hwn, penodir yr aelodau ychwanegol hynny gan ba bynnag sefydliadau gwirfoddol a benderfynir drwy gytundeb rhwng y sefydliadau hynny neu, yn niffyg cytundeb erbyn dyddiad y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu at y diben hwnnw, fel y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu.

5

Rhaid i aelod a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r sefydliad gwirfoddol sy'n ei benodi, neu fod â chysylltiad â'r sefydliad hwnnw.

6

Pan fo aelod a benodwyd gan sefydliad gwirfoddol yn peidio â bod yn aelod o'r sefydliad gwirfoddol a'i penododd, neu'n peidio â bod yn gysylltiedig ag ef, rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r Cyngor ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy'n cychwyn ar y dyddiad y mae'n peidio â bod yn aelod o'r sefydliad gwirfoddol a'i penododd, neu fod â chysylltiad â'r sefydliad hwnnw.

Penodi aelodau gan Weinidogion Cymru8

Nifer y penodiadau a wneir gan Weinidogion Cymru ar y Cynghorau perthnasol a osodir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ar gyfer pob ardal llywodraeth leol berthnasol (neu ran ohoni) a osodir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno yw chwech.

Gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau9

Rhaid i'r cyrff sy'n penodi sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer dewis a phenodi personau yn aelodau a bod y trefniadau hynny yn cymryd i ystyriaeth—

a

yr egwyddorion a bennir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;

b

y gofyniad bod y modd y dewisir ac y penodir aelodau yn agored a thryloyw;

c

pan fo'n briodol, y gofyniad o gystadleuaeth deg ac agored wrth ddewis a phenodi aelodau;

ch

yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r criteria dewis perthnasol a pha bynnag safonau cymhwysedd a osodir mewn canllawiau gan Weinidogion Cymru, ac nad ydynt wedi eu hanghymhwyso o dan reoliad 12 rhag bod yn aelodau.

Aelodau sy'n gymwys i'w hailbenodi10

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff aelod fod yn gymwys i'w ailethol pan ddaw tymor ei wasanaeth i ben.

2

Caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor am wyth mlynedd,fan hwyaf.

3

Wrth gyfrifo'r cyfnod o wyth mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o unrhyw Gyngor, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wasanaeth mewn Cyngor blaenorol, Cyngor y newidiwyd ei ddosbarth, Cyngor a gymerodd drosodd y cyfan neu ran o ddosbarth Cyngor arall, a gwasanaeth mewn Cyngor a ddiddymwyd.

Tymor swydd — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes ar Gynghorau sy'n parhau11

1

Tymor swydd unrhyw aelod o Gyngor sy'n parhau yw gweddill tymor swydd cyfredol yr aelod hwnnw, hyd yn oed—

a

os yw hynny'n golygu bod aelod o Gyngor sy'n parhau yn gwasanaethu'n hwy na'r uchafswm o wyth mlynedd y cyfeirir ato yn rheoliad 10(2); a/neu

b

os yw parhad tymor swydd aelod neu dymhorau swyddi aelodau yn golygu bod gan Gyngor sy'n parhau fwy o aelodau, ar sail dros dro, nag y darperir ar ei gyfer yn rheoliadau 6, 7 ac 8.

2

I osgoi amwysedd—

a

bydd darpariaethau rheoliad 10 yn gymwys i aelodau o Gynghorau sy'n parhau pan ddaw eu tymor swydd cyfredol i ben; a

b

mae darpariaethau rheoliadau 6, 7 ac 8 yn gymwys i Gynghorau sy'n parhau.

Anghymhwyso rhag bod yn aelod12

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag ei benodi yn aelod, a rhag bod yn aelod, os yw'r person hwnnw—

a

yn gadeirydd, cyfarwyddwr neu'n aelod o gorff gwasanaeth iechyd perthnasol;

b

yn gyflogedig gan gorff gwasanaeth iechyd perthnasol;

c

yn darparu, neu'n gyflogedig gan berson neu gorff ac eithrio sefydliad gwirfoddol sy'n darparu, gwasanaethau o dan y Ddeddf yn unol â chontract a wnaed rhwng y person neu'r corff hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, neu ag Ymddiriedolaeth GIG berthnasol;

ch

yn aelod o Gyngor arall; neu

d

yn

i

ymarferydd meddygol;

ii

ymarferydd deintyddol;

iii

fferyllydd cofrestredig;

iv

optometrydd cofrestredig neu'n optegydd cyflenwi cofrestredig o fewn ystyr Deddf Optegwyr 1989;

v

nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig;

sy'n darparu gwasanaethau fel y cyfryw o fewn dosbarth y Cyngor; ac eithrio nad yw darpariaethau is-baragraff (a) yn gymwys i unrhyw berson sy'n aelod cyswllt o Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 20094;

dd

o fewn y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, yn unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu yn Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a ohiriwyd y ddedfryd ai peidio) am gyfnod o ddim llai na thri mis heb y dewis o ddirwy;

e

yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud cyfaddawd neu drefniant â chredydwyr;

f

wedi ei ddiswyddo, am reswm ac eithrio dileu swydd, o unrhyw swydd gyflogedig gyda chorff gwasanaeth iechyd.

2

At ddibenion paragraff (1)(dd) ystyrir mai dyddiad y gollfarn yw'r dyddiad pan ddaw'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn perthynas â'r gollfarn i ben, neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir neu y rhoddir y gorau yn derfynol i'r apêl neu'r cais, neu pan fo'n methu oherwydd nad aethpwyd ymlaen â'r achos.

3

Pan anghymhwysir person am y rheswm ym mharagraff (1)(e)—

a

os dirymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi eu talu yn llawn, daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod ar ddyddiad y dirymu;

b

os rhyddheir y person o fethdaliad, daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod ar y dyddiad y'i rhyddheir;

c

os telir dyledion person yn llawn ar ôl iddo wneud cyfaddawd neu drefniant â chredydwyr, daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod ar y dyddiad y bydd y cyfryw ddyledion wedi eu talu yn llawn; ac

ch

pan fo person wedi gwneud cyfaddawd neu drefniant â chredydwyr, daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod ar ddiwedd cyfnod o bum mlynedd o'r dyddiad pan gyflawnir telerau'r weithred o gyfaddawd neu'r trefniant.

4

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1)(f), caiff y person hwnnw, ar ddiwedd cyfnod o ddim llai na dwy flynedd, sy'n cychwyn ar ddyddiad y diswyddo, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru am ddileu'r anghymhwysiad, a chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod yr anghymhwysiad i ddod i ben.

5

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn diwedd cyfnod o ddwy flynedd sy'n cychwyn ar ddyddiad y cais, ac y mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais dilynol.

Terfynu aelodaeth ac atal dros dro aelodau13

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod o Gyngor o dan reoliad 3 neu, yn achos aelodau o Gynghorau sy'n parhau, i unrhyw berson a benodwyd yn aelod o dan reoliad 2 o Reoliadau 2004.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—

a

na fyddai er budd y gwasanaeth iechyd yn nosbarth Cyngor; neu

b

na fyddai'n gydnaws â rheolaeth dda Cyngor,

pe bai person yn parhau i ddal ei swydd, caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (7), symud y person hwnnw o'r swydd honno.

3

Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person a benodwyd bellach yn anghymwys i'w benodi o dan reoliad 12, caiff Gweinidogion Cymru symud y person hwnnw o'r swydd honno.

4

Os yw person a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Cyngor, neu o gyfarfod o bwyllgor Cyngor, pan oedd yn ofynnol bod y person hwnnw yn gwasanaethu ar y pwyllgor hwnnw, am gyfnod o dri mis neu ragor, caiff Gweinidogion Cymru symud y person hwnnw o'r swydd honno, oni fodlonir hwy—

a

bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

b

bod y person hwnnw yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r fath o fewn pa bynnag gyfnod a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.

5

Cyn gwneud penderfyniad i symud person o'i swydd o dan unrhyw un o'r paragraffau uchod, caiff Gweinidogion Cymru atal deiliadaeth swydd y person hwnnw am ba bynnag gyfnod yr ystyriant yn rhesymol.

6

Rhaid i berson yr atelir ei benodiad o dan baragraff (5) beidio â chyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Cyngor.

7

Ni chaiff Gweinidogion Cymru derfynu nac atal tymor aelod yn ei swydd o dan y rheoliad hwn heb ymgynghori â'r Cyngor, y Bwrdd CIC ac, os nad Gweinidogion Cymru a benododd yr aelod, y corff perthnasol a'i penododd.

8

Bydd person sy'n peidio â bod yn aelod yn rhinwedd gweithredu paragraffau (2) neu (4) yn anghymwys i'w ailbenodi yn aelod am gyfnod o ddwy flynedd.

Ymddiswyddo o fod yn aelod14

1

Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y'i penodwyd ar ei gyfer drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a gaiff, onid hwy a benododd yr aelod, roi gwybod i'r corff perthnasol a'i penododd yn ogystal ag i'r Bwrdd CIC, cyn gynted ag y bo modd ar ôl cael yr hysbysiad ysgrifenedig o ymddiswyddiad.

2

Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad drwy hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1) yn cael effaith fydd—

a

os pennir dyddiad yn yr hysbysiad fel y dyddiad pan fydd yr ymddiswyddiad yn cael effaith, y dyddiad hwnnw; a

b

mewn unrhyw achos arall, y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad.

RHAN IIITrafodion Cynghorau

Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd15

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4), (5) ac (8), rhaid i aelodau Cyngor ethol—

a

un o'u plith i fod yn gadeirydd; a

b

un o'u plith, ac eithrio'r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd,

am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, ond heb fod yn hwy mewn unrhyw achos na gweddill tymor swydd yr aelod a etholir fel aelod; a rhaid i'r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a'r Bwrdd CIC o enwau'r personau a etholir felly, ar unwaith mewn ysgrifen.

2

Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel cadeirydd neu is-gadeirydd Cyngor o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

3

Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd Cyngor os yw'r aelod hwnnw hefyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd pwyllgor lleol o dan reoliad 17(1)(ch).

4

Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd Cyngor onid yw'r aelod hwnnw yn gymwys i'w benodi neu i'w ail benodi ar y Bwrdd CIC o dan reoliadau 34 a 35 yn eu tro.

5

Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd Cyngor am gyfnod hwy nac y mae'n gymwys i aros ar y Bwrdd CIC.

6

Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd honno ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Prif Swyddog, a bydd yn rhaid i'r Prif Swyddog hysbysu Gweinidogion Cymru a'r Bwrdd CIC ar unwaith mewn ysgrifen.

7

Pan fo cadeirydd neu is-gadeirydd wedi ymddiswyddo rhaid i'r aelodau ethol cadeirydd neu is-gadeirydd arall yn unol â pharagraff (1).

8

Yn achos Cynghorau sy'n parhau, caiff cadeirydd ac is-gadeirydd a etholwyd o dan reoliad 11 o Reoliadau 2004 wasanaethu am weddill y cyfnod yr etholwyd hwy drosto hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod cyfnod o wasanaeth yn hwy na dwy flynedd.

Cymhwyso rheoliadau 17 i 1916

Dim ond i Gynghorau newydd fel y'u diffinnir yn rheoliad 2 y mae rheoliadau 17 i 19 yn gymwys. Fel y cyfryw, mae cyfeiriadau yn rheoliadau 17 i 19 at Gyngor a Chyngor perthnasol i'w dehongli yn unol â hynny.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel Pwyllgorau Lleol17

1

Rhaid i'r Cynghorau a restrir wrth rifau 1 i 6 yng ngholofn 1 o Atodlen 2—

a

penodi pwyllgorau a elwir yn “bwyllgorau lleol” y Cyngor ar gyfer pob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol perthnasol, neu rannau ohonynt a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

b

rhoi i'r pwyllgorau lleol gyfrifoldeb dros—

i

monitro cynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn eu dosbarth a'u cadw dan arolygiaeth barhaus;

ii

cydweithredu â phwyllgorau lleol eraill y Cyngor perthnasol er mwyn bodloni'r angen am ddarpariaeth deg o'r gwasanaeth drwy gyfanrwydd dosbarth y Cyngor perthnasol; a

iii

ymgymryd â'r fath weithgareddau drwy gyfanrwydd dosbarth y Cyngor perthnasol a gwneud y fath o swyddogaethau'r Cyngor ag y caiff y Cyngor neu'r pwyllgor gweithredol eu dirprwyo neu benderfynu arnynt, yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y mae'r Cyngor neu'r pwyllgor gweithredol yn eu hystyried sy'n briodol;

c

penodi yn aelodau o bob pwyllgor lleol yr aelodau hynny a benodir o dan reoliad 6 gan yr awdurdod lleol perthnasol, ac o dan reoliadau 7 ac 8 mewn perthynas â'r ardal llywodraeth leol berthnasol;

ch

yn ddarostyngedig i baragraff (2), sicrhau bod aelodau pob pwyllgor lleol yn ethol un o'u plith i fod yn gadeirydd, ac un o'u plith, heblaw'r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd am gyfnod o hyd at ddwy flynedd, ond heb fod mewn unrhyw achos yn hwy na gweddill tymor yr aelod hwnnw yn aelod o'r Cyngor perthnasol.

2

Ni chaniateir penodi aelod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd pwyllgor lleol os yw'r aelod hwnnw hefyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y Cyngor perthnasol o dan reoliad 15(1).

3

Rhaid i bwyllgor gweithredol y Cyngor perthnasol benderfynu ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog pwyllgorau lleol, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel pwyllgorau cynllunio gwasanaethau18

1

O ran Cyngor—

a

rhaid iddo benodi pwyllgor cynllunio gwasanaethau i gysylltu â'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ynglŷn â chynllunio a datblygu'r modd y cyflenwir gwasanaethau iechyd o fewn dosbarth y Cyngor ac unrhyw gynigion i newid hynny;

b

caiff roi'r cyfrifoldeb i'r pwyllgor cynllunio gwasanaethau am gyflawni pa bynnag rai eraill o swyddogaethau'r Cyngor a bennir gan y Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol;

c

rhaid iddo sicrhau nad yw aelodaeth y pwyllgor cynllunio gwasanaethau yn llai na chwech, a'i fod yn cynnwys:

i

y cyfarwyddwr neu gyfarwyddwyr sydd â chyfrifoldeb am gynllunio gwasanaethau ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol;

ii

o leiaf un aelod o bob un o'r pwyllgorau lleol yn ei ddosbarth; a

iii

o leiaf un aelod o'r pwyllgor gweithredol a benodir o dan reol 19.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(c), caiff penodiadau i bwyllgor cynllunio gwasanaethau gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o Gyngor.

3

Rhaid i bwyllgor gweithredol y Cyngor perthnasol benderfynu ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog pwyllgorau cynllunio gwasanaethau, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau sydd i'w hadwaen fel pwyllgorau gweithredol19

1

O ran Cyngor—

a

rhaid iddo benodi pwyllgor gweithredol i arolygu ymddygiad a pherfformiad pob pwyllgor lleol perthnasol ac i sicrhau y cyflawnir dyletswyddau statudol a swyddogaethau craidd y Cyngor yn effeithiol drwy gyfanrwydd dosbarth Cyngor;

b

rhaid iddo roi i'r pwyllgor gweithredol gyfrifoldeb dros gymryd neu dros ddirprwyo i bwyllgor arall a ffurfiwyd o dan y Rheoliadau hyn bob penderfyniad terfynol ar arfer swyddogaethau'r Cyngor, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

i

ymateb i bob ymgynghoriad ar wasanaethau iechyd o fewn dosbarth Cyngor;

ii

dyroddi datganiadau neu gyhoeddiadau i'r wasg a chyfryngau eraill;

iii

penodi pwyllgorau a chyd-bwyllgorau o'r Cyngor o dan reoliadau 20 a 21;

iv

dirprwyo swyddogaethau ar ran y Cyngor i unrhyw bwyllgor o'r Cyngor;

v

ymdrin â materion sy'n codi wrth arfer swyddogaethau eiriolaeth y Cyngor o dan reoliad 31;

vi

cymeradwyo pob newid i orchmynion sefydlog Cyngor;

vii

paratoi a chymeradwyo adroddiadau'r Cyngor sy'n ofynnol gan reoliad 25;

viii

paratoi a chymeradwyo cyfrifon y Cyngor sy'n ofynnol gan reoliad 41; a

ix

unrhyw fater arall sy'n ymwneud â gweithrediad y gwasanaeth iechyd o fewn dosbarth Cyngor;

c

caiff roi cyfrifoldeb i'r pwyllgor gweithredol dros gyflawni pa bynnag rai eraill o swyddogaethau'r Cyngor a bennir gan y Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol; ac

ch

rhaid iddo sicrhau bod aelodaeth y pwyllgor gweithredol yn cynnwys—

i

cadeirydd ac is-gadeirydd y Cyngor;

ii

cadeirydd ac is-gadeirydd pob pwyllgor lleol perthnasol; a

iii

Prif Swyddog y Cyngor.

2

Penderfynir ar gyfansoddiad a gorchmynion sefydlog cyntaf y pwyllgor gweithredol gan Weinidogion Cymru, a dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

Penodi pwyllgorau eraill gan Gyngor20

1

Heb ragfarnu rheoliadau 17, 18, 19 a 21, caiff Cyngor benodi un neu fwy o bwyllgorau eraill o'r Cyngor dros gyflawni rhai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau'r Cyngor, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau y tybia'r Cyngor sy'n briodol.

2

Penodir aelodau i bwyllgorau o dan y rheoliad hwn yn ôl disgresiwn y Cyngor sy'n penodi, a chaiff penodiadau o'r fath gynnwys yn rhannol, bersonau nad ydynt yn aelodau o Gyngor.

3

Yn achos Cynghorau newydd rhaid i'r pwyllgor gweithredol benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgor gweithredol y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

4

Yn achos Cynghorau sy'n parhau rhaid i'r aelodau benderfynu cyfansoddiad a rheolau sefydlog pwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond os yw mwyafrif yr aelodau yn cymeradwyo hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu. Yn y rheoliad hwn, ystyr mwyafrif yr aelodau yw mwyafrif yr aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio.

Penodi cyd-bwyllgorau gan Gyngor21

1

Heb ragfarnu rheoliadau 17, 18, 19 a 20, caiff Cyngor, ar y cyd ag un neu ragor o Gynghorau eraill, benodi cyd-bwyllgor o'r Cynghorau hynny i arfer, yn ddarostyngedig i ba bynnag gyfyngiadau ac amodau a gytunir rhwng y Cynghorau hynny, rhai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau pob un o'r Cynghorau hynny.

2

Os oes un neu fwy o Gynghorau newydd yn penodi cyd-bwyllgor rhaid i'r pwyllgor gweithredol, neu, os yw'n ymwneud â mwy nag un Cyngor newydd, rhaid i bwyllgor gweithredol pob Cyngor o'r fath sy'n penodi, benderfynu gyda'i gilydd, ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth y pwyllgorau gweithredol hynny y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu.

3

Os oes un neu fwy o'r Cynghorau sy'n parhau yn penodi cyd-bwyllgor, rhaid i'r Cyngor neu'r Cynghorau sy'n penodi, benderfynu ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y cyd-bwyllgorau a benodir o dan y rheoliad hwn, a dim ond gyda chymeradwyaeth mwyafrif aelodau Cyngor neu Gynghorau o'r fath y caniateir eu hamrywio neu eu dirymu. Yn y rheoliad hwn, ystyr mwyafrif aelodau yw mwyafrif yr aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio.

Trafodion Cynghorau22

Mae darpariaethau Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael eu heffaith mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion Cyngor.

Swyddogion23

1

Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod gan y Cynghorau y nifer o swyddogion sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn ddigonol i alluogi'r Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

a

i gyflogi person sy'n dderbyniol i Gyngor i weithredu fel ei Brif Swyddog;

b

i ymgynghori â Chyngor, ac yn ddarostyngedig i fod unrhyw swyddog unigol a ddynodir yn cael ei dderbyn gan y Cyngor, i gyflogi personau i weithredu fel pa bynnag swyddogion eraill i'r Cyngor ag sy'n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael ei gyfarwyddo.

3

Yn achos Cynghorau newydd, caiff personau a gyflogir o dan y rheoliad hwn gynnwys person a elwir yn Ddirprwy Brif Swyddog pwyllgor lleol a sefydlir o dan reoliad 17.

4

Rhaid i wasanaethau'r personau a gyflogir yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) gael eu rhoi ar gael i'r Cyngor gan y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru honno yn ystod cyfnod eu cyflogaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill24

1

Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â Chyngor—

a

darparu i'r Cyngor pa bynnag swyddfa a mannau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau; a

b

sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer pa bynnag wasanaethau gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a gwasanaethau eraill, y gall fod eu hangen, ym marn Gweinidogion Cymru, ar gyfer y cyfryw fannau.

2

Er mwyn galluogi Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau caiff Gweinidogion Cymru roi ar gael i'r Cyngor pa bynnag gyfleusterau (gan gynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, offer neu gyfarpar) a ddarperir ganddynt ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf, fel y bo'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol i arfer unrhyw un neu'r cyfan o'u swyddogaethau o dan y rheoliad hwn a/neu cânt ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd neu'r Byrddau Iechyd Lleol beri bod gwasanaethau pa bynnag o'u cyflogeion ar gael i'r Cyngor, fel y bo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo .

Adroddiadau25

1

Erbyn 1 Medi bob blwyddyn, rhaid i Gyngor gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar y modd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn honno, a pha bynnag faterion eraill a fynnir gan Weinidogion Cymru.

2

Rhaid i unrhyw adroddiad gynnwys y materion canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain—

a

manylion o'r modd y cyflawnwyd swyddogaethau o dan reoliadau 26 a 31; a

b

manylion am y modd yr ymgysylltodd y Cyngor â'r boblogaeth leol a grwpiau cymunedol o fewn ei ddosbarth, a'r modd y bu'r Cyngor yn adlewyrchu yn briodol y safbwyntiau a gasglwyd o ganlyniad i'r ymgysylltu hwnnw.

3

Rhaid i Gyngor—

a

darparu copïau o'r adroddiad i bob corff gwasanaeth iechyd perthnasol a phob awdurdod lleol perthnasol ac i'r cyfryw sefydliadau gwirfoddol a ystyria'n briodol neu a fynnir gan Weinidogion Cymru, o fewn dosbarth y Cyngor; a

b

cymryd pa bynnag gamau a ystyrir yn briodol gan y Cyngor i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad yn hysbys i'r cyhoedd yn ei ddosbarth.

RHAN IV

Cyflawni swyddogaethau26

1

Mae dyletswydd ar bob Cyngor i graffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd o fewn ei ddosbarth, gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaeth hwnnw a chynghori unrhyw Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG perthnasol ynghylch y cyfryw faterion y tybia'r Cyngor sy'n briodol ynglŷn â gweithredu'r gwasanaeth iechyd yn ei ddosbarth.

2

Wrth gyflawni ei swyddogaethau rhaid i bob Cyngor rhoi sylw i'r canlynol—

a

yr angen i ymgysylltu yn gyson ac yn systematig â'r boblogaeth leol a grwpiau cymunedol o fewn ei ddosbarth er mwyn cynrychioli safbwynt y cyhoedd yn briodol ynglŷn â'r modd y gweithredir y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fewn y dosbarth hwnnw;

b

yr angen i ystyried unrhyw gynnig i ddarparu gwasanaeth newydd, neu newid y gwasanaeth, yng ngoleuni'r cyfryw flaenoriaethau cyfredol, adnoddau a strwythurau llywodraethu yr hysbyswyd y Cyngor yn eu cylch gan Weinidogion Cymru; ac

c

yr angen i werthuso yn gyson y gwasanaethau iechyd presennol o fewn ei ddosbarth.

Ymgynghori â Chynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol27

1

Mae dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG perthnasol yng Nghymru (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “corff GIG perthnasol yng Nghymru”), mewn perthynas â'r gwasanaethau iechyd y maent yn gyfrifol amdanynt, i gynnwys Cyngor—

a

wrth gynllunio i ddarparu'r gwasanaethau hynny;

b

wrth ddatblygu'r modd y darperir y gwasanaethau hynny ac ystyried cynigion ynglŷn â newid hynny; ac

c

yn y penderfyniadau sydd i'w gwneud gan y corff hwnnw, a fydd yn effeithio ar weithredu'r gwasanaethau hynny;

ac y mae dyletswydd ar bob Ymddiriedolaeth GIG perthnasol yng Nghymru i ymgynghori â Chyngor ar ddechrau a thrwy gydol unrhyw gyfryw broses o gynllunio, datblygu, ystyried neu wneud penderfyniadau, yn unol ag unrhyw ganllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi.

2

Mae dyletswydd ar bob Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr, (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “corff GIG perthnasol yn Lloegr”) mewn perthynas â'r gwasanaethau iechyd y maent yn gyfrifol amdanynt, i ymgynghori â Chyngor wrth—

a

cynllunio'r modd y darperir y gwasanaethau hynny;

b

datblygu'r ffordd y darperir y gwasanaethau hynny ac ystyried cynigion ynglŷn â newid hynny; ac

c

gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar weithredu'r gwasanaethau hynny;

ac y mae dyletswydd ar bob corff GIG perthnasol yn Lloegr i ymgynghori â Chyngor ar ddechreuad a thrwy gydol unrhyw gyfryw broses o gynllunio, datblygu, ystyried neu wneud penderfyniadau.

3

Pan fo cynnig dan ystyriaeth gan gorff GIG perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr ar gyfer datblygiad sylweddol yn y gwasanaeth iechyd o fewn dosbarth Cyngor, neu amrywiad sylweddol yn y modd y darperir gwasanaeth o'r fath, rhaid iddo ymgynghori â'r Cyngor hwnnw ar ddechrau a thrwy gydol y cyfryw broses o ystyried neu amrywio.

4

Nid yw paragraffau (1), (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynigion i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Gorff GIG perthnasol yn Lloegr nac i gynigion i amrywio neu ddirymu Gorchymyn Bwrdd Iechyd Lleol neu Orchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth GIG neu Orchymyn yn sefydlu corff GIG yn Lloegr.

5

Nid yw paragraffau (1), (2) na (3) yn gymwys i unrhyw gynigion os bodlonir y corff gwasanaeth iechyd perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr bod rhaid gwneud penderfyniad ar y cynigion hynny heb ganiatáu ar gyfer ymgynghori, er budd y gwasanaeth iechyd neu oherwydd y risg i ddiogelwch neu les cleifion neu aelodau o'r staff; ond mewn achos o'r fath rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yr Awdurdod Iechyd Strategol, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a'r Ymddiriedolaeth GIG hysbysu'r Cyngor ar unwaith ynglŷn â'r penderfyniad a'r rheswm pam na fu ymgynghoriad.

6

Caiff Cyngor yr ymgynghorwyd ag ef gan gorff GIG perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) wneud sylwadau ar y cynnig yr ymgynghorwyd arno erbyn pa bynnag ddyddiad a bennir gan y corff gwasanaeth iechyd perthnasol.

7

Mewn unrhyw achos pan nad yw Cyngor wedi ei fodloni bod—

a

yr ymgynghoriad ar unrhyw gynnig y cyfeirir ato ym mharagraffau (1), (2) a (3) wedi bod yn ddigonol o ran ei gynnwys neu'r amser a ganiatawyd; neu

b

yr ymgynghoriad ar unrhyw gynnig y cyfeirir ato ym mharagraffau (1), (2) a (3) wedi bod yn ddigonol o ran ymgynghori â Chyngor ar ddechreuad unrhyw gynnig o'r fath; neu

c

yr ymgynghoriad ar unrhyw gynnig y cyfeirir ato ym mharagraffau (1), (2) a (3) wedi bod yn ddigonol o ran amlder yr ymgynghori â Chyngor trwy gydol y broses o gynnig a gwneud penderfyniad; neu

ch

pan fo paragraff (5) yn gymwys, y rheswm a roddir gan y corff gwasanaeth iechyd perthnasol yn ddigonol,

caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a chaiff Gweinidogion Cymru fynnu i'r corff GIG perthnasol yng Nghymru, a gofyn i'r corff GIG perthnasol yn Lloegr, gynnal pa bynnag ymgynghoriad neu ymgynghoriad pellach â Chyngor ag y tybiant sy'n briodol.

8

Os mynnir bod ymgynghori pellach yn digwydd o dan baragraff (7), rhaid i'r corff GIG perthnasol yng Nghymru gan roi sylw i ganlyniad y cyfryw ymgynghori, ailystyried unrhyw benderfyniad y bydd wedi ei wneud mewn perthynas â'r cynnig dan sylw.

9

Mewn unrhyw achos pan fo Cyngor o'r farn na fyddai cynnig a gyflwynwyd o dan baragraffau (1) a (3) gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn fuddiol i'r gwasanaeth iechyd yn nosbarth y Cyngor, caiff y Cyngor gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol ar y cynnig, a mynnu bod y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn gweithredu, neu'n ymatal rhag gweithredu yn unol â'u cyfarwyddyd.

Gwybodaeth sydd i'w darparu gan gyrff gwasanaeth iechyd perthnasol28

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Ymddiriedolaeth GIG perthnasol ddarparu i Gyngor pa bynnag wybodaeth ynglŷn â chynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd y maent yn gyfrifol amdanynt ac sy'n dod o fewn dosbarth Cyngor a fynnir yn rhesymol gan y Cyngor er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.

2

Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1) sy'n mynnu bod Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Ymddiriedolaeth GIG perthnasol yn darparu gwybodaeth gyfrinachol ynglŷn ag—

a

diagnosis neu driniaeth unrhyw glaf; neu

b

materion personél sy'n effeithio ar unrhyw swyddog a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Ymddiriedolaeth GIG; neu unrhyw wybodaeth arall y mae'r gyfraith yn gwahardd ei datgelu.

3

Os digwydd i Fwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Strategol, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Ymddiriedolaeth GIG wrthod datgelu i Gyngor unrhyw wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio i Weinidogion Cymru, a bydd penderfyniad Gweinidogion Cymru, ynglŷn ag a yw'r Cyngor yn rhesymol yn mynnu cael yr wybodaeth er mwyn cyflawni ei swyddogaethau, yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.

Mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio29

1

Yn ddarostyngedig i'r paragraffau dilynol yn y rheoliad hwn, caiff aelodau o Gyngor a awdurdodir mewn ysgrifen gan y Cyngor hwnnw, at ddibenion cyflawni un neu ragor o swyddogaethau'r Cyngor, fynd i mewn i fangreoedd ar unrhyw adeg resymol ac archwilio'r mangreoedd hynny, sy'n eiddo i'r canlynol neu dan eu rheolaeth—

a

Byrddau Iechyd Lleol;

b

Awdurdodau Iechyd Strategol;

c

Ymddiriedolaethau GIG;

ch

awdurdodau lleol;

d

Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;

dd

personau sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol neu wasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20065;

e

personau sy'n darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Ddeddf;

f

personau sy'n darparu gwasanaethau a ragbrofir o fewn ystyr adran 92 o'r Ddeddf neu adran 134 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

ff

personau sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol Lleol o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 7 i'r Ddeddf neu baragraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; neu

g

personau sy'n berchnogion neu'n rheoli mangreoedd lle y darperir gwasanaethau fel a grybwyllir yn (dd), (e), (f) neu (g).

2

Rhaid rhoi i bob aelod a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdod, ac wrth geisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.

3

Ac eithrio pan fo Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol er budd y gwasanaeth iechyd neu oherwydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu aelodau o'r staff, ni chaiff aelod a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) fynnu cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni fydd y person neu'r corff sy'n berchen neu sy'n rheoli'r fangre honno wedi cael rhybudd rhesymol o'r bwriad i fynd i mewn iddi.

4

Ni chaiff aelod a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl—

a

ar gyfer personau a gyflogir gan unrhyw un o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) i (d); neu

b

gan bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(dd) i (g),

heb gael caniatâd yn gyntaf gan y personau hynny.

5

Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre ac i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, rhaid i Gyngor roi sylw i'r angen i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas cleifion, ac i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru a phan fo'n ymarferol rhaid i'r Cyngor gydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau cyffelyb yn unol ag unrhyw ddeddfiad.

Cyfarfodydd rhwng Cynghorau a Byrddau Iechyd Lleol perthnasol30

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol drefnu cyfarfod, bob tri mis calendr o leiaf, rhwng aelodau'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, sef traean o leiaf o'i aelodau, ac aelodau'r Cyngor, i drafod pa bynnag faterion a gytunir rhwng y Cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Eiriolaeth annibynnol ar gyfer cwynion31

Rhaid i Gynghorau, ar ran Gweinidogion Cymru, ddarparu'r gwasanaethau eiriolaeth annibynnol y mae'n ofynnol eu darparu o dan adran 187 o'r Ddeddf, ar gyfer personau sy'n 18 mlwydd oed neu'n hŷn

RHAN VY Bwrdd CIC

Swyddogaethau32

1

Bydd y Bwrdd CIC a sefydlwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau 2004 yn parhau mewn bodolaeth o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

2

Yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen, bydd gan y Bwrdd CIC y swyddogaethau canlynol—

a

rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;

b

cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;

c

cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron Gweinidogion Cymru;

ch

monitro perfformiad Cynghorau gyda'r nod o ddatblygu a sicrhau cysondeb safonau ymhlith yr holl Gynghorau;

d

monitro ymddygiad aelodau a benodir o dan reoliad 3 gyda'r nod o sicrhau safonau priodol o ymddygiad;

dd

monitro ymddygiad a pherfformiad swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23 gyda'r nod o sicrhau safonau priodol o ymddygiad; ac

e

gweithredu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 33.

Gweithdrefn Gwynion33

1

Rhaid i'r Bwrdd CIC, o 1 Ebrill 2010 ymlaen, barhau i wneud darpariaeth ar gyfer trin ac ystyried cwynion a wneir ynghylch arfer unrhyw rai o swyddogaethau Cyngor neu'r Bwrdd CIC.

2

Os bydd y Bwrdd CIC yn penderfynu diwygio'r weithdrefn gwynion a ddyfeiswyd yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r Bwrdd CIC sicrhau yn gyntaf bod y weithdrefn newydd wedi cael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn y caniateir gweithredu unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau.

Aelodaeth y Bwrdd CIC34

1

Yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen mae i Fwrdd CIC 12 o aelodau Bwrdd y mae—

a

wyth ohonynt yn bersonau a benodwyd yn gadeiryddion pob un o'r wyth Gyngor;

b

un ohonynt yn un a benodwyd gan y swyddogion a gyflogir o dan reoliad 23, yn gweithredu ar y cyd;

c

un ohonynt yn un a benodwyd i weithredu fel cadeirydd gan yr holl aelodau yn gweithredu ar y cyd drwy bleidlais bost;

ch

un ohonynt yn un a benodwyd i weithredu fel is-gadeirydd gan yr holl aelodau yn gweithredu ar y cyd drwy bleidlais bost; a

d

un ohonynt yn Gyfarwyddwr y Bwrdd CIC.

2

Os digwydd mai canlyniad unrhyw fater y mae'r Bwrdd CIC yn pleidleisio arno yw pleidlais gyfartal, bydd gan Gadeirydd y Bwrdd CIC a benodwyd yn unol â pharagraff (1)(c) bleidlais fwrw.

3

Dim ond swyddog a gyflogir o dan reoliad 23 sy'n gymwys i'w benodi o dan baragraff (1)(b).

4

Rhaid i drefniadau priodol fod wedi eu gwneud ar gyfer dewis a phenodi (gan gynnwys tymor y penodiad) personau yn gadeirydd ac is-gadeirydd gan yr aelodau o dan baragraff (1)(c) a (ch), a rhaid i'r trefniadau hynny gymryd i ystyriaeth—

a

yr egwyddorion a bennir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;

b

y gofynion bod y dull o ddewis a phenodi aelodau yn agored a thryloyw;

c

pan fo'n gymwys, y gofyniad am gystadleuaeth deg ac agored wrth ddewis a phenodi'r ymgeiswyr llwyddiannus.

5

Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(a) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd, fel a bennir wrth wneud y penodiad, heb fod mewn unrhyw achos yn gyfnod hwy na gweddill tymor penodiad yr aelod o'r Bwrdd fel cadeirydd Cyngor o dan reoliad 15.

6

Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraff (1)(b) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd, fel a bennir wrth wneud y penodiad, heb fod mewn unrhyw achos yn gyfnod hwy na gweddill tymor cyflogaeth yr aelod o'r Bwrdd fel swyddog Cyngor o dan reoliad 23.

7

Tymor swydd aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraffau (1)(c) ac (ch) o'r rheoliad hwn yw hyd at ddwy flynedd.

8

Tymor swydd y Cyfarwyddwr yw cyhyd ag y pery tymor ei gyflogaeth fel Cyfarwyddwr.

Cymhwyster Aelodau o'r Bwrdd i'w hailbenodi ar y Bwrdd CIC35

1

Caiff aelod o'r Bwrdd a benodir o dan baragraffau (1)(a) i (ch) o reoliad 34 wasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd fan hwyaf.

2

Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddwy flynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) rhaid cyfuno pob cyfnod o wasanaeth fel aelod o'r Bwrdd, sy'n cynnwys pob cyfnod o wasanaeth cyn 1 Ebrill 2010 a phob cyfnod o wasanaeth o ganlyniad i unrhyw benodiad o dan baragraffau (1)(a) i (ch) o reoliad 34.

3

Nid yw aelod o'r Bwrdd sy'n dal ei le ar y Bwrdd CIC yn rhinwedd ei gyflogaeth fel Cyfarwyddwr y Bwrdd CIC yn ddarostyngedig i uchafswm cyfnod o wasanaeth ar y Bwrdd CIC. Fe bery cyfnod ei wasanaeth ar y Bwrdd cyhyd ag y'i cyflogir fel Cyfarwyddwr.

4

Caiff aelod o Gyngor sy'n parhau a benodwyd ar y Bwrdd CIC o dan reoliad 24 o Reoliadau 2004 wasanaethu am weddill y tymor y'i penodwyd drosto hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yr aelod hwnnw'n gwasanaethu'n hwy na dwy flynedd. I osgoi amwysedd, fodd bynnag, bydd darpariaethau paragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys i'r cyfryw aelodau petaent yn ceisio cael eu hail ethol.

Staff Cymorth36

1

Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau y bydd gan y Bwrdd CIC y nifer o swyddogion sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn ddigonol i alluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol—

a

i gyflogi person sy'n dderbyniol i'r Bwrdd CIC i weithredu fel Cyfarwyddwr iddo; a

b

i ymgynghori â'r Bwrdd CIC ac, yn ddarostyngedig i fod unrhyw swyddog unigol a ddynodir yn cael ei dderbyn gan y Bwrdd CIC, i gyflogi'r cyfryw bersonau i weithredu fel swyddogion i'r Bwrdd CIC ag sy'n angenrheidiol ym marn yr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cael ei gyfarwyddo.

3

Bydd y modd y cyflogir person i weithredu fel swyddog y Bwrdd CIC, a chyfnod y penodiad, yn fodd sy'n dderbyniol gan y Bwrdd CIC.

4

Rhaid i wasanaethau personau a gyflogir yn unol â pharagraffau (1) a (2) gael eu rhoi ar gael i'r Bwrdd CIC gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru sy'n cyflogi yn ystod cyfnod eu cyflogaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill37

1

Caiff Gweinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2010 ymlaen ac ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd CIC—

a

parhau i ddarparu i'r Bwrdd CIC pa bynnag swyddfa a mannau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i alluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau; a

b

parhau i sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer pa bynnag wasanaethau gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a gwasanaethau eraill a allai yn eu barn hwy fod yn angenrheidiol ar gyfer y cyfryw fannau.

2

Er mwyn galluogi'r Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau caiff Gweinidogion Cymru roi ar gael i'r Bwrdd CIC pa bynnag gyfleusterau (gan gynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, offer neu gyfarpar) a ddarperir ganddynt ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf, fel y bo'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol i arfer unrhyw un neu'r cyfan o'u swyddogaethau o dan y rheoliad hwn, a/neu cânt ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol beri bod gwasanaethau pa bynnag o'u cyflogeion ar gael i'r Bwrdd CIC, fel y bo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo.

Trafodion38

1

Ar ôl 1 Ebrill 2010 penderfynir ar gyfansoddiad a rheolau sefydlog y Bwrdd CIC gan Weinidogion Cymru a dim ond os cymeradwyir hynny gan Weinidogion Cymru y caniateir eu newid neu eu dirymu.

2

Caiff y Bwrdd CIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau, a chaiff y pwyllgorau ac is-bwyllgorau hynny gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd CIC.

3

Bydd hawl gan gynrychiolydd Gweinidogion Cymru a chynrychiolydd y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru a gyfarwyddir yn unol â rheoliad 36(2), i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau yng nghyfarfodydd y Bwrdd CIC (ond nid yn y penderfyniadau).

Adroddiadau39

Erbyn 1 Medi 2010 ac erbyn 1 Medi ym mhob blwyddyn ddilynol, rhaid i'r Bwrdd CIC gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ar y modd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn honno, a pha bynnag faterion eraill a fynnir gan Weinidogion Cymru.

RHAN VICyllid a Chyfrifon

Cyllid40

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu i'r Bwrdd CIC ac i'r Cynghorau y cyfryw symiau sydd eu hangen ym marn Gweinidogion Cymru er mwyn i'r Bwrdd CIC a phob un o'r Cynghorau gyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, a chaniateir talu'r cyfryw symiau hynny ar y cyfryw adegau ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd.

2

Rhaid i'r Bwrdd CIC gyflwyno i Weinidogion Cymru, yn y ffurf ac erbyn y dyddiad a fynnir gan Weinidogion Cymru, pa bynnag amcangyfrifon a fynnir gan Weinidogion Cymru, o wariant disgwyliedig y Bwrdd CIC yn ystod pa bynnag flynyddoedd ariannol a bennir gan Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i bob Cyngor gyflwyno i'r Bwrdd CIC, yn y ffurf ac erbyn y dyddiadau a bennir gan y Bwrdd CIC, pa bynnag amcangyfrifon a fynnir gan y Bwrdd CIC, o wariant disgwyliedig pob Cyngor yn ystod pa bynnag flynyddoedd ariannol a bennir gan y Bwrdd CIC.

4

Rhaid i'r Bwrdd CIC gadarnhau symiau'r amcangyfrifon a gyflwynir o dan baragraff (3), naill ai gydag addasiadau neu hebddynt neu'n ddarostyngedig i ba bynnag amodau a ystyrir yn briodol gan y Bwrdd CIC, a chaiff y Bwrdd CIC amrywio'r cyfryw gadarnhad neu amodau ar unrhyw adeg, ac argymell symiau o'r fath i Weinidogion Cymru ar gyfer eu talu o dan baragraff (1).

5

Rhaid i'r Bwrdd CIC a'r Cynghorau beidio â thynnu gwariant uwchlaw'r symiau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn.

Cyfrifon41

1

Rhaid i'r Bwrdd CIC a'r Cynghorau, baratoi a chadw pa bynnag gyfrifon mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol a fynnir gan Weinidogion Cymru, a rhaid i'r cyfryw gyfrifon roi golwg wir a theg ar incwm a gwariant a llifau arian y Bwrdd CIC a'r Cynghorau.

2

Rhaid i'r Bwrdd CIC a'r Cynghorau, anfon copi o'u priod gyfrifon blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo modd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

RHAN VIIDirymiadau

Dirymiadau42

Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 20046 a Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 20057 ac eithrio bod rheoliad 32 yn parhau bodolaeth y Bwrdd CIC a sefydlwyd o dan reoliad 23 o Reoliadau 2004 i'r graddau y mae rheoliad 23 o'r rheoliadau hynny yn sefydlu'r Bwrdd CIC.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Cyfanswm yr aelodau sydd i'w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy'n penodi o dan reoliad 3

Rheoliad 3

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Colofn 4

Enw'r Cyngor Iechyd Cymuned

Cyfanswm yr aelodau sydd i'w penodi gan awdurdodau lleol perthnasol

Cyfanswm yr aelodau sydd i'w penodi gan sefydliadau gwirfoddol

Cyfanswm yr aelodau sydd i'w penodi gan Weinidogion Cymru

1

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

15

15

30

2

Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg

9

9

18

3

Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr

18

18

36

4

Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg

6

6

12

5

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

6

6

12

6

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

9

9

18

7

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed

3

3

6

8

Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn

3

3

6

ATODLEN 2Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac, mewn perthynas â Chynghorau newydd, y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt

Rheoliadau 3, 6, 7, 8 ac 17

Colofn 1

Colofn 2

Enw'r Cyngor Iechyd Cymuned

Ardaloedd Awdurdod Lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac, mewn perthynas â Chynghorau newydd, y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt

1

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

i

Blaenau Gwent

ii

Caerffili

i

i.Casnewydd

iv

Mynwy

v

Tor-faen

2

Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg

i

Pen-y-bont ar Ogwr

ii

Castell-nedd Port Talbot

iii

Abertawe

3

Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr

i

Ynys Môn

ii

Sir Ddinbych

iii

Conwy

iv

Sir y Fflint

v

Gwynedd

vi

Wrecsam

4

Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg

i

Caerdydd

ii

Bro Morgannwg

5

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

i

Merthyr Tudful

ii

Rhondda Cynon Taf

6

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

i

Sir Gaerfyrddin

ii

Ceredigion

iii

Sir Benfro

7

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed

Dosbarth Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog sy'n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys

8

Cyngor Iechyd Cymuned Maldwyn

Dosbarth sir Drefaldwyn sy'n ffurfio rhan o Brif Ardal Llywodraeth Leol Powys gan gynnwys cymunedau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn

ATODLEN 3

Rheoliad 22

Cyfarfodydd a Thrafodion Cynghorau

1

Rhaid cynnal cyfarfod cyntaf Cyngor ar y cyfryw ddyddiad ac yn y cyfryw fan a bennir gan Weinidogion Cymru, sy'n gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

2

Rhaid cynnal cyfarfod o'r Cyngor o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dri mis a rhaid i'r cyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd.

3

Ar ôl y cyfarfod cyntaf, caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor unrhyw bryd.

4

Os cyflwynir cais am gynnal cyfarfod, a hwnnw wedi'i lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i'r cadeirydd, a naill ai—

a

mae'r cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod; neu

b

heb wrthod fel y cyfryw, nid yw'r cadeirydd yn galw cyfarfod o fewn deng niwrnod i dderbyn y cais,

caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod ar eu hunion.

5

Cyn pob cyfarfod o Gyngor, rhaid danfon hysbysiad o'r cyfarfod—

a

sy'n nodi'r busnes y cynigir ei drafod yno; a

b

sydd wedi ei lofnodi gan y Prif Swyddog neu gan un o swyddogion y Cyngor a awdurdodwyd gan y Prif Swyddog i arwyddo ar ei ran,

i bob aelod o'r Cyngor, neu ei anfon drwy'r post i'w preswylfa arferol neu eu cyfeiriad busnes arferol, a hynny o leiaf saith niwrnod clir cyn dyddiad y cyfarfod.

6

Ni fydd methu â chyflwyno hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

7

Yn achos cyfarfod a elwir gan aelodau yn hytrach na'r cadeirydd, rhaid i'r aelodau hynny lofnodi'r hysbysiad ac yn y cyfarfod ni cheir trafod unrhyw fusnes ac eithrio'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.

8

Mewn unrhyw gyfarfod o Gyngor rhaid i'r cadeirydd, os yw'n bresennol, lywyddu—

a

os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod rhaid i'r is-gadeirydd, os yw'n bresennol, lywyddu;

b

os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, rhaid i aelod a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol lywyddu.

9

Rhaid penderfynu ynglŷn â phob cwestiwn mewn cyfarfod drwy fwyafrif pleidleisiau yr aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gytbwys, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'n bleidlais fwrw.

10

Ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod onid oes traean o leiaf o'r aelodau yn bresennol (heb gyfrif unrhyw leoedd gwag nac aelodau cyfetholedig).

11

Rhaid llunio cofnodion o'r trafodaethau ym mhob cyfarfod a'u cyflwyno er mwyn cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, a rhaid i'r person sy'n llywyddu yno eu llofnodi.

12

Rhaid cofnodi enwau'r aelodau a'r cadeiryddion sy'n bresennol mewn cyfarfod, yng nghofnodion y cyfarfod.

13

Ym mharagraff 3 o'r Atodlen hon, mae “cadeirydd” yn cynnwys is-gadeirydd sy'n gweithredu fel cadeirydd.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”) yn darparu bod Cynghorau Iechyd Cymuned a sefydlwyd dros ardaloedd yng Nghymru yn parhau mewn bodolaeth. Mae adran 182 hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru amrywio'r ardal yng Nghymru y sefydlwyd Cyngor Iechyd Cymuned drosti, i ddiddymu Cyngor Iechyd Cymuned neu sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned newydd. Mae Atodlen 10 o'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cyfansoddiad, aelodaeth, swyddogaethau a gweithdrefnau Cynghorau Iechyd Cymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 a Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005.

Mae cyfeiriadau yn y Nodyn Esboniadol hwn at rifau rheoliadau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at rifau rheoliadau ac Atodlenni yn y Rheoliadau hyn oni ddynodir yn wahanol.

Mae rheoliad 2 yn cynnwys y rhestr o dermau diffiniedig a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn ymwneud ag aelodaeth y Cynghorau. Mae'n rhagnodi pwy gaiff benodi aelodau o Gyngor ac yn darparu bod cyfanswm yr aelodau sydd i'w penodi ar Gyngor yn cael ei osod yn Atodlen 1. Mae rheoliad 3 hefyd yn galluogi Cyngor i gyfethol pa bynnag aelodau ag sy'n ymddangos i'r Cyngor eu bod yn angenrheidiol iddo gyflawni ei swyddogaethau.

Mae rheoliad 4 yn ymwneud â thymor penodiad aelodau o'r Cyngor ac mae'n cynnwys darpariaeth sy'n ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddwyn i ben dymor swydd aelod o Gyngor a ddiddymir o dan adran 182(2)(c) o'r Ddeddf neu o Gyngor y cymerir ei ardal neu ran o'i ardal gan Gyngor newydd a sefydlir o dan adran 182(2)(d) o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer tymor penodiad aelodau cyfetholedig.

Mae rheoliad 6 yn ymwneud â phenodi aelodau o'r Cyngor gan awdurdodau lleol. Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol y gosodir ei ardal (neu ran ohoni) yng ngholofn 2 o Atodlen 2 wneud tri phenodiad i'r Cyngor a osodir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno. Mae'n rhaid i apwynteion awdurdodau lleol ar Gynghorau fod yn aelodau o'r awdurdod lleol a, phan fyddant yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n penodi, rhaid iddynt, o fewn dau fis, beidio â bod yn aelod o'r Cyngor.

Mae rheoliad 7 yn ymwneud â phenodi aelodau o'r Cyngor gan sefydliadau gwirfoddol. Rhaid i'r sefydliadau gwirfoddol a ddewisir, rhyngddynt, wneud cyfanswm o dri phenodiad i'r Cyngor perthnasol a osodir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ar gyfer pob ardal llywodraeth leol (neu ran ohoni) a osodir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno. Mae rheoliad 7 hefyd yn darparu bod rhaid i bob sefydliad gwirfoddol benodi nifer cyfartal o aelodau'r Cyngor ac, yn rheoliad 7(4) mae'n darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn os na ellir gwneud hynny. Mae'n rhaid i aelodau o'r Cyngor a benodir gan sefydliad gwirfoddol fod yn aelodau o'r gymdeithas wirfoddol neu fod yn gysylltiedig â hi ac, os byddant yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod lleol, rhaid iddynt, o fewn cyfnod o ddau fis, beidio hefyd â bod yn aelod o'r Cyngor.

Mae rheoliad 8 yn ymwneud â phenodi aelodau o'r Cyngor gan Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud chwe phenodiad i Gyngor dros bob ardal llywodraeth leol (neu ran ohoni) a osodir yng ngholofn 2 o Atodlen 2.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i'r cyrff sy'n penodi aelodau o Gyngor fod â threfniadau priodol yn eu lle i ddewis a phenodi'r cyfryw aelodau.

Mae rheoliad 10 yn ymwneud â chymhwyster aelodau i gael eu hail ethol. Caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor am uchafswm o wyth mlynedd.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau sydd eisoes wedi'u penodi ar Gynghorau sy'n parhau mewn bodolaeth ac nas diddymwyd gan Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 sef Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed a Chyngor Iechyd Cymuned Maldwyn. Tymor swydd unrhyw aelod o Gyngor sy'n parhau mewn bodolaeth yw gweddill tymor swydd yr aelod hwnnw, hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod aelod yn gwasanaethu am gyfnod hwy na'r uchafswm o wyth mlynedd a ragnodir yn rheoliad 10 a/neu os yw parhad tymor aelod neu dymhorau aelodau yn golygu bod gan Gyngor sy'n parhau fwy o aelodau, ar sail dros dro, nag y darperir ar ei gyfer yn rheoliadau 6, 7 ac 8. Mae rheoliad 11(2) yn ei gwneud yn glir bod rheoliadau 6, 7, 8 a 10 yn gymwys i Gynghorau sy'n parhau.

Mae rheoliad 12 yn gosod y seiliau ar gyfer anghymhwyso rhag aelodaeth o Gyngor.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer dwyn aelodaeth i ben ac atal dros dro aelodau o Gynghorau ac mae'n gymwys i aelodau a benodir o dan reoliad 3 neu, yn achos Cynghorau sy'n parhau, aelodau a benodir o dan reoliad 2 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004.

Mae rheoliad 14 yn darparu y caiff aelod o Gyngor ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer y dyddiad pan gaiff yr ymddiswyddiad ei effaith.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod rhaid i aelodau o Gyngor ethol un o'u haelodau i fod yn gadeirydd ac un arall o'u plith i fod yn is-gadeirydd. Mae'r rheoliad yn gosod uchafswm tymor y cyfryw benodiad ac amodau eraill y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff person gael ei benodi i'r cyfryw swyddi.

Mae rheoliad 16 yn darparu mai dim ond i Gynghorau a sefydlir gan Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 y mae rheoliadau 17 i 19 yn gynhwysol yn gymwys.

Mae rheoliad 17 yn darparu bod rhaid i Gynghorau a sefydlir gan Orchymyn CIC (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 benodi pwyllgorau a elwir yn bwyllgorau lleol ar gyfer pob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol perthnasol (neu rannau ohonynt) a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2. Mae rheoliad 17(1)(b) yn rhagnodi pa swyddogaethau y mae'n rhaid eu rhoi i bwyllgorau lleol. Mae Rheoliad 17(1)(c) yn rhagnodi pwy y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o'r cyfryw bwyllgorau.

Mae rheoliad 18 yn darparu bod rhaid i Gyngor benodi pwyllgor a elwir yn bwyllgor cynllunio gwasanaethau i gyd gysylltu â'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ynglŷn â gwasanaethau iechyd o fewn dosbarth Cyngor. Mae Rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodaeth a swyddogaethau'r cyfryw bwyllgor.

Mae Rheoliad 19 yn darparu bod rhaid i Gyngor benodi pwyllgor gweithredol i arolygu ymddygiad a pherfformiad pob pwyllgor lleol o fewn ei ddosbarth ac i sicrhau bod dyletswyddau statudol a swyddogaethau craidd y Cyngor yn cael eu cyflawni. Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor o'r fath.

Mae rheoliad 20 yn galluogi Cynghorau i benodi pwyllgorau sy'n ychwanegol at y pwyllgorau y mae'n ofynnol iddynt eu penodi o dan reoliadau 17 i 19 yn gynhwysol. Gellir peri i'r pwyllgorau ychwanegol hyn gyflawni rhai o swyddogaethau Cyngor, ond nid y cyfan ohonynt.

Mae rheoliad 21 yn galluogi dau neu fwy o Gynghorau i benodi cyd-bwyllgor o'r Cynghorau hynny i arfer rhai o swyddogaethau pob un o'r Cynghorau penodi, ond nid y cyfan ohonynt. Mae rheoliad 21 hefyd yn darparu sut mae gorchmynion sefydlog cyd-bwyllgorau o'r fath i gael eu penderfynu. I osgoi amwysedd caiff Cynghorau newydd a Chynghorau sy'n parhau wneud trefniadau â'i gilydd i ffurfio cyd-bwyllgor.

Mae rheoliad 22 yn darparu bod Atodlen 3 yn cael ei heffaith mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion Cyngor.

Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud ag aelodau o Gynghorau sy'n swyddogion. Mae Gweinidogion Cymru dan ddyletswydd i sicrhau bod gan Gynghorau ddigon o swyddogion i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau. Mae rheoliad 23(2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i Fwrdd Iechyd Lleol neu i Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru gyflogi aelodau o Gynghorau sy'n swyddogion ac mae rheoliad 23(4) yn darparu bod rhaid i'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyflogi beri bod gwasanaethau y cyfryw bersonau ar gael i'r Cynghorau dros gyfnod eu cyflogaeth.

Mae rheoliad 24 yn ymwneud â mangreoedd a chyfleusterau Cynghorau. Mae'n darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wedi ymgynghori â Chyngor, ddarparu'r fath swyddfeydd a mannau eraill i Gyngor ag sy'n angenrheidiol i'r Cyngor allu cyflawni ei swyddogaethau ac y byddant yn sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer gwasanaethu'r fath fannau hynny. Mae rheoliad 24(3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni unrhyw un neu'r cyfan o'i swyddogaethau o dan y rheoliad hwn a chânt gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Lleol i beri bod gwasanaethau pa bynnag o'i gyflogeion ag y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo ar gael i'r Cynghorau.

Mae rheoliad 25 yn gosod y rhwymedigaethau adrodd sydd ar Gynghorau.

Mae rheoliad 26 yn gwneud darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau cynghorau a'r materion y mae'n rhaid i Gynghorau roi sylw iddynt wrth eu cyflawni.

Mae rheoliad 27 yn gosod dyletswydd ar gyrff GIG penodedig i ymgynghori â Chynghorau. Mae'n gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol y mae eu hardaloedd, neu rannau ohonynt, yn cyfateb i ddosbarth Cyngor ac ar Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw o fewn dosbarth Cyngor i gynnwys y Cyngor hwnnw (1) wrth gynllunio a darparu'r gwasanaethau iechyd sy'n gyfrifoldeb iddynt, (2) mewn cynigion i newid y ffyrdd y darperir y gwasanaethau hynny a (3) mewn penderfyniadau fydd yn effeithio ar weithrediad y gwasanaethau hynny. Rhaid i ymgynghori gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru fod yn unol â Chanllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae rheoliad 27 hefyd yn gosod dyletswydd ar Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol, Awdurdodau Iechyd Strategol ac Ymddiriedolaethau GIG yn Lloegr sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw o fewn dosbarth Cyngor i ymgynghori â Chyngor yn yr amgylchiadau a osodir yn rheoliad 27(2). Mae rheoliad 27 hefyd yn gosod yr amgylchiadau pan nad oes angen ymgynghoriad, gallu Cyngor i wneud sylwadau ar gynigion yr ymgynghorwyd ag ef yn eu cylch a beth y caiff Cyngor ei wneud os yw o'r farn i'r ymgynghoriad fod yn annigonol.

Mae rheoliad 28 yn ymwneud â gwybodaeth sydd i'w rhoi i Gynghorau gan gyrff gwasanaeth iechyd.

Mae rheoliad 29 yn darparu y caiff aelodau o Gyngor sydd ag awdurdodiad ysgrifenedig oddi wrth y Cyngor hwnnw, at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r Cyngor, ar unrhyw adeg resymol fynd i mewn i fangreoedd ac archwilio mangreoedd sydd ym mherchnogaeth neu dan reolaeth y personau/y cyrff a restrir yn rheoliad 29(1). Mae rheoliad 29 hefyd yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau Cyngor yn mynd i mewn i fangreoedd a'u harchwilio.

Mae rheoliad 30 yn ymwneud â chyfarfodydd rhwng Cynghorau a Byrddau Iechyd Lleol.

Mae rheoliad 31 yn darparu y bydd Cynghorau, ar ran Gweinidogion Cymru, yn darparu gwasanaethau annibynnol eiriolaeth cwynion i bersonau sy'n 18 oed a throsodd.

Mae rheoliad 32 yn darparu ar gyfer parhad y Bwrdd CIC ac yn pennu swyddogaethau'r Bwrdd.

Mae rheoliad 33 yn darparu bod rhaid i'r Bwrdd CIC barhau i wneud darpariaeth ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch arfer swyddogaethau Cyngor neu'r Bwrdd CIC. Rhaid i'r Bwrdd CIC gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn diwygio'r weithdrefn.

Mae rheoliad 34 yn rhagnodi aelodaeth y Bwrdd CIC a thymor swydd y gwahanol fathau o aelod o'r Bwrdd.

Mae rheoliad 35 yn gwneud darpariaeth ynghylch tymor penodi aelodau o'r Bwrdd CIC a'u cymhwystra at gael eu hail benodi. Mae rheoliad 35(4) hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag aelod o Gyngor sy'n parhau a benodwyd ar y Bwrdd CIC o dan reoliad 24 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004.

Mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaethau ynghylch aelodau o'r Bwrdd CIC sy'n swyddogion. Mae Gweinidogion Cymru dan ddyletswydd i sicrhau bod gan y Bwrdd CIC ddigon o swyddogion i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau. Mae rheoliad 36(2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru i gyflogi aelodau o'r Bwrdd CIC sy'n swyddogion ac mae rheoliad 36(4) yn darparu bod rhaid i'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyflogi beri bod gwasanaethau'r cyfryw bersonau ar gael i'r Bwrdd CIC dros gyfnod eu cyflogaeth.

Mae rheoliad 37 yn ymwneud â mangreoedd a chyfleusterau'r Bwrdd CIC. Mae'n darparu y caiff Gweinidogion Cymru, wedi ymgynghori â'r Bwrdd CIC, ddarparu'r fath swyddfeydd a mannau eraill i'r Bwrdd ag sy'n angenrheidiol i'r Bwrdd allu cyflawni ei swyddogaethau ac y byddant yn sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer gwasanaethu'r fath fannau hynny. Mae rheoliad 37(3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Lleol i gyflawni unrhyw un neu'r cyfan o'i swyddogaethau o dan y rheoliad hwn a chânt gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Lleol i beri bod gwasanaethau pa bynnag o'i gyflogeion ag y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo ar gael i'r Bwrdd.

Mae rheoliad 38 yn ymdrin â thrafodion y Bwrdd CIC.

Mae rheoliad 39 yn rhagnodi rhwymedigaethau adrodd y Bwrdd CIC.

Mae rheoliad 40 yn gwneud darpariaethau ynghylch darparu cyllid i Gynghorau ac i'r Bwrdd CIC.

Mae rheoliad 41 yn darparu bod rhaid i'r Cynghorau a'r Bwrdd CIC gadw'r fath gyfrifon ag sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru a bod rhaid i'r Cynghorau a'r Bwrdd CIC anfon i Weinidogion Cymru gopïau o'u cyfrifon blynyddol cyn gynted ag y bo modd wedi diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae rheoliad 42 yn dirymu Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 a Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005.