2010 Rhif 2759 (Cy.231)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2010.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 20073.

Diwygio Rheoliadau 20073

1

Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i reoliad 62 (cyfrifo incwm grant) o'r Rheoliadau hynny, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff (2C) rhodder y canlynol–

2

There must also be disregarded from a student’s grant income—

a

any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 57 to 59 of the Education (Student Support) Regulations 20094 which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under chapter 2 of Part 6 of those Regulations;

b

any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 38 or 39 of the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 20095 which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulations 46 to 48 of those Regulations; and

c

any sum by way of maintenance grant available to a student under regulation 58 of the Education (Student Support) (No.2) Regulations (Northern Ireland) 20096 which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulation 66 of those Regulations.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio a pheidio â chodi tâl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar bobl ar incwm isel, ymhlith eraill, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau person a'r gofynion o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a yw person yn gymwys i hawlio na ddylid codi tâl y GIG arno ac y dylid talu iddo dreuliau teithio'r GIG, cymhwysir ato fersiwn ddiwygiedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau at reoliadau cyllido myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn gosod allan yr hawliau i grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr. Diystyrir symiau penodol o grantiau cynnal myfyrwyr wrth gyfrifo hawliau myfyrwyr i gael eu treuliau teithio wedi'u talu ac i beidio â chodi tâl arnynt o dan y prif Reoliadau.