xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2712 (Cy.228)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

9 Tachwedd 2010

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1) o ran Cymru, ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau y cyfeirir atynt yn adran 5(5) o'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 61(2)(2) o'r Ddeddf honno, cafodd offeryn drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010.

(2Deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.

(3Maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

2.—(1Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “iâr ddodwy”, mewnosoder—

(3Yn Atodlen 4 (Adar: Gofynion Wrth Roi Triniaethau Penodol a Ganiateir)—

(a)yn lle paragraff A1 (pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1), rhodder—

Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1

A1.  Ni chaniateir rhoi'r triniaethau a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1, ac eithrio tocio pigau (gweler paragraff 5), ar y canlynol—

(1) ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol; neu

(2) iâr ddodwy, neu gyw y bwriedir iddo fod yn iâr ddodwy, a gedwir mewn sefydliad sydd â 350 neu fwy o adar o'r fath.

(b)yn lle paragraff 5 (tocio pigau dofednod), rhodder—

5.  Tocio pigau dofednod

(1) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid i'r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas.

(2) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid atal unrhyw waedlif sy'n dod o'r big yn sgil hynny drwy ei serio.

(3) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid rhoi'r driniaeth a ganlyn—

(a)y big uchaf a'r big isaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean o bob un wedi ei dynnu, neu

(b) y big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu.

(4) Ar gyfer ieir dodwy a chywion y bwriedir iddynt ddod yn ieir dodwy, a gedwir mewn sefydliadau sydd â 350 neu fwy o adar o'r fath–

(a)caniateir tocio pigau yn unig er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth;

(b)caniateir tocio pigau yn unig drwy ddefnyddio technoleg is-goch;

(c)ni chaniateir tocio pigau adar sy'n 10 niwrnod oed neu drosodd; ac

(ch)rhaid i'r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan berson a gafodd wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi'r driniaeth.

(5) Nid yw is-baragraffau (4)(b) ac (c) yn gymwys os rhoddir y driniaeth mewn argyfwng er mwyn rheoli brigiad o bigo plu neu ganibaliaeth.

(6) Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol–

(a)caniateir i'r driniaeth gael ei rhoi yn unig er mwyn atal pigo plu a chanibaliaeth;

(b)ni chaniateir i'r driniaeth gael ei rhoi i adar sy'n 10 niwrnod oed neu drosodd;

(c)rhaid i'r driniaeth gael ei rhoi gan berson a gafodd wybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi'r driniaeth; ac

(ch)rhaid i'r driniaeth gael ei rhoi yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg a chael cyngor ganddo..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1029) (Cy.96) (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn pennu'r triniaethau a ganiateir nad yw'r tramgwyddau yn adran 5(1) a (2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p. 45) yn gymwys iddynt os rhoddir y triniaethau hynny yn unol â'r gofynion perthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer triniaethau tocio pigau y caniateir eu gwneud yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol ac ieir dodwy (gan gynnwys cywion y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy).

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod diffiniad o “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol”. Diwygir paragraff A1 (Pob triniaeth yn yr adran ar adar yn Atodlen 1) o Atodlen 4 (Adar: Gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) i gyfyngu ar y triniaethau y caniateir eu rhoi i ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol (rheoliad 2(3)(a)). Mae'r newidiadau'n rhoi ar waith baragraff 12 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC sy'n gosod y rheolau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir a gedwir er mwyn cynhyrchu cig (OJ Rhif L 182, 12.7.2007, t.19).

Mae rheoliad 2(3)(b) yn amnewid paragraff 5 newydd yn Atodlen 4 i Reoliadau 2007. Mae is-baragraffau (4) a (5) o'r paragraff 5 newydd yn cyflwyno newidiadau i'r driniaeth ar gyfer tocio pigau ieir dodwy a chywion y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy mewn sefydliadau sydd â 350 neu fwy o ieir dodwy. Mae'r newidiadau'n rhoi ar waith y rhanddirymiad ym mharagraff 8 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy (OJ Rhif L 203, 3.8.1999, t.53).

Effaith is-baragraff (4) o'r paragraff 5 perthnasol yw y caiff person wedi ei hyfforddi ddefnyddio technoleg is-goch yn unig i dynnu hyd at draean o big isaf ac/neu uchaf adar o dan 10 niwrnod oed er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth. Mae is-baragraff (5) yn datgymhwyso'r gofyniad i ddefnyddio technoleg is-goch ac i roi'r driniaeth yn unig i adar sydd o dan 10 niwrnod oed pan fo tocio pigau yn cael ei wneud mewn argyfwng i reoli brigiad o bigo plu neu ganibaliaeth. Ond mewn achos o'r fath bydd y gofynion yn is-baragraffau (1), (2) a (3) yn parhau i fod yn gymwys.

Effaith is-baragraff (6) o'r paragraff 5 perthnasol yw bod tocio pigau ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol yn cael ei ganiatáu pan fo'r adar o dan 10 niwrnod oed er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth. Rhaid i driniaeth o'r fath gael ei rhoi gan berson sydd wedi ei hyfforddi'n addas yn dilyn ymgynghori â milfeddyg a chael cyngor ganddo.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi cael ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth y Tîm Lles Anifeiliaid, Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.45. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru ac maent wedi eu breinio bellach ynddynt. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf.

(2)

2006 p.45. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi mae'r cyfeiriad yn adran 61(2) at “House of Parliament” yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)

OJ Rhif L 157, 17.6.08, t.46, y gwnaed cywiriad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L 189, 20.7.07, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 967/2008 (OJ Rhif L 264, 3.10.08, t.1).