- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(1) yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid” (“the Animal Feed Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010;”; a
(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 183/2005” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid, sy'n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau'r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC;”.
(3) Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 15 (tramgwyddau, cosbau a gorfodi) hepgorer y geiriau “sy'n cynhyrchu bwyd”.
(4) Yn lle paragraff (13) o reoliad 24 (pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig) rhodder y paragraff a ganlyn—
“(13) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) yr un ystyr ag sydd i “compound feed” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(h) o Reoliad 767/2009; a
(b)mae i “bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethiadol penodol” (“feeding stuff which is intended for a particular nutritional purpose”) yr un ystyr ag sydd i “feed intended for particular nutritional purposes” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(o) o Reoliad 767/2009.”.
(5) Yn y testun Saesneg, ym mharagraff (1)(b) o reoliad 30 (y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi), ar ôl y gair “his” mewnosoder y geiriau “or her”.
(6) Ym mhob un o'r rheoliadau 35(1) a (2), 36(1) a (3) a 37(1) a (2) ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn” mewnosoder “neu'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid”.
(7) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig)—
(a)yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”; a
(b)ychwaneger ar y diwedd “Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid.”.
16.—(1) Diwygir Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(2) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (4)(a) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y geiriau “neu 7”.
(3) Yn nhestun Cymraeg paragraff (2) o reoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 ac 19 o Reoliad 882/2004) yn lle'r geiriau “Erthygl 19(1)(a) a (b)” rhodder y geiriau “Erthygl 19(1)(a) neu (b)”.
(4) Ym mharagraff 1(a) o reoliad 41 (tramgwyddau a chosbau) mewnosoder y gair “mewnforio” rhwng y geiriau “darpariaethau” a “penodedig”.
(5) Ym mharagraff (dd) o Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”.
17. Dirymir y Rheoliadau neu'r rhannau ohonynt a restrir yn Atodlen 2.
O.S. 2005/3368 (Cy.265) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/590 (Cy.66), O.S. 2006/3256 (Cy.296), O.S. 2009/3376 (Cy. 298) ac O.S. 2010/2287 (Cy.199).
O.S. 2009/3376 (Cy.298) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/2287 (Cy.199).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: