Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
23 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
1 Ionawr 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn wrth arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(e), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy'n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “darpariaeth benodedig” (“specified provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn sydd wedi'i phennu yng Ngholofn 1 o'r Atodlen ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng Ngholofn 2 o'r Atodlen;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; ac
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten (4).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5) i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(6), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;
rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuoliwyd hwy iddo.
3.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth benodedig yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
4. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r darpariaethau penodedig yn gymwys i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod ai peidio.
5. Mae'r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(7), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys o ran tramgwydd o dan adran 14 neu 15 ac y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “labelling, advertising or presentation”;
(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(8), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);
(f)adran 35(2) a (3)(9), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);
(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(10); ac
(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2010
Rheoliadau 2(1) a 3(1)
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 3(1), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) | Gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten— (a) a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu (b) sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten, beidio bod â lefel glwten sy'n uwch na 100 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol. |
Erthygl 3(2), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) | Gofyniad bod rhaid i labelu, hysbysebu a chyflwyno deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad at glwten— (a) a gyfansoddir o neu sy'n cynnwys un neu fwy o gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten; neu (b) sy'n cynnwys cynhwysion sy'n disodli gwenith, rhyg, haidd, ceirch neu eu hamrywiaethau trawsfridiol a hefyd gynhwysion sydd wedi'u gwneud o wenith, rhyg, haidd, ceirch neu o'u hamrywiaethau trawsfridiol a broseswyd yn arbennig er mwyn lleihau glwten, fod yn dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu a chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol. |
Erthygl 3(3), fel y'i darllenir gydag Erthygl 3(5) |
|
Erthygl 3(4) |
|
Erthygl 3(6) | Gofyniad bod rhaid i'r termau “very low gluten” a “gluten-free” y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(2) a (4) ymddangos wrth ymyl yr enw y gwerthir y deunydd bwyd perthnasol i bobl ag anoddefiad at glwten oddi tano. |
Erthygl 4 a | Gwaharddiad ar labelu, hysbysebu a chyflwyno— (a) deunyddiau bwyd i'w bwyta'n arferol; neu (b) deunyddiau bwyd at ddibenion maethol penodol sydd wedi cael eu fformiwleiddio, eu prosesu neu eu paratoi'n arbennig i gyfarfod anghenion dietegol arbennig heblaw rhai'r bobl hynny sydd ag anoddefiad tuag at glwten ond sydd fodd bynnag yn addas, yn rhinwedd eu cyfansoddiad, i gyfarfod anghenion dietegol arbennig pobl sydd ag anoddefiad tuag at glwten, sy'n dwyn y term “very low gluten”, er y dichon labelu, hysbysebu chyflwyno'r deunyddiau bwyd hynny fodd bynnag ddwyn y term “gluten-free” cyhyd ag nad yw'r cynnwys glwten yn uwch na 20 mg/kg yn y bwyd fel y'i gwerthir i'r defnyddiwr terfynol. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yno Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 sy'n ymwneud â chyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten (OJ Rhif L16, 21.1.2009, t.3) (“Rheoliad y Comisiwn”) fel y'i darllenir gydag Erthygl 10(2) o Gyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau bwyd y bwriedir eu defnyddio at ddibenion maethol penodol (OJ Rhif L124, 20.5.2009, t.21).
2. Mae Rheoliad y Comisiwn yn gosod gofynion ar gyfer cyfansoddiad a labelu deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a deunyddiau bwyd eraill sy'n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten, yn benodol parthed defnyddio'r termau “very low gluten” a “gluten-free”.
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));
(b)yn darparu cosbau am dramgwyddau (rheoliad 3(2));
(c)yn pennu'r awdurdod gorfodi (rheoliad 3(3));
(ch)yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys parthed deunyddiau bwyd i bobl ag anoddefiad tuag at glwten a osodir ar y farchnad fanwerthu p'un ai a fyddant wedi'u pecynnu'n barod fel y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 10(2) o Gyfarwyddeb 2009/39/EC (rheoliad 4) ai peidio; a
(d)yn darparu ar gyfer cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5).
4. Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol parthed costau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol sydd â chyfrifoldeb yn eu tro dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a drosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
OJ Rhif L16, 21.1.2009, t.3.
1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w benodi.
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.