- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Rhaid i berson cofrestredig—
(a)bodloni'r gofynion a bennir yn Rhan 5 fel y maent yn gymwys i'r person hwnnw; a
(b)wrth ddarparu'r gofal a ddarperir ganddo, rhoi sylw i anghenion pob plentyn unigol a warchodir neu y darperir gofal dydd iddo.
(2) Bydd unrhyw fethiant ar ran y person cofrestredig—
(a)i fodloni unrhyw ofyniad perthnasol a bennir yn Rhan 5; neu
(b)i roi sylw i'r mater a bennir ym mharagraff (1)(b),
yn fater y caiff Gweinidogion Cymru ei gymryd i ystyriaeth wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn unrhyw achos o dan y Rhan honno o'r Mesur.
13. Pan fo mwy nag un person cofrestredig ar gyfer darpariaeth gofal dydd i blant perthnasol yn yr un fangre, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol iddo gael ei wneud, ei wneud o dan y Rheoliadau hyn gan y person cofrestredig, os gwnaed y peth hwnnw gan un o'r personau cofrestredig eraill.
14.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol sy'n ymwneud â'r math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.
(2) Bydd unrhyw honiad bod y person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1) yn fater y caiff Gweinidogion Cymru ei gymryd i ystyriaeth wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur ac mewn unrhyw achos o dan y Rhan honno o'r Mesur.
15.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio, mewn perthynas â'r gwaith gwarchod plant neu'r ddarpariaeth gofal dydd y'i cofrestrwyd ar ei gyfer neu ar ei chyfer, datganiad ar bapur (“y datganiad o ddiben”) a rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys —
(a)datganiad o nodau ac amcanion;
(b)datganiad ynghylch ystod oedran, rhyw a nifer y plant y bwriedir darparu gofal ar eu cyfer gan y person cofrestredig ac ynghylch yr ystod anghenion y mae'r person yn bwriadu ei diwallu;
(c)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu neu i'w rhoi ar gael i blant perthnasol;
(ch)datganiad ynghylch y gweithgareddau sydd i'w darparu ac ynglŷn â'r iaith neu'r ieithoedd y darperir y gweithgareddau ynddynt; a
(d)datganiad o'r telerau ac amodau y darperir gofal yn unol â hwy i blant perthnasol pan fo'r person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n darparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant, neu y darperir gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) nac yn rheoliad 37 sy'n gwneud yn ofynnol bod y person cofrestredig yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â'r canlynol, nac yn ei awdurdodi i wneud hynny—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall o'r Rheoliadau hyn; neu
(b)yr amodau sydd mewn grym ar y pryd mewn perthynas â chofrestriad y person cofrestredig o dan Ran 2 o'r Mesur.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cadw'r datganiad o ddiben dan arolwg, a phan fo'n briodol, ei ddiwygio; a
(b)pan fo'n ymarferol, hysbysu'r swyddfa briodol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath, 28 diwrnod cyn y bo'r diwygiad i gael effaith.
16.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) darparu—
(a)ar gyfer adolygu ansawdd y gofal yn flynyddol, o leiaf; a
(b)i'r person cofrestredig gasglu safbwyntiau—
(i)plant perthnasol;
(ii)rhieni plant perthnasol;
(iii)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol; a
(iv)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol,
ynglŷn ag ansawdd y gofal a ddarperir, yn rhan o unrhyw adolygiad a ymgymerir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod, baratoi adroddiad ar yr adolygiad, a rhoi copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano gan—
(a)rhieni plant perthnasol;
(b)awdurdod lleol sy'n trefnu ar gyfer gwarchod neu ddarparu gofal dydd i blentyn perthnasol;
(c)personau a gyflogir i ofalu am blant perthnasol; ac
(ch)Gweinidogion Cymru.
17.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn, ar unrhyw adeg, i'r person cofrestredig gyflawni asesiad o'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i blant perthnasol.
(2) O fewn 28 diwrnod ar ôl cael cais o dan baragraff (1) rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno'r asesiad i'r swyddfa briodol yn y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw'r asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
18.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, hysbysu'r person cofrestredig ynglŷn â pha gamau y mae'n rhaid iddo'u cymryd, ym marn Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rhan 2 o'r Mesur ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru bennu terfyn amser ar gyfer gweithredu gan y person cofrestredig fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r swyddfa briodol pan fo unrhyw weithredu fel sy'n ofynnol dan baragraff (1) wedi ei gwblhau.
19. Mae person cofrestredig sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i, neu rywfodd arall yn peidio â chydymffurfio â—
(a)Rheoliadau 15 i 18; a
(b)Rhannau 3 a 5,
yn euog o dramgwydd, ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: