xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2543 (Cy.212) (C.122)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010

Gwnaed

18 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

Diwrnodau penodedig

2.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—

(a)adran 88;

(b)adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)adrannau 90 a 91;

(ch)adran 92 ac eithrio isadran 8(b):

(d)adrannau 93 i 95;

(dd)adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 97;

(f)adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(3);

(ff)adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;

(g)adran 108:

(ng)adran 167;

(h)adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);

(i)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—

3.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 5 Ionawr 2011 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

(a)adrannau 98 a 99; a

(b)adran 102.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 88 i 99, 102, 108 a 167 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 31 Hydref 2010. Mae adrannau 98, 99 a 102 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion gwneud rheoliadau ar 31 Hydref 2010 ac yn cychwyn yn llawn ar 5 Ionawr 2011.

Mae adran 88 i 96 yn ymwneud â disgyblaeth ac ymddygiad mewn ysgol a gwaharddiad o'r ysgol. Maent yn sefydlu pŵer statudol i orfodi disgyblaeth ysgol a mesurau mwy penodedig sy'n ymwneud â disgyblion a waharddwyd a chyfrifoldeb rhieni am ymddygiad plant. Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn ailddeddfu darpariaethau cyfreithiol eraill ar gyfrifoldebau cyrff llywodraethu am ddisgyblu a phenderfyniad y pennaeth ar bolisi ymddygiad.

Mae adrannau 97 i 99 yn ymestyn argaeledd contractau rhianta a gorchmynion rhianta mewn perthynas â chamymddwyn mewn ysgol.

Mae adran 102 yn caniatáu ar gyfer rheoliadau a all ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid drefnu cyfweliadau ailintegreiddio ar gyfer disgyblion a waharddwyd.

Mae adran 108 yn ymestyn pwerau'r heddlu i symud triwantiaid o fannau cyhoeddus yn ystod oriau ysgol yn adran 16 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i gynnwys disgyblion a waharddwyd.

Mae adran 167 yn diwygio adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel bod y gofyniad i ymgynghori â disgyblion a osodwyd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gymwys mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg feithrin.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 130 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 41 Medi 20092009/1027 (Cy.89)
Adran 37(1) a (2)(a)30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 381 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 3930 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 401 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Adrannau 43-4530 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 4730 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 5330 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 559 Chwefror 20092008/1429 (Cy.148)
Adran 57 yn rhannol15 Mawrth 20102010/736 (Cy.73)
gweddill2 Ebrill 2010
Adran 89 yn rhannol1 Ionawr 20102009/2545 (Cy.207)
Adran 96 yn rhannol1 Ionawr 20102009/2545 (Cy.207)
Adran 15630 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 1641 Medi 20092009/1027 (Cy.89)
Adran 16630 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 16912 Hydref 20092009/2545 (Cy.207)
Adran 17012 Hydref 20092009/2545 (Cy.207)
Adran 17112 Hydref 20092009/2545 (Cy.207)
Adran 17530 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol1 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol1 Medi 20092009/1027 (Cy.89)
Adran 184 yn rhannol1 Ionawr 20102009/2545 (Cy.207)
Adran 184 yn rhannol2 Ebrill 20102010/736 (Cy.73)
Atodlen 5 yn rhannol15 Mawrth 20102010/736 (Cy.73)
gweddill2 Ebrill 2010
Atodlen 1730 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol1 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol1 Medi 20092009/1027 (Cy.89)
Atodlen 18 yn rhannol1 Ionawr 20102009/2545 (Cy.207)
Atodlen 18 yn rhannol2 Ebrill 20102010/736 (Cy.73)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).

(1)

2006 p.40. Diwygir adran 181 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2).

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).