2010 Rhif 2447 (Cy.210)
Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2010. Daw i rym ar 1 Tachwedd 2010.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cymeradwyo trapiau sbring2
1
At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi'u cymeradwyo, sef—
a
unrhyw drap sbring—
i
o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a
ii
sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu'r cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a
b
unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.
2
Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.
3
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.
Dirymu3
Dirymir Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring 19953 i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
YR ATODLEN
Colofn (1) | Colofn (2) |
---|---|
Y math o drap a'i wneuthuriad | Amodau |
Aldrich Spring Activated Animal Snare gweithgynhyrchydd: Mr D Schimetz, PO Box 158, Sekiu, Washington 98381, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cigysyddion mawr, mamalaidd, anghynhenid. Rhaid defnyddio'r trap yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarparwyd gan y gweithgynhyrchydd. |
BMI Magnum 55 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
BMI Magnum 110 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
BMI Magnum 116 gweithgynhyrchydd: Butera Manufacturing Industries, 1068 E 134th Street, Cleveland, Ohio, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
DOC 150 gweith gynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
DOC 200 gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
DOC 250 gweithgynhyrchydd: Department of Conservation, Wellington, New Zealand. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os oes rhai) a ddarperir gan y gweithgynhyrchydd. |
Fenn Rabbit Trap Mark I gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal cwningod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Fenn Vermin Trap Mark I, Vermin Trap Mark II, Vermin Trap Mark III a Vermin Trap Mark IV (Heavy Duty) gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, High Street, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891 fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno, a'r Springer No 4 Multi-purpose (Heavy Duty) a weithgynhyrchwyd gan neu o dan awdurdod AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Fenn Vermin Trap Mark VI (Dual Purpose) gweithgynhyrchydd: Mr A A Fenn o FHT Works, Hoopers Lane, Astwood Bank, Redditch, Worcestershire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 763,891, a'r Springer No 6 Multi-purpose a weithgynhyrchwyd gan neu o dan awdurdod AB Country Products Ltd, Troy Industrial Estate, Jill Lane, Sambourne, Near Astwood Bank, Redditch, Worcestershire. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a dargedwyd. |
Fuller Trap gweithgynhyrchydd: Fuller Industries, Three Trees, Loxwood Road, Bucks Green, Rudgwick, Sussex. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd. Rhaid i'r trap fod wedi'i ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Imbra Trap Mark I a Mark II, gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 682,427 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 4 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trapiau ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Juby Trap gweithgynhyrchydd: y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Whitehall Place, London SW1 ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 813,066 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, cwningod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Kania Trap 2000 gweithgynhyrchydd: C E Kania Corporation, 124-21, 10405, Jasper Avenue, Edmonton, Alberta, Canada. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, mincod, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid i'r trap fod wedi'i ffitio â thwnnel artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Kania Trap 2500 gweithgynhyrchydd: Kania Industries Inc, 63 Centennial Road, Nanaimo, British Columbia, Canada, V9R 6N6. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)4 gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Lloyd Trap gweithgynhyrchydd: National Research Corporation, ac a bennwyd ym Manyleb Patent Prydain Rhif 987,113 ac fel a ddarlunnir yn ffigurau 1 i 3 o'r Fanyleb honno. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Nooski gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, New Zealand. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod mawr. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Nooski mouse trap gweithgynhyrchydd: Nooski Trap Systems, PO Box 1240, 50 White Street, Rotorua, New Zealand. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Sawyer Trap gweithgynhyrchydd: James S Low and Sons Ltd, Atholl Smithy, Atholl Street, Blairgowrie, Perthshire. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd neu ddal gwiwerod llwyd, carlymod, gwencïod, llygod mawr a llygod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Skinns Superior Squirrel Trap gweithgynhyrchydd: E.Skinns Ltd., Witham Road, Woodhall Spa, Lincolnshire, LN10 6QX. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Solway Spring Trap Mk 4 gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)5 gwiwerod llwyd, llygod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
Solway Spring Trap Mk 6 gweithgynhyrchydd: Solway Feeders Ltd, Main Street, Dundrennan, Kirkcudbright, DG6 4QH. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd pathewod bwytadwy (glis glis)6 gwiwerod llwyd, llygod, mincod, cwningod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap mewn twnnel naturiol neu artiffisial sy'n addas i leiafu'r cyfleoedd o anafu neu ladd rhywogaeth nas targedwyd heb gyfaddawdu ar ddal a lladd y rhywogaeth a dargedwyd. |
WCS Collarum gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, CT 06026, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben atal llwynogod. |
WCS Tube Trap gweithgynhyrchydd: Wildlife Control Supplies, LLC, PO Box 538, East Granby, CT 06026, USA. | Ni ddefnyddir y trap ond at ddiben lladd gwiwerod llwyd, mincod, llygod mawr, carlymod a gwencïod. Rhaid gosod y trap yn y twnnel a ddarperir gan weithgynhyrchydd y trap ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU a rhaid ei ddefnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau (os gweithgynhyrchydd. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)