Cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau neu eu dilysu

3.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys os cydnabyddir person (neu os caiff ei drin fel pe cydnabyddir ef), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(cb) o Ddeddf 1997(1), a'i fod yn dyfarnu neu'n dilysu cymhwyster sy'n cael ei achredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.

(2Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, bernir bod y person yn cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu'r cymhwyster hwnnw neu'r disgrifiad hwnnw o gymhwyster.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).