Cymwysterau dadansoddwyr
5. Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5), i'r graddau y mae'r adran honno'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid, a'r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE, yw'r canlynol—
(a)rhaid i'r dadansoddwr fod—
(i)yn Gemegydd Siartredig neu feddu ar Feistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a
(ii)yn Gymrawd neu Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a
(b)rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd o dan adran 67(3).