RHAN 2Gofynion amrywiol mewn perthynas â samplu a dadansoddi
Cymwysterau dadansoddwyr5
Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5), i'r graddau y mae'r adran honno'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid, a'r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE, yw'r canlynol—
a
rhaid i'r dadansoddwr fod—
i
yn Gemegydd Siartredig neu feddu ar Feistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a
ii
yn Gymrawd neu Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a
b
rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd o dan adran 67(3).