- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Diwygir y Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4” (“point 4 compliant laboratory”);
(b)yn lle'r diffiniad o “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) rhodder y diffiniad canlynol—
“ystyr “modd rhagnodedig” (“prescribed manner”) yw'r modd a ragnodir gan Reoliad (EC) Rhif 152/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu'r dulliau o samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar fwyd anifeiliaid neu fel arall, yn unol ag Erthygl 11(1) o Reoliad 882/2004;”; ac
(c)hepgorer y diffiniad o “cyfran a samplwyd” (“sampled portion”).
(3) Yn lle rheoliad 29 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi)) rhodder y canlynol—
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod gorfodi benodi un neu ragor o ddadansoddwyr amaethyddol mewn cysylltiad â chyflawni ei ddyletswydd o dan reoliad 16.
(2) Rhaid i ddadansoddwr amaethyddol a benodir o dan baragraff (1) feddu ar y cymwysterau hynny a ragnodir mewn perthynas â'r Ddeddf gan reoliad 5 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010.
(3) Rhaid ystyried bod dadansoddwr amaethyddol sydd eisoes wedi ei benodi gan awdurdod gorfodi yn unol ag adran 67(3)(b) o'r Ddeddf wedi ei benodi at ddibenion paragraff (1).”.
(4) Yn rheoliad 30 (y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi)—
(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder y canlynol—
“(b)anfon un rhan i'w dadansoddi at y dadansoddwr amaethyddol ar gyfer yr ardal o'r awdurdod gorfodi y mae awdurdod y swyddog awdurdodedig yn deillio ohono;”;
(b)yn lle paragraff (3), rhodder y canlynol—
“(3) Rhaid anfon y rhan o'r sampl a anfonir at y dadansoddwr amaethyddol ar y cyd â datganiad a lofnodwyd gan y swyddog awdurdodedig sy'n cadarnhau i'r sampl gael ei chymryd yn y modd a ragnodir drwy gyfraith.”; ac
(c)ym mharagraff (4), hepgorer yr ymadrodd “neu, fel y digwydd, y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4,”.
(5) Yn rheoliad 31 (ail samplu gan Gemegydd y Llywodraeth), yn lle paragraff (3)(a) rhodder y canlynol—
“(a)wedi ei chwblhau yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010 ac yn unol â'r nodiadau i'r Atodlen honno; a”.
(6) Yn rheoliad 32 (darpariaethau ychwanegol yn ymwneud â samplu a dadansoddi)—
(a)ym mharagraff (2), hepgorer yr ymadrodd “, y dadansoddwr yn y labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4”; a
(b)ym mharagraff (3) hepgorer yr ymadrodd “, dadansoddwr mewn labordy sy'n cydymffurfio â phwynt 4”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: