xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Gofynion amrywiol mewn perthynas â samplu a dadansoddi

Dulliau o anfon sampl derfynol

4.  Pan fo'n ofynnol anfon unrhyw sampl derfynol at unrhyw berson yn unol ag—

(a)paragraff 8 o Atodiad I i Reoliad 152/2009;

(b)adran 77(1) neu (2);

(c)adran 78(1)(a), (2) neu (4);

(ch)rheoliad 30(1), (2) neu (5) neu 31(2) o'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid; neu

(d)rheoliad 6(2)(b) neu (c) o'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE,

ceir ei hanfon drwy unrhyw ddull priodol neu ei danfon â llaw.

Cymwysterau dadansoddwyr

5.  Y cymwysterau rhagnodedig ar gyfer dadansoddwr at ddibenion adran 67(5), i'r graddau y mae'r adran honno'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid, a'r cymwysterau gofynnol ar gyfer person sy'n dadansoddi bwyd anifeiliaid at ddibenion y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE, yw'r canlynol—

(a)rhaid i'r dadansoddwr fod—

(i)yn Gemegydd Siartredig neu feddu ar Feistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a

(ii)yn Gymrawd neu Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol; a

(b)rhaid i brofiad ymarferol y dadansoddwr o archwilio bwyd anifeiliaid gael ei ardystio gan ddadansoddwr arall a benodwyd o dan adran 67(3).

Dadansoddi ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol

6.—(1Pan fo sampl o fwyd anifeiliaid i gael ei dadansoddi yn unol ag—

(a)adran 75(1) (sampl a ddadansoddir ar gais y prynwr); neu

(b)adran 78(1) (dadansoddi pellach gan Gemegydd y Llywodraeth) i'r graddau nad yw'r is-adran honno'n ymwneud â rheolaethau swyddogol,

rhaid defnyddio'r dull dadansoddi priodol a bennir, os oes un, yn Rheoliad 152/2009.

(2Mewn achosion pan na phennir dull dadansoddi priodol yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni'r dadansoddi yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 11(1)(a) neu, fel y bo'n briodol, (b), o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir er mwyn sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â'r gyfraith ar fwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(1), fel y'u darllenir ar y cyd â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y cynnydd yn lefel rheolaethau swyddogol ar fewnforion o fwyd anifeiliaid penodol a bwydydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid penodol ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(2).

Ffurf tystysgrif dadansoddi

7.  Rhaid i dystysgrif dadansoddi unrhyw fwyd anifeiliaid, a anfonir yn unol ag—

(a)adran 77(4);

(b)rheoliad 30(4) neu 31(3) o'r Rheoliadau Hylendid Bwyd Anifeiliaid; neu

(c)rheoliad 6(2)(b) o'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid AE,

fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 1 a rhaid ei llenwi yn unol â'r nodiadau i'r Atodlen honno.

(1)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Nodir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 yn awr mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y gellid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29).

(2)

OJ Rhif L194, 25.7.2009. t.11.