xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amddiffyniad i achosion cyfreithiol mewn perthynas â niwsans statudol

10.—(1Os dygir achos cyfreithiol o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) (achos gerbron ynadon gan berson a dramgwyddir gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy'n dod o fewn paragraff (g) o adran 79(1) o'r Ddeddf honno (sŵn sy'n dod o fangre fel ei fod yn rhagfarnu iechyd neu'n niwsans) rhaid peidio â gwneud gorchymyn, ac ni chaniateir gosod dirwy, o dan adran 82(2) o'r Ddeddf honno os dengys y diffynnydd—

(a)bod y niwsans yn ymwneud â mangre a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd awdurdodedig ac y gellir tadogi'r niwsans ar wneud y gweithfeydd awdurdodedig sy'n cael eu gwneud yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(2) neu â chydsyniad a roddwyd o dan adran 61 neu 65 o'r Ddeddf honno; neu

(b)bod y niwsans yn ganlyniad i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi.

(2Ni fydd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, sef—

(a)adran 61(9) (bod cydsyniad i waith ar safle adeiladu i gynnwys datganiad nad yw ynddo'i hun yn ffurfio amddiffyniad mewn achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990), a

(b)adran 65(8) (darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â chydsyniad i fynd dros ben lefel sŵn cofrestredig),

yn gymwys pan fo'r cydsyniad yn ymwneud â defnydd o fangre gan yr ymgymerwr at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn neu mewn cysylltiad â hynny mewn perthynas â gweithfeydd.

(3Gwneir darpariaethau'r erthygl hon heb ragfarnu cymhwysiad adran 122 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(3) (awdurdod statudol fel amddiffyniad i achosion mewn niwsans, etc.) at y gweithfeydd awdurdodedig nac i gymhwysiad unrhyw reol mewn cyfraith gwlad sy'n cael effaith gyffelyb.

Caniatâd cynllunio a materion atodol

11.—(1O ran cymhwyso paragraff 3(c) o'r Ail Atodlen o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) 1969(4) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) (Diwygio) a (Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion a Eithrir) 1975(5), neu fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed), rhaid trin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn barnu bod y caniatâd wedi ei roi ar gais a wnaed o dan Ran 3 o'r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.

(2O ran cymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(6) fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed neu fel y mae'n cael ei effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o'r Rheoliadau hynny, rhaid peidio â thrin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio amlinellol.

(3Rhaid trin caniatâd cynllunio y bernir drwy gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 ei fod wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion pan fo tir i gael ei drin fel tir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Y pŵer i docio coed sy'n tyfu dros ben y gweithfeydd awdurdodedig

12.—(1Caiff yr ymgymerwr dorri i lawr neu docio unrhyw goeden neu berth gerllaw unrhyw ran o'r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri eu gwreiddiau'n ôl, os yw'n credu'n rhesymol bod angen gwneud hynny er mwyn rhwystro'r goeden neu'r berth—

(a)rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw neu weithio'r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir yn y gweithfeydd awdurdodedig; neu

(b)rhag bod yn berygl i deithwyr neu i bobl eraill sy'n defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth arfer pwerau paragraff (1), rhaid i'r ymgymerwr beidio â gwneud difrod dianghenraid i unrhyw goeden na pherth a rhaid iddo dalu iawndal i unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o arfer y pwerau hynny.

(3Dyfernir ar unrhyw anghydfod parthed hawl person i iawndal o dan baragraff (2), neu parthed swm yr iawndal, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Y pŵer i weithio ac i ddefnyddio'r rheilffordd

13.—(1Caiff yr ymgymerwr weithio a defnyddio'r rheilffordd estyniadol a gweithfeydd awdurdodedig eraill fel system drafnidiaeth i gludo teithwyr a nwyddau, neu ran o system felly.

(2Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a ymgorfforir gyda'r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir ganddo, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(7).

Y pŵer i godi taliadau am docynnau teithio

14.  Caiff yr ymgymerwr hawlio, cymryd ac adennill neu ildio codi'r cyfryw daliadau am gludo teithwyr neu nwyddau ar y rheilffordd estyniadol neu am unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill a ddarperir mewn cysylltiad â gweithio'r rheilffordd honno, ag y gwêl yn dda.

Cymhwyso deddfiadau

15.—(1Yn yr erthygl hon ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

(a)o ran pa faint bynnag o'r hen reilffordd sydd ym mherchnogaeth yr ymgymerwr neu sydd wedi'i phrydlesu iddo ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, y dyddiad hwnnw; a

(b)o ran unrhyw ran o'r hen reilffordd nad yw ar y dyddiad hwnnw o dan y cyfryw berchnogaeth neu brydles, y dyddiad pan werthir neu pan brydlesir y rhan honno i'r ymgymerwr.

(2Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol, o'r dyddiad perthnasol ymlaen—

(a)bydd yr hen reilffordd neu unrhyw ran ohoni yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r hen reilffordd ar y dyddiad hwnnw (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd yr ymgymerwr, gan gau allan BRB (Residuary) Limited—

(i)yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r hen reilffordd, a'r hawl i'w harfer; a

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r hen reilffordd (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith), gyda'r bwriad y bydd BRB (Residuary) Limited yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(3Mae unrhyw ddeddfiad yr awdurdodwyd adeiladu a gweithio'r hen reilffordd drwyddo yn cael ei effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(4Yn yr erthygl hon ystyr “BRB (Residuary) Limited” yw'r cwmni o'r enw hwnnw sy'n dwyn y rhif cofrestredig 4146505 a chyda'i swyddfa gofrestredig yn 14 Pentonville Road, Llundain, N1 9HF.

Cymhwyso is-ddeddfau i'r rheilffordd estyniadol

16.—(1Bydd yr is-ddeddfau a wnaed gan Gymdeithas Rheilffordd Llangollen Cyfyngedig mewn perthynas â'r rheilffordd bresennol ac a gadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 4 Gorffennaf 1986 yn gymwys i'r rheilffordd estyniadol megis y maent yn gymwys i'r rheilffordd bresennol.

(2Bydd paragraff (1) yn cael ei effaith mewn perthynas â'r rheilffordd estyniadol neu unrhyw ran ohoni ar y dyddiad y bydd y rheilffordd honno neu unrhyw ran ohoni wedi ei chwblhau ac ar agor i draffig ac o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Trosglwyddo'r rheilffyrdd gan yr ymgymerwr

17.—(1Yn yr erthygl hon—

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff yr ymgymerwr—

(a)brydlesu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson; neu

(b)gwerthu'r rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, i unrhyw berson;

ar y fath delerau ac amodau ag y cytuna'r ymgymerwr a'r trosglwyddai arnynt.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio â phrydlesu na gwerthu'r rheilffyrdd, nac unrhyw ran ohonynt, o dan yr erthygl hon i unrhyw berson ac eithrio gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

(4Oni bai bod y Gorchymyn hwn yn darparu'n wahanol,

(a)bydd yr ymgymeraeth a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i bob darpariaeth statudol a darpariaeth arall sy'n gymwys i'r ymgymeraeth a drosglwyddir ar ddyddiad y brydles neu'r gwerthiant (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith); a

(b)bydd y trosglwyddai, gan gau allan yr ymgymerwr, (i) yn cael yr hawl i'r buddiant o'r holl hawliau, y pwerau a'r breintiau sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir, a'r hawl i'w harfer, a (ii) yn ddarostyngedig i'r holl rwymedigaethau, statudol neu eraill, sy'n ymwneud â'r ymgymeraeth a drosglwyddir (i'r graddau y maent yn parhau mewn bodolaeth ac yn gallu cael effaith) gyda'r bwriad y bydd yr ymgymerwr yn cael ei ryddhau o bob cyfryw rwymedigaeth.

(5Bydd paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir o dan is-baragraff (2)(a) ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant o dan is-baragraff (2)(b).

Cymhwyso cyfraith landlord a thenant

18.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys—

(a)i unrhyw gytundeb i brydlesu'r cyfan neu unrhyw ran o'r rheilffyrdd neu'r hawl i weithio'r cyfryw i unrhyw berson; a

(b)i unrhyw gytundeb a wneir gan yr ymgymerwr gydag unrhyw berson i adeiladu, i gynnal a chadw, i ddefnyddio neu i weithio'r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt,

i'r graddau y mae unrhyw gytundeb o'r fath yn ymwneud â'r telerau y mae unrhyw dir sy'n ddarostyngedig i brydles a roddwyd gan y cytundeb hwnnw neu oddi tano i gael ei ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.

(2Ni fydd unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy'n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn rhagfarnu gweithrediad unrhyw gytundeb y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.

(3Yn unol â hynny, ni fydd deddfiad na rheol gyfreithiol o'r fath yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau partïon i unrhyw brydles a roddwyd drwy unrhyw gytundeb o'r fath neu oddi tano fel ei bod—

(a)yn cau allan neu mewn unrhyw fodd yn addasu unrhyw un neu ragor o hawliau a rhwymedigaethau'r partïon hynny o dan delerau'r brydles, boed hynny mewn perthynas â dirwyn y denantiaeth i ben neu unrhyw fater arall;

(b)yn rhoi neu'n gosod ar unrhyw barti o'r fath unrhyw hawl neu rwymedigaeth sy'n codi allan o unrhyw beth sy'n cael ei wneud neu sy'n ddiffygiol o gael ei wneud neu sy'n gysylltiedig â hynny mewn perthynas â thir sy'n ddarostyngedig i'r brydles, yn ychwanegol at unrhyw hawl neu rwymedigaeth o'r fath y darperir ar ei gyfer yn nhelerau'r brydles; neu

(c)yn cyfyngu unrhyw barti i'r brydles rhag gorfodi (boed hynny drwy achos am iawndal neu mewn modd arall) unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw barti arall o dan y brydles.

Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig

19.  Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr wrth osod llinellau'r gwaith rhestredig neu wrth adeiladu unrhyw waith awdurdodedig; neu

(b)yn ymyrryd â, neu'n symud neu'n symud ymaith unrhyw gyfarpar sy'n perthyn i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Tresmasu

20.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn tresmasu ar unrhyw ran o'r rheilffyrdd; neu

(b)yn tresmasu ar unrhyw dir i'r ymgymerwr yn beryglus o agos at y rheilffyrdd neu at unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithio'r rheilffyrdd neu mewn cysylltiad â hynny,

yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Ni chaiff neb ei gollfarnu o dramgwydd o dan yr erthygl hon oni ddangosir bod hysbysiad yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio â thresmasu ar y rheilffyrdd wedi ei arddangos yn glir ac yn cael ei gynnal a'i gadw ar yr orsaf reilffordd agosaf at y man lle'r honnir y cafodd y tramgwydd ei gyflawni.

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd

21.  Bydd Atodlen 4 yn cael ei heffaith.

Er mwyn diogelu Dŵr Cymru Cyfyngedig

22.  Bydd Atodlen 5 yn cael ei heffaith.

Ardystio planiau, etc.

23.  Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r trawsluniau ac o'r planiau gwaith i Weinidogion Cymru iddynt ardystio eu bod, yn eu tro, yn gopïau cywir o'r trawsluniau a'r planiau gwaith y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac fe dderbynnir dogfen a ardystiwyd yn y modd hwnnw mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

24.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol ei chyflwyno neu y mae awdurdod i'w chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)drwy'r post; neu

(b)gyda chydsyniad y sawl sydd i'w derbyn ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) drwy drosglwyddiad electronig.

(2Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, mae'r hysbysiad neu'r ddogfen wedi ei chyflwyno'n briodol os cyflwynwyd hi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(8) fel y mae i'w chymhwyso at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1), os rhoddodd y person hwnnw gyfeiriad ar gyfer cyflwyno yw'r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar adeg y cyflwyno.

(4Os yw'n ofynnol, neu os oes awdurdod, at ddibenion y Gorchymyn hwn, bod hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei chyflwyno i berson oherwydd bod ganddo unrhyw fuddiant mewn tir, neu ei fod yn feddiannydd tir, ac na ellir canfod enw neu gyfeiriad y person hwnnw wedi ymholi rhesymol caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—

(a)ei gyfeirio at y person hwnnw wrth ei enw neu drwy ei ddisgrifio fel “perchennog”, neu yn ôl y digwydd “meddiannydd”, y tir (gan ddisgrifio'r tir); a

(b)naill ai ei adael yn nwylo'r person sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.

(5Os cyflwynir neu os anfonir hysbysiad neu ddogfen arall y mae'n ofynnol eu cyflwyno neu eu hanfon at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy drosglwyddiad electronig cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni os yw'r sawl sy'n cael yr hysbysiad neu'r ddogfen arall i'w trosglwyddo wedi rhoi ei gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig naill ai yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig.

(6Os yw'r sawl sy'n cael hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynir neu a anfonir drwy drosglwyddiad electronig yn hysbysu'r anfonwr o fewn 7 diwrnod i gael y ddogfen fod ar y sawl sy'n cael y ddogfen angen copi ar bapur o'r cyfan neu unrhyw ran o'r hysbysiad hwnnw neu'r ddogfen arall honno rhaid i'r anfonwr ddarparu copi o'r fath cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(7Caniateir i berson sydd wedi rhoi unrhyw gydsyniad i ddefnyddio trosglwyddiad electronig ddirymu'r cydsyniad hwnnw yn unol â pharagraff (8).

(8Os nad yw person mwyach yn fodlon derbyn trosglwyddiad electronig at unrhyw un neu ragor o ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy drosglwyddiad electronig yn dirymu unrhyw gydsyniad a roddodd at y diben hwnnw; a

(b)bydd y cyfryw ddirymiad yn derfynol ac yn cael ei effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni fydd y dyddiad hwnnw lai na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno.

(9Ni ellir cymryd bod yr erthygl hon yn cau allan defnyddio unrhyw ddull o gyflwyno na ddarperir yn benodol ar ei gyfer ynddi.

Dim adennill dwbl

25.  Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

Cymrodeddu

26.  Cyfeirir unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, oni wneir darpariaeth wahanol ar ei gyfer, at un cymrodeddwr y bydd y partïon yn cytuno arno, neu yn niffyg cytundeb, a benodir ar gais y naill neu'r llall o'r partïon (wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r parti arall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, a bydd yr un cymrodeddwr hwnnw yn dyfarnu ar y gwahaniaeth hwnnw.